Mae cofnodion cynnar clwb pêl-droed cymdeithas Corinthiaid Caerdydd, a adwaenir yn well efallai’r dyddiau hyn fel Corries Caerdydd, wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg. Mae’r cofnodion yn cwmpasu 7 mlynedd cyntaf hanes hir y clwb, gyda’r tîm yn cael ei gyfansoddi’n ffurfiol mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 1898.
Y llynedd, fe gyhoeddom ni yr hyn a dybiwn yw’r ffotograff cyntaf o dîm y Corinthiaid, a gymerwyd tua’r adeg honno, a gofynnom am wybodaeth ynghylch a allai unrhyw gemau fod wedi’u chwarae cyn mis Gorffennaf 1898. Diolch i’r rhai a atebodd gan helpu i ychwanegu at ein gwybodaeth am Gorinthiaid Caerdydd. Dyma’r erthygl ddilynol sydd, gobeithio, yn ateb ychydig mwy o gwestiynau ynghylch ffurfio, a blynyddoedd cynnar y Corinthiaid.
Fe fu’r Corinthiaid yn chwarae cyn Gorffennaf 1898. Ceir adroddiadau am Gorinthiaid Caerdydd, … tîm teithiol sydd newydd ei ffurfio, yn chwarae … eu gêm gychwynnol… yn Nhresimwn ar Ŵyl Steffan 1897. Cyhoeddwyd enwau’r tîm yn y papur newydd gyda chyfarwyddiadau y byddai’n rhaid i’r chwaraewyr ymgynnull am ‘1.20 yn brydlon’ yng Ngorsaf Reilffordd y Great Western yng Nghaerdydd. Mae wedi’i ddogfennu’n dda bod y Corinthiaid wedi’u ffurfio gan chwaraewyr o dîm criced Alpha Caerdydd fel modd o gadw’n heini a chadw’n brysur yn ystod tymor y gaeaf. Cadarnha archwiliad o’r tîm a ddewiswyd ar gyfer 26 Rhagfyr 1897 ei fod yn tynnu’n sylweddol ar y rhai a oedd wedi chwarae ar ran yr Alpha yn gynharach yr haf hwnnw.
O ran y gêm ei hun, Corinthiaid Caerdydd oedd y buddugwyr cyfforddus gan ennill o 10 gôl i 1. Mae adroddiad byr iawn yn cadarnhau ei bod yn … bleserus iawn ac nid yn gêm un ochrog o bell ffordd. Sgoriwr y tîm cartref mae’n debyg oedd Parsloe, mab 16 oed yr Is-bostfeistr lleol. Er na roddir manylion byddai wedi bod yn syndod pe na bai enwau’r heolion wyth lleol, Deere, Holley, Watts a Vaughan wedi ymddangos ar daflen tîm Tresimwn.
Felly pwy sgoriodd y gôl gyntaf i’r Corinthiaid? Ni fyddwn fyth yn siŵr ond mae’n debyg i’r anrhydedd fynd i un o’r brodyr Price, gyda Philip a Roger yn sgorio 7 o’r goliau a sgoriwyd gan y tîm y diwrnod hwnnw. Yn eu dyddiau cynnar, mae’n debyg fod y Corinthiaid yn fwyaf adnabyddus am yr arweinyddiaeth a ddangoswyd, ar y cae ac oddi arno, gan y brodyr Gibson, sef Jack a Billy. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd cychwynnol, y pum brawd Price oedd asgwrn cefn y tîm, gyda Fred Price yn gapten ac yn ddylanwad mawr o ran yr amddiffyn.
Felly beth fu’r ysgogiad i ffurfio’r Corinthiaid? Roedd y cricedwyr Alpha yn grŵp clos o ardal Treganna yng Nghaerdydd. Roedd llawer wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf fel disgyblion yn Ysgol Fwrdd Radnor Road ac wedi hynny fe fyddent yn aml yn dychwelyd i chwarae pêl-droed i dîm hen fechgyn Radnor Road yn erbyn yr athrawon. Daeth tri ohonynt maes o law yn athrawon eu hunain, George Gallon, Bill Merrett a Philip Price, gyda Price yn addysgu yn Radnor Road.
Fel mabolgampwyr ifanc talentog, nid oedd yn syndod iddynt ffurfio tîm pêl-droed Alpha Caerdydd a chwaraeai gemau achlysurol yn ystod misoedd y gaeaf. O ystyried eu cysylltiadau, darparwyd tîm i’w gwrthwynebu ar sawl achlysur, gan dîm Athrawon Caerdydd. Hyd yn oed ar y pwynt cynnar hwn, roedd tîm Alpha yn amlwg o safon gweddol. Er mai’r gwrthwynebwyr oedd ail dîm Athrawon Caerdydd, yn y cyfnod hwn roedd yr Athrawon yn dîm aruthrol gyda’u tîm cyntaf yn chwarae yng Nghynghrair Cymdeithas De Cymru.
Nid oes cofnod pendant o’r hyn a ysgogodd y penderfyniad i ffurfio’r Corinthiaid ond mae’n ddigon posibl bod y cynllun wedi’i drafod yng nghinio blynyddol clwb criced Alpha a gynhaliwyd ym Mwyty’r Philharmonig ar Ddydd Mercher 1 Rhagfyr 1887. Fel dynion ifanc, sengl yn bennaf, mae’n siŵr eu bod yn awyddus i drefnu gêm ar Ŵyl Steffan. Yn hytrach na’u trefn arferol o gynnal gemau lleol ym Mharc Thompson a Gerddi Sophia, mae’n ddigon posibl bod gêm oddi cartref wedi ymddangos yn ddeniadol. Nid yw’n glir pam y dewisasant Dresimwn, ar wahân i’r ffaith ei fod o fewn pellter teithio hawdd o Gaerdydd ar y rheilffordd.
O ran enw’r tîm, mae’n ddigon posibl eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan dîm enwog y Corinthiaid a ffurfiwyd yn Llundain ym 1882. Wedi ymrwymo i gynnal egwyddorion chwarae’n deg, ystyriwyd bod y Corinthiaid yn dîm hudolus a ddaeth â’r chwaraewyr amatur gorau at ei gilydd. Gan wrthod mynd am gystadlaethau cynghrair neu gwpan, chwaraeai’r Corinthiaid gyfresi o gemau cyfeillgar a mynd ar deithiau helaeth. O bosibl i adlewyrchu delwedd Corinthiaid Llundain, ffurfiodd Corinthiaid Caerdydd ‘dîm teithiol’ ar yr un patrwm.
Yn ystod y misoedd canlynol ymddangosodd tîm pêl-droed Alpha Caerdydd ar o leiaf ddau achlysur arall mewn gemau lleol yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, chwaraeodd yr un grŵp o chwaraewyr hefyd gêm arall fel Corinthiaid Caerdydd ar 29 Ionawr 1898 ac eto yn Nhresimwn. Y diwrnod hwnnw tîm criced Alpha Caerdydd, oedd asgwrn cefn y tîm gyda’r teuluoedd Gibson, Hill a Price yn darparu 9 o’r chwaraewyr.
A dynnwyd y ffotograff o Gorinthiaid Caerdydd ar 29 Ionawr? Mae deg o’r un ar ddeg o chwaraewyr a drodd allan i’r cae dros y Corinthiaid yn Nhresimwn yn y ffotograff. Mae gwisg y tîm hefyd yn edrych yn debyg iawn i’r aur a’r gwyrdd a ddefnyddiodd y Corinthiaid yn eu tymor cyntaf. Fodd bynnag, mae’r cofnodion yn awgrymu mai’r unfed chwaraewr ar ddeg yn Nhresimwn oedd E T Williams, ond yr unfed dyn ar ddeg yn y ffotograff yw Bill Wynes. Heb os, mae’n ffotograff cynnar iawn o’r Corinthiaid. Fodd bynnag, o ystyried na ellir gosod y lleoliad ac na ddewiswyd Bill Wynes ar gyfer gêm Tresimwn, nid yw’r dystiolaeth yn bendant bod y llun wedi’i gymryd ar 29 Ionawr 1898.
Wrth i’r tymor ddirwyn i ben bu’n rhaid gwneud penderfyniad. A ddylai cricedwyr Alpha hefyd sefydlu tîm pêl-droed yn fwy ffurfiol ac, os felly, beth oedd y ffordd orau o fynd ati i wneud hyn?
Yn yr erthygl nesaf byddwn yn edrych ar gofnodion y cyfarfod yn y Criterion Coffee Tavern yn Nhreganna ar 22 Gorffennaf 1898 a arweiniodd at sefydlu Clwb Pêl-droed Corinthiaid Caerdydd a’r tymor cyntaf a oedd yn llawn digwyddiad.
Cedwir cofnodion Clwb Pêl-droed Corinthiaid Caerdydd ar gyfer y cyfnod 1898-1905 yn Archifau Morgannwg, a’r cyfeirnod yw D751. Mae’r erthygl hon yn tynnu ar y cofnodion ochr yn ochr â deunydd sydd i’w gael ar Bapurau Newydd Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Derbyniwyd cymorth a chyngor hefyd wrth olrhain hanes clwb criced Alpha Caerdydd gan Amgueddfa Criced Cymru.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg