“Bu trychineb ofnadwy neithiwr” – Caerdydd, 3 Mawrth 1941

Erbyn mis Mawrth 1941 roedd trefi a phentrefi yn ne Cymru wedi bod yn destun cyrchoedd bomio rheolaidd a helaeth Luftwaffe’r Almaen ers dros naw mis. Mewn sawl ffordd doedd dim byd gwahanol am nos Lun 3 Mawrth wrth i’r seirenau cyrch awyr rybuddio pobl Caerdydd i gysgodi rhag ymosodiad oedd ar fin digwydd. Y bore wedyn roedd system bropaganda’r Almaen yn clodfori cyrch llwyddiannus arall:

Strong forces of German bombers attacked important war objectives and supply depots in Cardiff last night with great success.

Ychwanegodd yr hysbysiad:

As weather conditions proved good the chosen targets were easily picked out by the pilots.

Gyda hunanfeddiant nodweddiadol, bu Gweinyddiaeth Awyr Prydain yn ymateb gyda chyhoeddiad:

Last night’s enemy activity was not on a large scale. Bombs were dropped on a town in South Wales where a number of fires were caused but all were extinguished in the early hours of the morning.

Rhywle rhwng y ddau gyhoeddiad oedd y stori lawn. Er nad ar raddfa’r ymosodiad yn wythnos gyntaf mis Ionawr pan oedd Eglwys Gadeiriol Llandaf wedi’i difrodi’n wael, bu Caerdydd yn destun un o gyrchoedd tân mwyaf y rhyfel. Yn ystod y nos syrthiodd miloedd o dunelli o rocedi goleuo, bomiau cynnau tân a ffrwydron ffyrnig ar draws y dref, gyda’r difrod gwaethaf mewn llawer o’r ardaloedd preswyl.

Mae stori’r noson honno a’i sgîl-effeithiau yn cael ei hadrodd, yn rhannol, gan y cofnodion a gedwid gan Benaethiaid ysgolion ledled Caerdydd. Mae’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg yn anhygoel o ran y graddau y maent yn “ddigyffro” iawn. Er hynny, roedd y realiti’n wahanol. Gydag adeiladau’n cael eu dinistrio gan ffrwydron ffyrnig a thanau’n llosgi’n wyllt ar draws rhannau helaeth o Gaerdydd, roedd yn noson fythgofiadwy i lawer.

Mae’n rhyfeddol bod cynifer o blant wedi parhau i fynd i’r ysgol y bore wedyn. Er enghraifft, cofnododd Ysgol Fabanod Radnor Road fod 255 o ddisgyblion yn bresennol. Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o ddisgyblion, doedd dim ysgol y diwrnod hwnnw wrth i staff asesu cyflwr yr adeiladau. Roedd gan bron pob ysgol ffenestri wedi torri gyda gwydr wedi’i wasgaru ar draws meysydd chwarae. Roedd y difrod i ffenestri a nenfydau ystafelloedd dosbarth mor wael fel bod rhaid i ysgolion Tredegarville a Stacey Road gau nes y gellid gwneud gwaith atgyweirio.

Mewn rhai achosion roedd bomiau cynnau tân wedi glanio ar do ysgol. Er bod y tanau canlynol wedi’u cyfyngu’n llwyddiannus, bu difrod i do ac ystafelloedd llawr uchaf Allensbank, Gladstone a Lansdowne o ganlyniad i’r bomiau a’r rocedi goleuo baneri a oedd wedi syrthio yn ystod y nos. Mewn llawer o achosion, gofalwyr yr ysgolion oedd yr arwyr lleol a oedd wedi helpu diffoddwyr tân lleol i ddiffodd y fflamau a chyfyngu’r dinistr.

Hyd yn oed lle’r oedd ysgolion wedi goroesi’r nos heb ormod o ddifrod, arhosai llawer ohonynt ar gau oherwydd bod strydoedd cyfagos wedi’u rhwystro gan rwbel o adeiladau a ddinistriwyd gan y bomio a gwaith parhaus i ddiffiwsio bomiau nad oeddent wedi ffrwydro. Yn ogystal, caeodd ysgolion, fel Llandaf, fel y gallai athrawon sy’n gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr lleol ddarparu bwyd a lloches i’r teuluoedd niferus a oedd wedi colli eu cartrefi yn ystod y nos.

