Roedd Oldwell – i’w weld yma ym mraslun Mary Traynor – yn dŷ sylweddol a adeiladwyd ar ddiwedd y 1880au yn Heol Pen-y-lan, ar ochr waelod yr hyn sydd bellach yn Bronwydd Avenue.
Ei breswylydd cyntaf oedd John Biggs, perchennog Bragdy De Cymru yn Salisbury Road. Unodd ei fusnes â busnes Hancock ym 1889 ac, er i Biggs ddod yn gyfarwyddwr y cwmni hwnnw i ddechrau, ymddeolodd gan symud i Gaerfaddon, lle bu farw ym 1920. Yn ôl cyfrifiad 1901, roedd Oldwell yn cael ei feddiannu gan Martha Edwards, gwraig weddw 60 oed ffermwr o Bencoed, gyda phedwar mab a thair merch. Roedd hi yn Oldwell ym 1911 o hyd ond, erbyn 1913, roedd wedi symud i Ffordd Caerdydd, Llandaf. Bu farw Martha Edwards ym mis Ionawr 1918, gan adael ystâd o fwy nag £20,000 (sy’n cyfateb i tua £900,000 heddiw).
Wedyn meddiannodd William Young, masnachwr ffrwythau a thatws o Gaerdydd, Oldwell nes iddo farw ym 1933. Y meddianwyr nesaf oedd tair chwaer gyfoethog, Marietta ac Adelina Brailli, ac Ida Stone, merched y diweddar fasnachwr siop llongau, Joseph Brailli. Ni phriododd Marietta nac Adelina erioed, ond roedd Ida yn weddw i’r trefnydd angladdau o Gaerdydd, Augustine Stone. Bu farw Ida ym 1942 a Marietta ym 1943. Mae cofrestrau etholiadol yn dangos yr oedd Adelina wedyn yn byw ar ei phen ei hun yn Oldwell tan tua diwedd y degawd.
Erbyn 1952, roedd y tŷ, ynghyd â’i gymydog, Wellclose, wedi dod yn gartref awdurdod lleol i fenywod hen a gwan. Parhaodd i weithredu felly tan ddiwedd y 1980au pan gaeodd Wellclose ac Oldwell. Ers hynny maent wedi’u dymchwel ac mae fflatiau bellach ar y safle.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
- Childs, Jeff: Archive Photos of Roath, Splott & Adamsdown
- Williams, Stewart: Cardiff Yesterday Cyf 31, Delwedd 43
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Cofrestri Etholiadol Caerdydd (Ward Penylan), 1933 – 1950
- Cyfrifiad 1871 – 1911
- Rhestr Lloegr a Chymru 1939
- Calendrau Profeb Genedlaethol Lloegr a Chymru 1918, 1920, 1933, 1944 & 1946
- South Wales Echo, 5 Mawrth 1889
- South Wales Echo, 19 Mehefin 1891
- https://www.measuringworth.com/