Mae braslun Mary Traynor yn dangos yr adeilad hwn fel ‘Hadley House’, ond dim ond un o’r enwau a oedd ganddo yw hynny.
Ar 11 Mai 1898, cafodd Cardiff Asbestos & Belting Co. Ltd – a oedd yn arbenigo mewn cynhyrchu gwregysau dynamo – ganiatâd i adeiladu ffatri yn cynnwys ystafelloedd arddangos a swyddfeydd. Gan gofio eu hen safle yn Gladstone Street, ger yr eglwys blwyf, cafodd yr adeilad newydd yr enw ‘Gwaith Lledr y Santes Fair’. I ddechrau, roedd yn adeilad bach yn wynebu Heol Clarence; wedyn yn 1901 rhoddwyd caniatâd i’r cwmni adeiladu estyniad yng nghefn yr adeilad, gan greu’r adeilad sydd i’w weld heddiw. Dyluniwyd y strwythur gwreiddiol a’r estyniad ym 1901 gan y pensaer o Gaerdydd, Lennox Robertson.
O fewn ychydig flynyddoedd, unodd Cardiff Asbestos and Belting â Lewis & Tylor Ltd ac, erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y busnes wedi symud i Gripoly Mills, Heol y Grange lle mae’n ymddangos ei fod wedi aros tan o leiaf y 1970au.
Ar ôl i Lewis & Tylor’s adael y safle yn Heol Clarence, mae rhestrau cyfeiriadur ar gyfer y safle hwnnw’n dangos mai haearnwerthwyr a chyflenwyr llongau oedd yn ei feddiannu. Yn y 1920au, ymunodd y busnes argraffu Edward Roberts â nhw. Roedd meddianwyr eraill, dros y blynyddoedd, yn cynnwys gwneuthurwr angorau a chadwyni, gwneuthurwr hwyliau, a dodrefnwr siopau. Fodd bynnag, arhosodd y busnesau siandler er gwaetha’r holl fynd a dod gan denantiaid cyfagos, a pharhaon nhw i fasnachu yno tan ddiwedd y 1960au. Mae enw Edward Roberts’ dal yn enw amlwg yn llun Mary Traynor o 1986. Nid yw’n sicr pryd y daeth yr adeilad yn ‘Ocean House’ ond mae’r enw hwnnw’n ymddangos mewn cyfeiriaduron o ddechrau’r 1950au.
Erbyn 1970, roedd Hadley Electrical & Engineering Supplies Co Ltd yn meddiannu’r adeilad. Gosodwyd yr arwydd ‘Hadley House’ dros y prif ddrws gan aros yno tan y 1980au. Cafodd yr enw ‘Ocean House’ ei adfer yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r lloriau uchaf wedi’u trosi at ddefnydd preswyl, ac mae’r llawr gwaelod yn cael ei feddiannu’n bennaf gan gwmni o gyfreithwyr.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/4)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ffatri newydd, Heol Clarence, 1898 (cyf.: BC/S/1/12992)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ychwanegiadau at adeilad, Stryd Harrowby, 1901 (cyf.: BC/S/1/14479)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ychwanegiadau at fusnes Caerdydd, Cardiff Asbestos & Beltings Co., Cwrt Harrowby, 1901 (cyf.: BC/S/1/14648)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Williams, Stewart: Cardiff Yesterday, Cyf. 33, Delwedd 56
- Glamorgan Free Press, 4 Rhagfyr 1897