Dros Donnau Amser: Datgelu Hanes Bae Caerdydd

Bu’r prosiect catalogio ‘Dros Donnau Amser’ yn bosibl oherwydd grant gan raglen ‘Datgelu Archifau’ a ariennir gan yr Archifau Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth y Pererin a Chymdeithas Wolfson. Nod y prosiect oedd sicrhau bod cofnodion Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (CDBC) a Associated British Ports (ABP) ar gael. Daeth y prosiect i ben ym mis Rhagfyr ac i’r nodi’r cwblhau, mae Archifydd y Prosiect, Kate Finn yn trafod y prosiect a’r gasgliadau yn yr erthygl hon.

DABP-PLANS-19 full

Archifydd y Prosiect, Katie Finn gyda chynllun o Gamlas Llongau Bute, 1839

Wrth ddechrau’r prosiect ym mis Rhagfyr 2019, ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld y flwyddyn a ddeuai, na’r effaith fawr y byddai pandemig y Coronafeirws yn ei chael ar y prosiect. Ein nod oedd catalogio cofnodion CDBC a ABP a oedd heb eu rhestru o’r blaen. Byddai hyn yn galluogi defnyddio’r cofnodion ac yn hyrwyddo hanes morwrol de Cymru a Bae Caerdydd. Mae casgliad CDBC bellach wedi’i gatalogio i lefel eitem a gellir gweld y catalog ar Canfod – http://calmview.cardiff.gov.uk/.  Bu hyn yn llwyddiant mawr, gyda 3849 o gofnodion yn cael eu disgrifio ar lefel ffeil neu eitem. Yn ogystal, mae Rasheed Kahn, ein Hyfforddai Corfforaethol, wedi bod yn brysur yn catalogio ac yn digideiddio’r casgliad ffotograffig. Bydd hwn yn adnodd gwych gan ei fod yn dangos nid yn unig ddatblygiad y Bae, ond y bobl a fu’n rhan o’r gwaith hwn, a thrigolion y Bae.

Nod arall oedd catalogio cofnodion ABP a’i rhagflaenwyr i lefel eitem.  Yn anffodus, nid fu hyn yn bosibl gan nad oedd modd i ni weld y cofnodion am bron i bedwar mis – chwarter blwyddyn y prosiect. O ganlyniad, bu’n rhaid i ni addasu a byrfyfyrio!  Creom restr flwch ar gyfer pob derbynyn sy’n gysylltiedig â ABP. Mae hyn yn golygu bod 523 o gyfrolau, 108 o lyfrynnau, 114 o fwndeli, a 2080 o gynlluniau, wedi’u rhestru. Er nad yw hwn yn gatalog llawn, bydd rhestr flwch ar gael i’r cyhoedd ar gais. Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol gan nad oedd mwyafrif llethol yr eitemau hyn wedi’u rhestru’n flaenorol mewn unrhyw ffordd.

Mae’r ddau gasgliad yn cyfrannu at hanes dociau Morgannwg a dealltwriaeth ohonynt a’u heffaith ar ddiwydiant a chymdeithas Cymru. Sefydlwyd Associated British Ports gan Ddeddf Trafnidiaeth Prydain 1981, a’i gwnaeth yn Gwmni Cyfyngedig. Mae’n gweithredu fel cwmni rheoli ar gyfer cyfleusterau dociau, gyda chyfrifoldeb am borthladdoedd de Cymru. Gan eu bod yn rheoli llawer o’r porthladdoedd yn ne Cymru, mae’r casgliad yn cwmpasu ardaloedd y tu hwnt i’n cylch gwaith casglu arferol, gan gynnwys Abertawe, Port Talbot, Casnewydd a dociau llai eraill, yn ogystal â Chaerdydd, y Barri a Phenarth. Mae casgliad ABP hefyd yn cynnwys dogfennau’r cyrff a’i rhagflaenodd: Rheilffyrdd y Great Western, Comisiwn Trafnidiaeth Prydain, a Bwrdd Dociau Trafnidiaeth Prydain. Yn ogystal, etifeddodd ABP ddogfennau gan bob cwmni a fu’n rhedeg dociau yn ne Cymru, gan gynnwys Cwmni Rheilffordd Caerdydd, Cwmni Rheilffordd a Dociau’r Barri a Chwmni Rheilffordd a Dociau Alexandra (Casnewydd a De Cymru).

Mae casgliad ABP yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd gan y cwmnïau hyn sy’n ymwneud â Dociau De Cymru. Cynlluniau yw rhan fwyaf y casgliad. Mae’r rhain yn dangos nid yn unig strwythurau’r dociau, ond hefyd yr adeiladau yn y dociau, a chynlluniau ardal y dociau. Gwelsom hefyd rai pethau annisgwyl fel diagram o’r Bom Almaenig B2.2 EI-Z (bom llosgi gwrth-bersonél). Mae casgliad ffotograffig mawr ar gyfer pob doc. Mae’r ffotograffau hyn yn dangos y dociau’n cael eu hadeiladu, y dociau’n cael eu defnyddio, a digwyddiadau a gynhaliwyd. Maent yn dangos natur gyfnewidiol y dociau, a gwaith yn y dociau. Mae’r rhain yn ychwanegol at y dogfennau sy’n cofnodi hanes gweinyddol a deddfwriaethol y dociau, gan gynnwys cyfrifon, cofrestri, is-ddeddfau a Deddfau Seneddol.

