Os ydych chi’n bwriadu diddanu’r teulu dros gyfnod y Nadolig, efallai y bydd teulu Hill Rookwood yn gallu eich helpu. Yn Archifau Morgannwg mae llyfrau lloffion y teulu a oedd yn byw yn Rookwood, tŷ mawreddog ar Fairwater Road, Caerdydd, sy’n cael ei nabod yn well erbyn heddiw fel Ysbyty Rookwood. Ar adeg y Nadolig yn y 1880au cynhaliodd Edward Stock Hill a’i wraig, Fanny Ellen Hill, amrywiaeth o adloniant i ddiddanu eu saith plentyn ifanc a’u perthnasau a’u cadw’n brysur. Aethant hyd yn oed mor bell ag argraffu rhaglen ffurfiol. Gellir gweld dwy o’r rhaglenni, ar gyfer Blwyddyn Newydd 1880 a Nadolig 1881, yn Archifau Morgannwg.
Ar Ddydd Calan, 1880, y prif atyniad oedd perfformiad o ‘Beauty and the Beast’. Roedd gan bron bob un o’r plant ran gyda Constance Hill oedd yn 12 oed yn chwarae’r brif ran fel Beauty, merch y Masnachwr. I gadw’r ddysgl yn wastad, cafodd ei chwaer hŷn, Mabel ran Brenhines y Tylwyth Teg, Moonbeam, gyda Gladys, 7 oed yn chwarae ei chynorthwyydd, Snowdrop. Aeth y rhan boblogaidd, Beast i’r cefnder, Hector gyda’r ddau frawd hŷn, Vernon ac Eustace, fel “Macwyaid” i’r Beast.
Byddai’r paratoadau yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr wedi bod yn brysur iawn gyda llinellau i’w cofio, gwisgoedd i’w canfod a setiau i’w cyrchu a’u codi. Gyda Mrs Hill yn darparu cyfeiliant dramatig ar y piano, roedd y perfformiad yn llwyddiant ond mae’n debyg heb un neu ddwy anffawd. Mae’n siŵr y bu’n rhaid cadw trefn ar Beast a’i gynorthwywyr ar sawl achlysur ond maddeuwyd pob camwedd wrth i’r plant fwynhau cymeradwyaeth wresog gan gynulleidfa werthfawrogol iawn.
Yn ddiweddarach yn y dydd roedd hi’n bryd i’r oedolion godi ar eu traed i berfformio “The Ladies Battle – A Comedy in Three Acts“. Aeth y brif ran y tro hwn i Edward Stock Hill fel y Barwn Montrichard, y ditectif ffwndrus. Lleolwyd y ddrama yn Chateau’r Iarlles d’Autrival lle’r oedd Henri de Flovigneil, gŵr ifanc golygus, yn cuddio ar ôl i Napoleon gael ei drechu yn Waterloo. Roedd gan y plot rywbeth i bawb wrth i’r Iarlles, a chwaraewyd gan fam y Beast, Mrs Corbyn, edrych i gael y gorau ar Montrichard a’i gynorthwyydd Gustave. Fel bob amser, cymhlethwyd pethau ymhellach wrth i Gustave a Henri syrthio’n ddwfn mewn cariad â’r Iarlles a’i nith Leonie.
Daeth y diwrnod i ben gyda’r teulu yn ymgasglu o amgylch y goeden Nadolig i ganu caneuon a chael swper. Mae’n swnio’n hudolus ond peidiwch â chredu gair ohono. Mae’n debyg mai’r hwyl a’r anhrefn arferol oedd hi – gan mai dyna ydi Nadolig.
Cedwir llyfrau lloffion teulu’r Hill yn Archifau Morgannwg (cyf. D1372). Dim ond ffotograffau a gymerwyd yn llawer diweddarach yn eu bywyd sydd i gael o blant y teulu Hill.
Yn y ffotograff grŵp mae Constance yn y blaen ar y chwith gyda Mabel a Gladys ar y dde iddi hi. Mae cynorthwywyr y Beast, Vernon ac Eustace, yn y rhes gefn, yr ail a’r trydydd o’r chwith yn y drefn honno. Yr ail ffotograff yw Edward Stock Hill – ein “Barwn Montrichard”.
Yn anffodus, nid oes gennym ffotograff o Hector ifanc fel y Beast. Efallai gallwn adael hynny i’ch dychymyg.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg