Mae’r casgliad yn Archifau Morgannwg yn cynnwys manylion y ceisiadau niferus a wnaed i’r awdurdod lleol am ganiatâd adeiladu a chynllunio. Un o’r rhai mwyaf rhyfedd yw’r cais a wnaed gan Thomas Stevens, Pobydd a Theisennwr, ym 1913 am gael ychwanegu’r Arfbais Brenhinol at y canopi dros flaen Caffi Dorothy yn Stryd Fawr, Caerdydd. Yn ffodus, mae eitem arall yn y casgliad yn rhoi cefndir y cais hwn i ni, sef albwm coffa wedi’i rwymo mewn lledr da.

Tudalen agoriadol yr albwm coffa
Fe’i cynhyrchwyd gan gyfarwyddwyr a staff y Meistri Thomas Stevens, Confectioner Ltd, mae’r albwm yn cynnwys copi o’r warant, a gyhoeddwyd gan Arglwydd Steward yr Aelwyd Frenhinol, yn cadarnhau bod Thomas Stevens, ym mis Rhagfyr 1912, wedi’i benodi’n “Gwerthwr Teisennau Ei Fawrhydi”.

Yr Arfbais Brenhinol
Gyda thoreth o ffotograffau mawr o’r safle a oedd yn eiddo i’r cwmni yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd, mae’r albwm yn cynnwys ffotograff o fan y cwmni, a gymerwyd ym 1913, sydd eisoes yn arddangos y geiriau “Drwy apwyntiad i’w Fawrhydi’r Brenin”

Fan cwmni Thomas Stevens
Roedd hyn yn dipyn o gyflawniad. Roedd dyfarnu’r warant yn arwydd o’r safonau uchaf a brofwyd dros gyfnod o bum mlynedd cyn cael derbyn gan yr Aelwyd Frenhinol. Fel y gellid disgwyl, roedd Stevens yn ffigwr adnabyddus ac uchel ei barch yng Nghymdeithas Genedlaethol Pobwyr a Theisenwyr Meistr. Fe’i ganwyd yn Wrecsam ym 1857 ac erbyn ei ben-blwydd yn 21 oed roedd wedi bod mewn arddangosfeydd rhyngwladol yn Philadelphia ac ym Mharis ac ennill gwobrau yno. Felly, roedd galw am ei sgiliau mewn llawer o briodasau mawr y boneddigion yn y cyfnod.

Braslun o gacen priodas Miss Constance Hill o Rookwood
Ym 1891, pan briododd Daisy Cornwallis West â’r Tywysog Henry o Pless, Stevens a gomisiynwyd i gynhyrchu’r brecwast priodas i 300 o westeion ochr yn ochr â chacen briodas tair haen a oedd yn chwe throedfedd o uchder ac yn 150 pwys! Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, pan briododd chwaer Daisy, Shelagh, ag un o ddynion cyfoethocaf y wlad, Dug San Steffan, Tom Stevens a ddewiswyd i wneud y gacen. Rhagorodd unwaith eto, gan gynhyrchu cacen gyda phum haen, naw troedfedd o uchder, yn pwyso 200 pwys!
Bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, parhaodd Stevens i gystadlu mewn arddangosfeydd mawr, gan ennill medalau aur ac arian yn rheolaidd yn yr Arddangosfa Melysion a gynhaliwyd yn flynyddol yn Neuadd Albert yn Llundain, lle byddai gystal â’r teisenwyr a’r pobyddion gorau o westai enwog Llundain, gan gynnwys y Carlton a’r Cecil. Efallai nad oedd yn syndod, felly, iddo gael y Warant Frenhinol. Efallai hefyd y gellid disgwyl mai yn Llundain y buasai ei ddyfodol. Ac eto, pan gafodd ei gyfweld ar ôl cwblhau’r gacen ar gyfer Dug San Steffan, dywedodd Stevens mai ei uchelgais oedd hyrwyddo’r sgiliau a’r nwyddau a gynhyrchwyd gan ei gwmni ei hun ac eraill yng Nghaerdydd i’r “byd y tu allan”. Felly pa fath o farc wnaeth Tom Stevens ar Gaerdydd a’r “byd y tu allan”?
Gan ddefnyddio’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, bydd yr ail erthygl yn y gyfres hon yn edrych ar lwyddiant y cwmni a sefydlodd Thomas Stevens pan symudodd i Gaerdydd ym 1886. Bydd trydedd erthygl yn edrych ar sut, o fewn dwy flynedd wedi cael y Warant Frenhinol, yr oedd busnes a oedd yn adnabyddus am briodasau’r boneddigion yn darparu bwyd i garcharorion rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914.
Mae’r albwm coffa yn rhan o’r casgliad yn Archifau Morgannwg, dan rif cyfeirnod D401.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg