Thomas Stevens, Prif Bobydd a Theisennwr Caerdydd: Rhan 3 – Y Rhyfel Byd Cyntaf a Pharseli Bwyd i’r Milwyr

Arweiniodd blocâd U-Boats Almaenig ar Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf at brinder sylweddol o fwydydd sylfaenol, gan gynnwys grawn a siwgr. Gallai hyn fod wedi cael ei ystyried yn ddiwedd y daith i fasnachwyr ag enw da am gacennau addurniadol a phasteiod, ond i Tom Stevens dim ond un her arall i’w goresgyn oedd hyn.

Mewn cyfnod byr iawn roedd prif bobydd a theisennwr Caerdydd wedi sicrhau bod ei fusnes yn ‘barod at rhyfel’. Datganodd y dyn a eniloddl glod mewn arddangosfeydd rhyngwladol am gacennau hynod addurnedig ei fod yn falch na fyddai bellach yn cynhyrchu “Bara Ffansi a Ffrengig”. Yn hytrach, dim ond un dorth safonol y byddai caffis y Dutch a’r Dorothy a’i siop ym Mhontcanna, a oedd ar un adeg wedi cynnig 20 math gwahanol o fara, yn eu cynhyrchu sef “y Dorth Ryfel”. Ar ben hynny, yng Nghaffi Dorothy, a fu unwaith yn enwog am ei arddangosfeydd Nadolig o felysion a siocled, dim ond cacennau cyrens heb addurniadau nac eisin a gai eu cynnig, a hynny oherwydd y prinder siwgr. Roedd gwaeth i ddod yn 1918, gyda blocâd yr Iwerydd yn atal cyflenwadau pellach o rawn, ymunodd Stevens a phobyddion eraill Caerdydd â’r ymgyrch ryfel i ddogni drwy ychwanegu 15lb o datws at bob sach o flawd.

Erbyn hyn roedd cangen y cwmni a oedd yn adnabyddus am ddarparu ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol ysblennydd bellach hefyd wedi troi ei sylw at ymdrech y rhyfel. Ar Ddydd Nadolig 1914 darparodd Stevens ginio i filwyr clwyfedig yn Ysbyty Sblot, ond nid heb ganlyniadau trasig.  Roedd ei gogydd, James Barbet, i fod i sleisio’r twrci a goruchwylio’r pryd bwyd.  Fodd bynnag, llithrodd wrth adael y car a rholiodd y cerbyd dros ei droed. Aeth y stydiau rhag rhew a oedd yn y teiars i mewn i gnawd ei droed, gan achosi haint. Yn anffodus bu farw, bedwar diwrnod yn ddiweddarach, yn yr ysbyty.  Serch hynny, Stevens ei hun a arlwyodd ar gyfer y 500 o filwyr a staff o ysbytai rhyfel lleol a fynychodd “Ddiwrnod Hapus y Rhyfelwyr Clwyfedig yn Sain Ffagan”. Sefydlodd hefyd gynllun Cynilo y Rhyfel i’w staff allu prynu Bondiau Rhyfel a chefnogi’r ymdrech ryfel.

Dutch Cafe

Efallai mai ei awr fwyaf oedd ei bartneriaeth â phapur newydd lleol wrth redeg Cronfa Carcharorion Rhyfel yr Evening Express. Wedi’i sefydlu i ddarparu parseli bwyd i ddynion y Gatrawd Gymreig a gymerwyd yn garcharorion rhyfel, aeth y gronfa i galonnau pobl ledled Cymru, gyda Lloyd George yn cynnig ei hun i weithredu fel noddwr. Roedd gan Stevens brofiad o anfon parseli bwyd dros y byd, gan gynnwys anfon bwydydd i filwyr Prydain yn ystod Rhyfel y Boer. Fodd bynnag, roedd hon yn dasg ar raddfa lawer mwy.  Gan sefydlu ei bencadlys yng Nghaffi’r Dutch ar Heol y Frenhines, aeth Stevens ati i roi parseli ynghyd o fwydydd a chysuron eraill i’r milwyr. Er gwaethaf y pellteroedd a’r amser teithio, roedd yn benderfynol o gynnwys bara plaen a chyrens ochr yn ochr â physgod, cig a ffa pob mewn tun. Wedi’u gosod mewn ‘blychau wedi’u hawyru’ roedd y parseli hefyd yn cynnwys sigaréts a thybaco cetyn ynghyd â ‘rhoddion’ fel harmonicas, cardiau chwarae a pheli pêl-droed. Adeg y Nadolig, lluniodd Stevens “flwch tyc arbennig” a oedd yn cynnwys pwdin plwm.  Amcangyfrifwyd bod ei staff yn defnyddio dros 85 milltir o linyn i glymu’r parseli.

Bakery

Gan weithio gyda’r Groes Goch, anfonwyd y parseli i’r Almaen, Awstria, Bwlgaria a Thwrci.  Roedd pob un yn cynnwys cerdyn i’r milwr yrru ateb ar ôl derbyn y parsel. Datganodd yr Evening Express yn falch ym mis Tachwedd 1918 fod 153,000 o barseli wedi’u hanfon a bod cardiau wedi’u derbyn ym mron pob achos yn cadarnhau eu bod wedi cyrraedd yn ddiogel. Roedd yn ddiwrnod da o waith ac yn rhywbeth y gallai Tom Stevens fod yn falch ohono, yn briodol felly. Bu farw Stevens naw mlynedd yn ddiweddarach yn 70 oed.  O blith ei gyflawniadau niferus yn ystod ei gyfnod yn Wrecsam a Chaerdydd, mae’n rhaid bod ei waith adeg y rhyfel wedi bod yn agos i’r brig.

Ond mae un ‘bwlch bach’ ar ôl yn yr hanes. Ar ôl y rhyfel, gwerthodd Stevens y cyflenwadau nas defnyddiwyd ar gyfer y parseli bwyd. Ochr yn ochr â’r ‘Trawler Fish Paste’, ‘Kipper Snacks’ a ‘Heinz Baked Beans’ roedd rhywbeth o’r enw ‘Mitchells’ Popular’. Os oes unrhyw un yn gwybod beth ydoedd, cysylltwch â ni.

Daw’r ffotograffau ar gyfer yr erthygl hon o albwm coffa a gyflwynwyd i Thomas Stevens gan ei staff yn 1913 ar gael ei benodi’n Deisennwr i’r Brenin George V. James Forbes Barbet yw un o’r staff a enwir yn y llyfr ar dudalen 5. Gellir gweld yr albwm yn y casgliad yn Archifau Morgannwg (cyf.: D401/1).

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s