Mewn sawl achos roedd yr adroddiadau am ddifrod yn llawer mwy difrifol.  Ar y dydd Gwener blaenorol, roedd disgyblion Heol Marlborough wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roeddent wedi cael eu tywys i loches cyrch awyr yr ysgol ganol y bore wrth i’r seirenau ganu. Fodd bynnag, o fewn hanner awr derbyniwyd y caniad diogelwch a pharhaodd yr ŵyl. Nawr, dim ond pedwar diwrnod yn ddiweddarach, ar 4 Mawrth, adroddodd Mary Jenkins, Pennaeth Ysgol Merched Marlborough Road, yn log yr ysgol: 

Log book - no date

A terrible catastrophe took place last night to our beloved school. Through enemy action the whole of the Senior School, which housed the Boys and Girls suffered irreparable damage. High explosive bombs were dropped in this district and it is surmised that a stick of bombs demolished our building.

Roedd yr ysgol fabanod wedi goroesi ond roedd ffenestri wedi torri a difrod i’r nenfydau.  Fodd bynnag, roedd prif adeilad brics coch trillawr trawiadol yr ysgol wedi’i chwalu’n deilchion. Dros yr wythnosau canlynol, bu’r staff wrthi’n gweithio bob dydd i achub unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio o’r rwbel. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd yr ystafelloedd dosbarth wedi’u troi’n lludw ac yn frics wedi torri ond mewn rhai rhannau o’r adeilad, gellid achub celfi ac offer. Fel y nododd Mary Jenkins:

Every member of staff has worked most earnestly and energetically to this purpose.  A great deal of stock from other classrooms as well as 3 sewing machines and the gramophone had been retrieved and is now in use.

Roedd ysgolion eraill, gan gynnwys Ysgol Fechgyn Howard Gardens ac Illtud Sant, wedi dioddef yr un ffawd, gyda rhannau helaeth o’r ysgolion wedi’u dinistrio gan fomiau a thân.

Roedd ardal y Rhath yng Nghaerdydd wedi cael ei tharo’n wael, gyda thirnodau fel Eglwys Wesleaidd Heol y Rhath ar gornel Heol y Ddinas a Heol Casnewydd wedi’u dinistrio. Roedd Ysbyty Brenhinol Caerdydd hefyd wedi cael ei fomio. Bu Uwcharolygydd Meddygol yr ysbyty yn canmol dewrder y staff nyrsio y noson honno:

…scorning flying shrapnel and amid flames and sparks they coolly carried on as if they were doing an ordinary job of work.

Lladdwyd 51 o bobl i gyd ac anafwyd 243 ar noson pan syrthiodd dros 7000 o fomiau cynnau tân ar Gaerdydd. Adroddwyd bod dwy awyren fomio Almaenig wedi’u saethu i lawr gan ynnau gwrthawyrennol.

DCC-PL-11-7-9

Safle Ysgol Marlborough ym 1949

DCC-PL-11-7-8

Safle Ysgol Marlborough ym 1949

Ac eto, o fewn pythefnos roedd Ysgol Marlborough Road ar agor eto gyda’r plant o’r ysgol iau yn gweithio gyda’u hathrawon mewn ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Roath Park ac Ysgol Albany Road. Roedd yn arwydd o wydnwch y bobl leol y gellid adfer rhyw fath o normalrwydd mor gyflym. Ac eto, roedd llawer mwy o heriau o’n blaenau.

Dyma’r gyntaf o gyfres fer o erthyglau am Gaerdydd ym mlynyddoedd y rhyfel gan dynnu ar y cofnodion a gedwid gan benaethiaid ar y pryd. Am fanylion llyfrau log yr ysgolion a gedwir ar gyfer 1939-45, cysylltwch ag Archifau Morgannwg.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s