Wedi’i lleoli o fewn gweddillion bryngaer o’r Oes Haearn, credir bod Eglwys y Santes Fair yn dyddio o ail hanner y 13eg ganrif – pan y gallasai fod wedi disodli adeilad cynharach. Ym 1801, roedd yn gwasanaethu poblogaeth o 65; erbyn 1959 roedd ei phlwyf yn cynnwys Trelái i gyd – dros 27,000 o bobl.
Wrth i Drelái ddatblygu, adeiladwyd eglwysi newydd – fel capeli anwes i ddechrau – mewn mannau mwy hygyrch. Roedd y defnydd anaml ohoni a’i lleoliad cymharol anghysbell yn golygu y dioddefodd Eglwys y Santes Fair o fandaliaeth sylweddol. Erbyn diwedd y 1950au, roedd hi bron yn adfail, ond trwy waith ailadeiladu a gychwynnwyd gan y curad, y Parch. Victor Jones, fe’i hadferwyd i’w defnyddio eto ym 1961. Yn y 1970au, fodd bynnag, daeth y defnydd o’r Eglwys at ddiben addoli i ben a throsglwyddwyd y berchnogaeth arni i’r awdurdod lleol.
Ers i Mary Traynor ei braslunio ym 1987, mae’r adeilad unwaith eto wedi mynd yn adfail heb do. Yn 2016, roedd bwa’r gangell ar ei draed o hyd, ynghyd â’r tŵr a oedd wedi dymchwel yn rhannol, ond roedd pob wal arall wedi dadfeilio i’r graddau nad oeddent yn cyrraedd yn uwch na gwasg rhywun.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/1)
- Llawlyfr Swyddogol yr Eglwys yng Nghymru, 1959
- Carlisle, Nicholas: A Topographical Dictionary of the Dominion of Wales (1811)
- http://www.stmaryscaerau.org
- http://www.caerauwithely.org