Mae gan Eglwys y Santes Ffraid wreiddiau Normanaidd, er mai bwa’r gangell yw’r unig nodwedd arwyddocaol i oroesi o’r cyfnod hwnnw. Ailadeiladwyd yr eglwys yn y 14eg ganrif a’i hadfer yn helaeth yn y 1850au. Ychwanegwyd tŵr trillawr yn y 15fed ganrif; er ei fod bellach yn gartref i chwe chloch, mae ei natur sylweddol a chadarn iawn yn awgrymu y cafodd hwn ei ddylunio’n wreiddiol fel adeiledd amddiffynnol.
Fel y gwelir o frasluniau Mary Traynor, mae prif fynedfa’r eglwys ar yr ochr ogleddol, sy’n anarferol. Y tu mewn i’r eglwys mae nifer o gofebion diddorol, yn benodol i aelodau o’r teuluoedd Butler a Wyndham, a oedd yn berchnogion olynol ar Gastell Dwnrhefn yn Southerndown.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
- Newman, John: The Buildings of Wales – Glamorgan
- Orrin, Geoffrey R: Medieval Churches of the Vale of Glamorgan
- Rowlands, Bill: St Bridget’s Church, St Brides Major (Canllaw Eglwys)
- https://en.wikipedia.org/wiki/Dunraven_Castle