Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â chefndir yr ardd-bentref yn Rhiwbeina, Caerdydd. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad ydych wedi gweld y posteri a gynhyrchwyd yn 1913 i hyrwyddo’r pentref newydd, gyda’r cartrefi cyntaf i fod i gael eu cwblhau y flwyddyn honno.
Roedd y mudiad gardd-bentrefi yn ymateb, ar ddechrau’r 20fed ganrif, i’r amodau byw gorlawn a gwael oedd i’w cael yn y rhan fwyaf o drefi diwydiannol. Roedd gardd-bentrefi yn cynnig dewis amgen i’r amodau cyfyng ac afiach oedd i’w gweld yn aml yn y cymunedau oedd yn byw yn y tai teras bach a adeiladwyd ar gyfer y gweithlu a lifodd i Dde Cymru yn hanner olaf y 19fed Ganrif. Roedd y pentrefi newydd yn cynnig tai mawr gyda gerddi, wedi’u hadeiladu ar heolydd coediog gyda mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon a hamdden cymunedol.
Roedd gardd-bentrefi hefyd yn cynnig ffordd newydd o ariannu’r gwaith o adeiladu a chynnal a chadw ystadau o’r fath. Er bod arbrofion cynnar yn Lloegr wedi dibynnu’n drwm ar gymwynaswyr cyfoethog, gan gynnwys teuluoedd Cadbury a Rowntree, roedd y datblygiad yn Rhiwbeina yn rhan o don newydd o ardd-bentrefi a oedd yn cael eu rhedeg gan gwmnïau cydweithredol lleol. Gyda chyllid yn deillio o gyfalaf cyfranddaliadau a benthyciadau, cododd y mentrau cydweithredol ddigon o arian i brynu tir ac adeiladu’r cartrefi newydd. Tai rhent oedd y rhain yn unig, gyda’r incwm yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu benthyciadau a chynnal a datblygu’r ystadau.
Fel y gellid dychmygu, cafodd y cysyniad ei groesawu a’i gymeradwyo’n eang. Yn ogystal â datblygiad Rhiwbeina yn 1913 roedd llawer o gynlluniau tebyg ar waith yn Ne Cymru, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer pentrefi gardd yng Nghaerffili, Fernhill a Gilfach.
Mae’r posteri’n dweud llawer wrthym am y mudiad gardd-bentrefi. O’r cychwyn roedd pwyslais mawr ar redeg a datblygu’r pentref fel menter gydweithredol. Roedd pennawd y poster, “Health for the Child”, yn atgoffa pobl o’r gyfradd farwolaethau uchel ymhlith babanod mewn sawl rhan o Gymru, a’r addewid o amgylchedd byw gwell yn y gardd-bentrefi newydd. Roedd cysylltiadau teithio da hefyd yn bwysig, gyda’r pentrefi yn gweithredu fel ardaloedd ategol i’r prif gytrefi gyda bysiau a rheilffyrdd ar gael i’r rhai oedd yn cymudo i’r gwaith.
Yn olaf, edrychwch ar argraff arlunydd o Gaerdydd yn 1913. Mae Caerdydd yn dal i fod yn ddinas werdd iawn ar lawer ystyr, ond mae’n ein hatgoffa faint yn union y mae wedi tyfu ac ehangu dros y 100 mlynedd diwethaf.
Mae’r ffotograff yn rhan o gofnodion Gardd-Bentref Rhiwbeina a gedwir yn Archifau Morgannwg (cyf.: DGSR).
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg