Dim un eiliad ddiflas – cân, dawns a’r bwrlésg: Y Pafiliwn Cyngerdd ym Mharc y Rhath

Efallai mai’r ffotograff heddiw o Barc y Rhath yw un o olygfeydd mwyaf adnabyddus y parc, gan edrych ar draws y llyn tuag at y promenâd gyda thŵr a chloc urddasol Cofeb Scott ar ochr chwith y llun.

D332-18-23-13

Edrychwch yn ofalus, fodd bynnag, ar yr adeilad ychydig yn is na’r promenâd ar ochr dde’r ffotograff.  Efallai bod rhywrai sy’n cofio’r strwythur a safai yn yr ardal lle mae teuluoedd bellach yn cael picnic ar y glaswellt ar ddyddiau o haf. Fodd bynnag, nid oes gan y rhan fwyaf o ymwelwyr unrhyw syniad bod un rhan o’r maes chwarae plant presennol unwaith yn gartref i bafiliwn cyngerdd mawreddog a oedd yn darparu adloniant drwy gydol misoedd yr haf.

Mae’n debyg i’r llun gael ei dynnu ar ddechrau’r 1920au, o gofio i’r pafiliwn gael ei agor gan Arglwydd Faer Caerdydd, Yr Henadur James Taylor, ar nos Wener 31 Gorffennaf 1921. Wedi’i chodi ar gost o £4,000 roedd yn cynnwys arena siâp hecsagon, gyda tho rhannol wydr, a oedd yn darparu gorchudd a seddau i gynulleidfa ynghyd â llwyfan cyngerdd ac ystafelloedd newid.

Roedd cerddoriaeth yn y parc wedi’i darparu’n rheolaidd ers 1903, gyda chodi bandstand ychydig islaw’r promenâd. Er bod perfformiadau gan fandiau pres a chorau wedi cael derbyniad da, o fewn ychydig flynyddoedd adroddodd Uwch-arolygydd y Parciau fod awydd a galw am ystod fwy amrywiol o adloniant. O ganlyniad, yn y blynyddoedd yn arwain at 1914 ac yn ystod y rhyfel, roedd partïon cyngerdd yn aml yn cael eu cyflogi gan Bwyllgor y Parciau i berfformio ym Mharc y Rhath.  Fodd bynnag, llesteiriwyd perfformiadau gan absenoldeb llwyfan parhaol ac roedd y gynulleidfa’n aml yn eistedd yn yr awyr agored ac ar drugaredd yr elfennau.

Nod y Pafiliwn Cyngerdd, a agorwyd ym 1921, oedd rhoi adloniant yn y parc ar sail broffesiynol gyda llwyfan o ansawdd theatr a system oleuo. Er mai 750 oedd capasiti cychwynnol yr ardal eistedd dan do, roedd cynlluniau eisoes ar y gweill i gynyddu hyn i 1,200. Aeth anrhydedd cael perfformiad yno gyntaf ar ddiwrnod yr agoriad i Gwmni Vaudeville Mr Bert Grey. Roedd y cwmni o dan yr enw “Pro Rata”, yn cynnwys Katherine Dawn, diddanwr ar y piano; Gwen Maddocks, soprano Cymreig; Ethel Dennison, digrifwraig a dawnsiwr; Tom Minshall, bariton; Billie Sinclair, digrifwr ysgafn; a Bert Grey, digrifwr a dawnsiwr.

Roedd yr adolygiad o’r noson gyntaf yn The Stage yn gadarnhaol iawn:

From the rise of the curtain to the finale there was not a dull moment and whether in song , dance or burlesque the party were equally at home.

Efallai yn bwysicach fyth, cafodd y perfformiad sêl bendith Pwyllgor y Parciau gydag Ernest Williams, y Cyfarwyddwr Cyngerdd, yn ddiau yn tynnu ochenaid o ryddhad ac yn llongyfarch “Pro Rata” ar ddarparu …un o’r sioeau disgleiriaf, gorau a glanaf a welwyd ym Mharc y Rhath ers blynyddoedd.

Yn y blynyddoedd canlynol bu fformat a oedd yn plethu  comedi, dawns a chân yn hynod lwyddiannus, gyda pherfformiadau â thocynnau y rhan fwyaf o nosweithiau am 7.30pm ynghyd â sioeau pnawn ar brynhawniau Mercher a Sadwrn. Daeth hanner cant o filoedd o bobl i gyngherddau yn y pafiliwn yn ystod tymor yr haf 1926.  Ond aeth y record yn y cyfnod hwn i berfformiad gan fand pres, ar brynhawn Sul ym Mehefin 1924, pan lwyddodd 1,800 o bobl wasgu i’r pafiliwn i glywed perfformiad gan y band arobryn The Besses o’ th’ Barn.

Roedd y Pafiliwn Cyngerdd yn nodwedd boblogaidd o Barc y Rhath am dros 30 mlynedd nes y barnwyd ei fod yn strwythurol anniogel ac fe’i datgymalwyd yn 1953. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n gartref i berfformiadau di-rif ac yn aml fe’i defnyddiwyd ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sioeau garddwriaethol a hyd yn oed arddangosfeydd gymnasteg.

Nid agor y Pafiliwn Cyngerdd newydd oedd yr unig nodwedd a dynnodd y torfeydd i Barc y Rhath yn y cyfnod hwn.  Ym mis Awst y flwyddyn ganlynol, syfrdanodd menyw ifanc y gwylwyr ger llaw pan blymiodd o’r balconi ar ben Cofeb Scott i’r llyn a byw i adrodd yr hanes. Ond mwy am hynny a Chofeb Scott yn yr erthygl nesaf yn y gyfres hon yn edrych ar hanes y parc drwy’r casgliad ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Mae Archifau Morgannwg yn cadw sawl set o luniau o’r gerddi a’r llyn ym Mharc y Rhath o’r cyfnod hwn. Mae’r llun uchod, a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gaerdydd Ernest T Bush, yn cael ei gadw yng nghasgliad T F Holley, cyf.: D332/18/23/13.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s