D406-U-11 compressed

Delweddau o albwm ffotograffau yn dangos gwaith adeiladu twnnel Grangetown o dan Afon Elái, cyf. D406/U/11

Mae cofnodion Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn parhau â hanes y dociau yng Nghaerdydd wrth iddynt gofnodi effaith y gwaith o ddatblygu Bae Caerdydd.  Sefydlwyd CDBC ar 3 Ebrill 1987 gan Orchymyn Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (Ardal a Chyfansoddiad) 1987.  Rhoddodd hyn bwerau prynu gorfodol i’r sefydliad er mwyn datblygu dros 1000 hectar yn ne Caerdydd a Phenarth a denu buddsoddiad allanol. Ymhlith prosiectau allweddol y gorfforaeth roedd creu morglawdd a bae mewndirol; cysylltu canol y ddinas â’r glannau; creu swyddi i bobl leol; a chreu ardal ddeniadol i bobl weithio, byw a chymdeithasu ynddi. Gwnaed pob penderfyniad gan nifer o bwyllgorau, a gan y bwrdd oedd y gair olaf. Mae’r casgliad yn cynnwys y papurau ymgynghori a chofnodion y pwyllgorau hyn, gan gynnwys cofnodion o agweddau mwy dadleuol y prosiect. Oherwydd natur y Gorfforaeth, defnyddiwyd ymgynghorwyr yn eang i gynhyrchu briffiau datblygu, cynnal astudiaethau o ddichonoldeb, cynnig prosiectau, a gwneud gwaith ymchwil y farchnad, a buont yn ymwneud yn helaeth a’r gwaith o  adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer o adroddiadau a gafodd eu creu ar gyfer CDBC a’u cyflwyno i’r Senedd eu hystyried wrth graffu ar Filiau Morglawdd lluosog, ynghyd â thystiolaeth a gyflwynwyd i gefnogi’r bil yn ogystal â deisebau yn ei erbyn.

Mae cofnodion CDBC yn cynnwys casgliad ffotograffig rhagorol sy’n dogfennu pob agwedd ar waith datblygu’r Bae. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys wyneb newidiol Dociau Caerdydd a’r gwaith adeiladu a wnaed, ond hefyd digwyddiadau a gynhaliwyd yn yr ardal, fel Carnifal Butetown, Diwrnodau Bae, a’r Bencampwriaeth Power Speedboat. Mae rhai delweddau CGI o adeiladau hefyd.  Drwy’r rhain a chynlluniau’r bae a’r morglawdd, gallwch olrhain newidiadau tirlun y ddinas. Mae’r casgliad nid yn unig yn cynnwys dogfennau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â busnes CDBC, mae hefyd yn cynnwys deunydd sy’n rhoi cyd-destun i’r gwaith datblygu, megis y record finyl, ‘Baywindows: Songs from Cardiff Bay,’ a delweddau dychanol yn ymwneud â’r Gorfforaeth gan y cartwnydd adnabyddus, Gren.

DCBDC-14-1- (461)

Adeilad y Pierhead gyda baneri Bae Caerdydd, cyf. DCBDC/14/1/461

Er bod y prosiect ‘Amser a Llanw’ swyddogol wedi dod i ben, bydd y gwaith ar y casgliadau yn parhau. Bydd ein hyfforddai, Rasheed, a’n tîm o wirfoddolwyr yn parhau i ddisgrifio, sganio a lanlwytho sleidiau, ffotograffau a negatifau o gasgliad ffotograffig CDBC i’n catalog. Yn ogystal, bydd staff archifau yn parhau i gatalogio casgliad ABP i lefel eitem er mwyn gwneud y casgliad yn gwbl hygyrch am y tro cyntaf. Mae ein tîm cadwraeth yn glanhau ac yn atgyweirio cynlluniau a chyfrolau bregus i sicrhau y bydd y cyhoedd yn gallu cael gweld y casgliad heb roi’r dogfennau mewn perygl o gael eu difrodi ymhellach.

Mae’r prosiect hwn wedi tynnu sylw at gyfoeth y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yng nghasgliadau CDBC a ABP. Mae wedi galluogi defnyddio cofnodion sy’n olrhain y newidiadau i ardal Dociau Caerdydd o’r gwaith o adeiladu doc cyntaf Bute yn 1835 i gwblhau Morglawdd Bae Caerdydd yn 2001. Gallwn weld effaith y diwydiant glo ar dde Cymru, o ffyniant y 19eg ganrif i’r cwymp ar ôl y rhyfel. Wrth i waith barhau ar y casgliadau, byddwn yn darganfod mwy am dreftadaeth ein harfordir a’n cysylltiadau morol.

Katie Finn, Archifydd Prosiect Dros Donnau Amser

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s