Erbyn 1913 roedd Thomas Stevens, pobydd a theisennwr yng Nghaerdydd, wedi adeiladu busnes sylweddol. Mae’r albwm coffa a gyflwynwyd iddo’r flwyddyn honno ar gael ei benodi’n deisennwr i’r Aelwyd Frenhinol yn cynnwys nifer o ffotograffau o safleoedd blaenllaw’r cwmni.
Y llun mwyaf amlwg oedd hwnnw o Gaffi a Bwyty Dorothy yn y Stryd Fawr, oedd yn un o brif gyrchfannau Caerdydd ac yn enwog am fod y “bwyty a’r ystafell de fwyaf ffasiynol yng Nghymru”. Roedd hefyd dwy gangen o Gaffi’r ‘Dutch’ yng Nghaerdydd a Chasnewydd, siop ym Mhontcanna a becws y cwmni ei hun.
Roedd Stevens am wneud argraff. Wrth gerdded i mewn i’w siopau, roedd cwsmeriaid yn dod wyneb yn wyneb â stondinau arddangos wedi’u pentyrru â nwyddau gan gynnwys y teisennau crwst Ffrengig mwyaf addurniadol, melysion, bon bons, tartenni a phwdinau fel arfer dim ond i’w gweld yn Llundain neu Baris. Yn ogystal, roedd y Dorothy yn cynnig 38 math o siocled i gyd yn cael eu gwneud yn ffres ar y safle bob awr. Roedd y Dorothy yn un o’r siopau yr oedd rhaid ymweld â hi yn y cyfnod cyn y Nadolig pan oedd ganddi’r arddangosfa fwyaf drawiadol o “ddanteithion i dynnu dŵr o’r dannedd” oedd yn “wledd i’r synhwyrau”.
Fel arwydd o’i enw da Stevens oedd yn arlwyo ar gyfer bron pob gwledd, dawns neu briodas fonheddig yn y ddinas. Tom Stevens a gamodd ymlaen pan fu’r Maer yn diddanu’r Ardalydd Bute, ac aeth i’r afael â digwyddiadau mawr fel Dawns Helfa Morgannwg flwyddyn ar ôl blwyddyn. Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei gacennau mawreddog ac addurniadol, yn aml yn chwe throedfedd o uchder, yr oedd galw mawr amdanynt mewn priodasau. Roedd yn amlwg yn mwynhau her a phan ymwelodd yr arloeswr Nansen â Chaerdydd, cynhyrchodd Stevens gacen wedi’i haddurno’n addas i ddathlu teithiau ymchwil Nansen yn yr Arctig.
Byddai’n gamgymeriad, fodd bynnag, meddwl nad oedd Tom Stevens ond yn poeni am ben ucha’r farchnad. O’i ddyddiau cynnar yng Nghaerdydd roedd wedi buddsoddi mewn fflyd o wagenni a dynnwyd gan geffylau a oedd yn cynnig gwasanaeth cludo nwyddau ledled y ddinas. I’r rhan fwyaf o bobl, bara Stevens oedd yn eu pantri, boed yn “fara gwledig y pentref, wedi’i wneud â llaeth” neu’r bara mwya diweddar o Ffrainc. At hynny, er bod ei gaffis yn aml yn cynnal digwyddiadau ffasiynol, roeddent hefyd yn darparu ar gyfer pob ystod o bris. Roedd caffi’r ‘Dutch’, a oedd yn cael ei adnabod fel y ‘caffi mwya cywrain yn y byd”, yn ymfalchïo yn ei de prynhawn “gyda’n bara a menyn blasus”.
Pan gyrhaeddodd Stevens Gaerdydd a sefydlu ei siop gyntaf ar Heol y Frenhines yn 1887 roedd eisoes yn bobydd a theisennwr profiadol ac adnabyddus a oedd wedi rhedeg busnes ei dad yn Wrecsam, ac wedi cystadlu mewn arddangosfeydd yn America ac Ewrop. Ac eto, roedd yr hyn a oedd wedi dechrau fel cangen o fusnes Wrecsam, erbyn 1913 yn gwmni llawn yn ei rinwedd ei hun, yn cyflogi dros gant o bobl ac yn cael ei redeg gan y dyn a gydnabuwyd fel prif bobydd Caerdydd. Pan ddaeth Cymdeithas Genedlaethol y Prif Bobwyr a Theisenwyr i Gaerdydd, nid oedd rhaid edrych ymhellach na Tom Stevens i ddarparu’r arlwyo. Yn yr un modd, pan oedd angen barn arbenigol ar yr awdurdod lleol ar ansawdd y bara a gynhyrchwyd yn y dref, galwyd ar Stevens i roi barn.
Roedd y dyn ifanc, a oedd wedi byw uwchben ei siop gyntaf yn Heol y Frenhines, bellach yn briod a chanddo gartref gwych yn Heol Pen-y-lan, y Rhath. Er yn berson preifat nad oedd yn ymddangos yn aml yn y wasg, roedd nifer o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd yn gysylltiedig â’i gaffis. Mae’n siŵr y byddai Stevens hyd yn oed wedi gweld yr ochr ddoniol, wrth i dorf yn y Stryd Fawr gael ei diddanu gan geffyl yn bwyta blycheidiau o orennau oedd wedi’u clustnodi ar gyfer Caffi Dorothy, ond a adawyd heb oruchwyliaeth ar y palmant. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddai wedi cydymdeimlo llai â’r menywod a fu’n “pregethu dros gael y bleidlais” yn y caffi Iseldiraidd y bu’n rhaid gofyn iddynt “ymatal”.
Pwy allai fod wedi rhagweld, fodd bynnag, y byddai Ewrop ynghanol rhyfel o fewn 18 mis ac y byddai busnes, oedd yn adnabyddus am ei gacennau cain a’i briodasau crand, yn darparu bwyd i garcharorion rhyfel. Dyma’r ail o dair erthygl ar Thomas Stevens. Mae’r albwm coffa a gyflwynwyd i Stevens gan ei staff yn 1913 yn rhan o’r casgliad yn Archifau Morgannwg, cyf. D401.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg