Hon yw’r drydedd o bedair erthygl ar ddyddiau cynnar Clwb Pêl-droed Corinthiaid Caerdydd, sy’n fwy adnabyddus yn ddiweddar fel Cardiff Corries. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.
Byddai’r cylch mewnol – pwyllgor AFC Corinthiaid Caerdydd newydd ei ffurfio – yn cyfarfod bob nos Iau yn ystod y tymor am 7.30 fel arfer yn y Criterion Coffee Tavern ar Heol y Bont-faen. Byddai cryn awyrgylch o ddisgwyliad wedi bod wrth ymgynnull ar nos Iau 16 Medi 1898 achos byddai’r tymor newydd yn dechrau ymhen deuddydd.
Roedd George Gallon, ysgrifennydd y clwb, wedi llunio rhestr gemau aruthrol. Yr uwch gynghrair i oedolion yn yr ardal ar y pryd oedd Cynghrair De Cymru. O ystyried mai dim ond wyth tîm oedd yn y gynghrair, ceisiai’r aelodau hefyd chwarae gemau ‘cyfeillgar’ ychwanegol. Roedd Corinthiaid wedi sicrhau gemau yn erbyn pump o’r wyth tîm yng Nghynghrair De Cymru, gan gynnwys pencampwyr presennol y gynghrair, Tŷ-du, a’r tîm yn yr ail safle, Aberdâr.
Sut llwyddon nhw i gael y gemau hyn, pwy a ŵyr, ond mae’n ddigon posibl y bu gyda chymorth George Mercer. Roedd Mercer yn athro yn Ysgol Breswyl Radnor Road ac yn hyfforddi tîm yr ysgol. Chwaraeai hefyd i dîm Athrawon Caerdydd ac, am gyfnod, bu’n Ysgrifennydd y Clwb. O’r cychwyn cyntaf cymerodd Mercer ddiddordeb brwd yng Nghorinthiaid Caerdydd, gyda llawer o’i chwaraewyr yn gyn-ddisgyblion iddo. Drwy ei gysylltiadau â Chynghrair De Cymru a Chymdeithas Bêl-droed De Cymru a Sir Fynwy, byddai Mercer yn adnabod ysgrifenyddion clybiau rhan fwyaf y prif dimau. Mae’n debygol iawn, felly, y bu George Mercer yn allweddol wrth helpu’r Corinthiaid i sicrhau gemau yn erbyn rhai o’r timau gorau yn ne Cymru yn eu tymor cyntaf.
Roedd y rhan fwyaf a oedd yn bresennol ar yr 16eg i fod ddod y dydd Sadwrn canlynol ac roedd llawer iawn i’w ystyried. Yn anad dim, roedd angen trafod trefniadau cyrraedd Cae Partridge yn Llwynypia ar gyfer y gic gyntaf am 4.30pm. Eu gwrthwynebwyr oedd Albions Canolbarth Rhondda, a oedd newydd gael tymor llwyddiannus y flwyddyn flaenorol ac nawr yn rhoi cynnig cyntaf ar Gynghrair De Cymru. Roedden nhw yno i wneud eu marc, dangosodd Canolbarth Rhondda dîm cryf a rhoesant wfft i’r Corinthiaid yn hawdd gyda buddugoliaeth sicr o 5-1. Heb eu digalonni, chwaraeodd y Corinthiaid â’r un un ar ddeg yn eu gêm nesaf yn erbyn Tîm Iau Clwb Pêl Droed Ardal y Barri. Chwaraewyd y gêm yng Nghaeau Athletig Witchell Tregatwg, a chafodd y Corinthiaid eu buddugoliaeth gyntaf gyda sgôr o ddwy gôl i un.
Fodd bynnag, wnaethon nhw fawr o argraff yn Nhregatwg ar ohebydd papur newydd lleol, a ddywedodd mai dim ond diolch i chwarae da gan yr amddiffynfa gefn yr enillon nhw yn erbyn y tîm “gwell” o’r Barri. Bu’r tri mis nesaf yn gyfnod anodd i dîm y Corinthiaid, a gollodd naw o’r deuddeng gêm a chwaraeont yn y cyfnod cyn y Nadolig. Hyd yn oed yn erbyn timau dan anfantais ac, mewn un achos, tîm wrth gefn, bu timau Cynghrair De Cymru yn llawer rhy gryf i’r Corinthiaid a adawodd 6 gôl i mewn i’r rhwyd yn erbyn Tŷ-du, 4 yn erbyn Aberdâr a 3 yn erbyn Porth a oedd yn chwarae gyda dim ond 9 chwaraewr.
Hefyd, mae’n ddigon posibl bod penderfyniad y Corinthiaid wedi bod yn fratiog, gyda dim ond saith chwaraewr yn cyrraedd ar gyfer y gêm i ffwrdd yn Nhŷ-du. Yn ogystal, roedd chwaraewyr yn aml yn cael eu rhoi allan o’u safle i lenwi’r bylchau. Rhoddwyd Alex Norie, fel arfer ymhlith y blaenwyr, yn safle’r gôl-geidwad pan ddaeth Porth i chwarae ym Mharc Thompson! Roedd y tîm wrth gefn hefyd yn ei chael hi’n anodd, ac fel y nodwyd mewn cyfarfodydd pwyllgor, doedd colli chwaraewyr i’r tîm cyntaf ar fyr rybudd, ddim yn helpu.
Cafwyd rhywfaint o ryddhad ym mis Tachwedd pan ddychwelodd Corinthiaid Caerdydd i’w cae cartref ym Mharc Thompson i chwarae yn erbyn Coleg y Brifysgol a Mackintosh. Yn y blynyddoedd cynnar roedd ochr Corinthiaid Caerdydd yn chwarae heb Gibson neu Price bron yn amhosibl. Yn ddigon sicr gyda Fred Price yn cynnal yr amddiffyniad, Jack Gibson yn hanerwr a Roger Price a Billy Gibson yn sgorio’r golau, sicrhawyd buddugoliaethau agos yn y ddwy gêm gartref. Yn ogystal â hyn, aeth y Corinthiaid ar eu ‘taith’ Gŵyl San Steffan wrth gwrs. Gan wrthod yr opsiwn o ddychwelyd i Dresimwn, aethant ar y trên am 6.30 y bore ar Ŵyl San Steffan o Gaerdydd i Aberdaugleddau. Mae’n bosibl bod y Nadolig wedi dweud arnyn nhw oherwydd y collon nhw o bum gôl i ddim i dîm Aberdaugleddau.
Dechreuodd y Flwyddyn Newydd yn ddisglair gyda buddugoliaeth yn erbyn Caldicott. Gellid dadlau y bu’r un ar ddeg gêm yn ail hanner y tymor yn eithaf agos; ac eithrio crasfa o chwe gôl i ddim yn erbyn Penarth Wednesday. Y Corinthiaid gollodd y gemau ond, yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond gan ambell gôl. Ond eto, wrth edrych yn fanylach ar y rhestr gemau, gwelwn mai o blith timau Cynghrair De Cymru, dim ond yn erbyn Porth y chwaraeon nhw yn ail hanner y tymor. Ni ddigwyddodd y gemau dychwelyd a oedd wedi’u cynllunio yn erbyn timau fel Tŷ Du ac Athletig Undebwyr y Barri. Cafodd tîm Tŷ-du ddirwy o un gini gan Gymdeithasau Pêl-droed De Cymru a Sir Fynwy am beidio â chwarae eu hail gêm yn erbyn y Corinthiaid. Efallai fod gemau’r cwpan wedi ymyrryd, ond mae’n ymddangos bod timau’r Gynghrair wedi penderfynu nad oedd dychwelyd gemau yn erbyn y newydd-ddyfodiaid ar hyn o bryd yn flaenoriaeth.
Yn y dadansoddiad terfynol, mae’r cofnodion a luniwyd gan ysgrifennydd y Clwb, George Gallon, yn adrodd bod Corinthiaid Caerdydd wedi ennill 5 gêm ac wedi cael 1 gyfartal o gyfanswm o 26 gêm, gan sgorio 31 gôl ac ildio 69 gôl. Mewn sawl achos, mae’r sgorau a gofnodwyd gan Gallon yn amrywio o’r ffigurau a restrwyd yn yr adroddiadau papur newydd lleol. Fodd bynnag, nid oes amheuaeth ynghylch y cofnod o 5 buddugoliaeth. Cafodd y tîm wrth gefn dymor anodd hefyd gyda chanlyniadau tebyg iawn, gan ennill dim ond 4 o’u 22 gêm.
Ar yr ochr gadarnhaol, roedd y ddau ddyn ifanc ar hugain a oedd wedi dod at ei gilydd ym mis Medi ar gyfer y gêm ymarfer gyntaf wedi aros gyda’r clwb ac yn dal i fod yn gefn i’r timau. Ond eto, mae’n rhaid eu bod yn ystyried beth ddeuai nesaf ar ôl tymor cyntaf mor anodd. Mae’r erthygl olaf yn y gyfres hon yn edrych ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ym mis Ebrill a mis Gorffennaf i fyfyrio ar y tymor a phenderfynu ar ffordd ymlaen i’r clwb a oedd newydd ei sefydlu.
Cedwir cofnodion Clwb Pêl-droed Corinthiaid Caerdydd ar gyfer y cyfnod 1898-1905 yn Archifau Morgannwg, a’r cyfeirnod yw D751. Mae’r erthygl hon yn tynnu ar y cofnodion ochr yn ochr â deunydd sydd i’w gael ar Bapurau Newydd Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Darparwyd cymorth a chyngor hefyd gan Amgueddfa Criced Cymru wrth olrhain hanes tîm criced Alpha Caerdydd.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg