Yn mis Mai ar ein cyfryngau cymdeithasol fe ddangoson ni’r ffotograff yma o weithwyr ar ystâd Gardd-Bentref Rhiwbeina.
Fodd bynnag, roeddem yn meddwl y gallai fod gennych ddiddordeb darganfod ychydig mwy am yr achlysur a ysgogodd y llun. Mae ymchwil yn awgrymu bod y ffotograff wedi’i dynnu yn Y Groes fore Sadwrn 19 Gorffennaf 1913. Mae sawl cliw. Mae’r gweithlu wedi’u gwisgo mewn coler a thei ar gyfer achlysur arbennig tra, ar y dde yn y cefn, mae dau ddyn mewn gwyn yn gorffen codi llwyfan pren, gyda chadeiriau’n cael eu gosod arno fel y manylyn olaf. Yn ogystal, os edrychwch yn ofalus ar y tŷ ar y dde eithaf, y tu ôl i’r ysgol mae gorchudd cotwm yn gorchuddio rhan o’r wal.
Dyma ddiwrnod y seremoni agoriadol ar gyfer “Rhubina Fields Garden Village”, a gynhaliwyd ar brynhawn 19 Gorffennaf 1913 am 3.30. Roedd disgwyl torf fawr gyda threnau arbennig wedi’u trefnu o Orsaf Rhymni a choetsys modur o Heol y Gogledd. Roedd y dorf i’w diddanu ar lawnt y pentref, o flaen y tai, gan Fand Milwrol Caerdydd, gyda lluniaeth ar gael o bafiliynau te a godwyd ar y glaswellt. Y prif atyniad oedd presenoldeb Iarll a Iarlles Plymouth sy’n egluro’r llwyfan ar gyfer areithiau ac agoriad swyddogol yr ardd-bentref. Yn ystod y prynhawn roedd yr Iarll i fod i archwilio’r ddau dŷ cyntaf a gwblhawyd a rhoi’r allweddi i’r tenantiaid.
Roedd gan y gweithlu bob rheswm i deimlo balchder. Ar ôl prynu i Gymdeithas Pentref Cydweithredol Gweithwyr Caerdydd brynu 14 acer o dir yn y lle cyntaf, cynlluniwyd 34 o gartrefi. Torrwyd y dywarchen gyntaf ar 8 Mawrth 1913 ac yna, gwta bedwar mis yn ddiweddarach, roedd yr allweddi i’r cartrefi cyntaf yn cael eu trosglwyddo. Wrth ddarparu dŵr, nwy a thrydan ochr yn ochr â llety a gerddi helaeth, cynlluniwyd y tai, y cyfeirir atynt fel “bythynnod”, i osod safon newydd ar gyfer cartrefi dosbarth gweithiol. Roedd rhenti ar gyfer yr eiddo newydd wedi’u gosod yn isel, gan ddechrau ar bum swllt a chwe ceiniog yr wythnos, yn y gobaith y byddent o fewn cyrraedd teuluoedd a oed dyn byw yng nghanol gorlawn Caerdydd.
O ran y gorchudd cotwm yn y ffotograff, roedd yn cuddio deial haul a osodwyd ar wal y tŷ. Fe’i dadorchuddiwyd gan Iarlles Plymouth ar 19 Gorffennaf 1913 ynghyd â maen coffa ar wal y tŷ cyfagos – ychydig allan o olwg y ffotograff. Mae’r ddwy nodwedd wedi goroesi prawf amser a gellir eu gweld o hyd ar y tai gwreiddiol yn Y Groes.
Mae’r ffotograff yn rhan o gofnodion Gardd-Bentref Rhiwbeina a gedwir yn Archifau Morgannwg (cyf.: DGSR).
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg