Pafiliwn Pier Penarth

Cafodd y pier ym Mhenarth ei godi gan gwmni preifat a’i agor ym 1895.  I ddechrau, gwnaeth y cyfarwyddwyr osgoi’r arfer, a fabwysiadwyd gan lawer o bierau eraill, o ddarparu adloniant a difyrrwch, gan gredu na fyddai hyn yn cyd-fynd â delwedd Penarth.  Yn hytrach, defnyddiwyd y pier ar gyfer mynd am dro, eistedd yn yr haul, neu fynd ar long stêm am daith ar draws Môr Hafren.

Newidiodd hyn yn raddol ac, ym 1907, codwyd pafiliwn pren ym mhen môr y pier.  Fe’i gelwir yn Bafiliwn Bijou, ac fe’i prydleswyd i gyfres o reolwyr a drefnodd amrywiaeth o gyngherddau a pherfformiadau eraill.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd y pier ei ddefnyddio at ddibenion milwrol ac, erbyn diwedd yr ymladd, roedd angen gwario llawer o arian er mwyn ei atgyweirio.  Nid oedd y perchnogion yn teimlo y gallent gyflawni hyn ac, ar ôl trafodaethau hirfaith, gwerthwyd y pier, ym 1924, i Gyngor Dosbarth Dinesig Penarth.

D1093-1-6 p1

Yn ogystal ag atgyweirio’r pier, dechreuodd y Cyngor lunio cynlluniau ar gyfer y pafiliwn newydd, ar ochr y tir, y gellir ei weld ym mraslun Mary Traynor.  Roedd yr adeilad concrid Art Deco a agorwyd ym mis Mai 1929 yn ymestyn dros 4,000 troedfedd sgwâr (370 o fetrau sgwâr).  Roedd ganddo lwyfan mawr, balconi a seddau ar gyfer 600 o bobl.  Ar ôl gwaith adnewyddu cyfyngedig, ail-agorodd yr hen bafiliwn fel neuadd ddawns, ond fe’i dinistriwyd gan dân ar 3 Awst 1931.  Gwnaeth y tân hefyd ddifrodi llawer o’r pier, ond ni ledaenodd cyn belled â’r pafiliwn newydd.

Wrth ymateb i chwaeth newidiol y cyhoedd, newidiwyd y pafiliwn, ym 1932, i ddangos ffilmiau.  Fodd bynnag, nid oedd y fenter honno’n llwyddiannus a chaeodd y sinema ym mis Mehefin 1933.  Ar ôl cynnal gwaith pellach arno, ail-agorwyd y pafiliwn ym 1934 fel Ystafell Ddawns y Marina gan aros felly, drwy gyfnodau da a drwg, am flynyddoedd lawer.  O’r 1960au, dechreuodd y pafiliwn ddirywio’n raddol, tra’n gwasanaethu’n amrywiol fel bwyty, clwb snwcer a champfa.  Ond gan nad oedd ganddo ddigon o wres, ni ddefnyddiwyd yr adeilad yn fawr yn ystod y gaeaf.

Yn 2008, ffurfiwyd Penarth Arts & Crafts Ltd (PACL) fel elusen i adfer y pafiliwn.  Gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, cwblhawyd eu rhaglen adnewyddu gwerth £3.9 miliwn yn 2013.  Yn allanol, mae ymddangosiad yr adeilad wedi’i wella drwy osod teils sinc ar draws y to yn lle paent gwyrdd oedd wedi pylu.  Mae Pafiliwn y Pier bellach yn gweithredu fel oriel, sinema, caffi a gofod y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau preifat eraill.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s