Wrth i BBC Cymru gau’r drws ar ei bencadlys yn Llandaf, cymerwn gipolwg ar Dŷ Baynton, a arferai fod ar y safle’n wreiddiol.
Adeiladwyd Tŷ Baynton rywbryd rhwng 1861 a 1871 gan Alexander Bassett (1824-1877), Peiriannydd Sifil, Syrfëwr Sirol ar gyfer Morgannwg ac Ynad Bwrdeistref Caerdydd. Nid oes gennym ffotograff o’r tŷ yn ein casgliad ond mewn erthygl ddiweddar ar wefan y BBC, disgrifiodd Vaughan Roderick y tŷ fel ‘tŷ bwgan allan o raglen Scooby-Doo’ a adeiladwyd o dywodfaen coch.
Fe’i henwyd ar ôl cartref plentyndod Ellen, sef gwraig Bassett, yn Wiltshire. Roedd gan Bassett agwedd garedig a byddai’n agor tir Tŷ Baynton ar gyfer hwyl flynyddol yr Ysgol Ddiwydiannol, lle’r oedd y plant yn cael eu diddanu a lle bu Bassett ei hun yn ymuno â’u difyrrwch a’u gemau.
Erbyn 1881 nid oedd y Bassetts bellach yn byw yn Nhŷ Baynton. Yr oeddent wedi symud i arfordir deheuol Lloegr oherwydd iechyd Alexander. Bu farw ym mis Ebrill 1884 a chofrestrwyd ei farwolaeth yn Bournemouth.
Cafodd y tŷ ei rentu sawl gwaith rhwng y 1880au a’r 1900au. Fe’i rhoddwyd ar werth ym 1905 gan fab Bassett, am y swm ysblennydd o £9000, sef tua £1,102,548 yn y farchnad heddiw. Fe’i disgrifiwyd felly:
A well-appointed private residence
An attractive residential property within a short distance of the commercial centre of the town of Cardiff
Roedd yn cynnwys:
Llawr Gwaelod: Neuadd, ystafell fwyta, parlwr, ystafell y bore, astudfa
Llawr cyntaf: 7 ystafell wely
Ail lawr: 3 ystafell wely
Hefyd seleri, stablau, tŷ coets, gerddi ar 10¾ erw a thramwyfa ei hun.
Maint y neuadd oedd 18’x18′ a 32 troedfedd o uchder. Gallwch ddychmygu pa mor syfrdanol y byddai coeden Nadolig fawr wedi edrych yn y tŷ.
Mae’r ffeil ohebiaeth (DSA/12/1283) yn cynnwys llythyr gan Stephenson ac Alexander, Arwerthwyr a Syrfewyr Siartredig, i Bassett gan roi disgrifiad da o’r tŷ a’r tiroedd ym 1905.
Mae hefyd yn dweud y byddai’n well gohirio’r gwerthiant am ychydig:
…at the present moment there is not a great demand for property of this description
Mae’n rhaid bod Bassett wedi cymryd sylw o hyn gan fod yna lythyr dyddiedig 1907 sy’n rhoi manylion y tŷ a’r seiliau a gwerth rhent o £300 y flwyddyn.
Bu William Henry Deacon Mewton, rheolwr gyfarwyddwr cwmni glofaol, yn byw yn Baynton gyda’i deulu tan y 1930au. Bu farw William Henry ym 1938; ac yna ei fab John Deacon ym 1939. Rhoddodd ei fab arall William F y tŷ ar werth.
Cafodd cynnwys y tŷ ei arwerthu ym mis Ebrill 1940, gan gynnwys pianoforte cyngerdd Steinway (DSA/14/145).
Ym 1945 lluniwyd cynlluniau ar gyfer ail-ddatblygu Ystâd Tŷ Baynton gan Mrs Walter Gibbon a Mrs Arthur Marment (BC/S/1/34938). Mae’r cynlluniau’n dangos cymysgedd o dai ar wahân a thai pâr. Afraid dweud na ddaeth y cynllun hwn ar waith erioed a phrynwyd Tŷ Baynton yn y pen draw gan y BBC ym 1952. Goroesodd tan 1975 pan gafodd ei ddymchwel o’r diwedd i wneud lle i estyniad bloc E y BBC.
Melanie Taylor, Cynorthwy-ydd Cofnodion