Wedi’i sefydlu yn 1861 i ofalu am yr henoed tlawd ac ar gyfer plant amddifad ac anghenus, mae’r Chwiorydd Nazareth yn urdd o leianod Catholig Rhufeinig. Wedi eu lleoli ar hyd a lled y byd Saesneg ei iaith, enwir eu hadeiladau fel rheol yn ‘Nazareth House’. Cyrhaeddodd yr urdd Gaerdydd tua 1870, a’i leoli i ddechrau yn 36 Stryd Tyndall. Yn fuan, fodd bynnag, cynigiodd trydydd Ardalydd Bute safle iddynt ar Heol y Gogledd, yn ogystal â chyfraniad tuag at gostau adeiladu.
Yn 1874, rhoddwyd caniatâd i godi cwfaint newydd. Fe’i dyluniwyd gan John Prichard, Pensaer Esgobaethol Llandaf, ac roedd yn cynnig darpariaeth ar wahân (ystafelloedd eistedd ac ystafelloedd cysgu) ar gyfer merched, bechgyn, hen fenywod a hen ddynion, yn ogystal â llety ar gyfer y chwiorydd. Yn ymarferol, ymddengys mai lletya merched yn unig a wnaeth y cartref plant yn ystod y rhan fwyaf o’i hanes.
Mae’r ffurflen cyfrifiad 1901 ar gyfer Nazareth House yn rhestru’r Uwch-Fam a’r 16 chwaer cynorthwyol, ynghyd â 196 o fenywod a 16 o ddynion. Roedd yr 16 dyn rhwng 54 a 95 oed, gyda’r rhan fwyaf yn eu 60au neu 70au. Roedd oedrannau’r menywod yn amrywio o 2 i 85. Roedd dros 160 o’r rhain o dan 20 oed, a’r rhan fwyaf o’r gweddill dros 60.
Ehangwyd Nazareth House yn aml i letya niferoedd mwy ac estyniad o 1907 sydd i’w weld ym mraslun Mary Traynor. Fe’i cynlluniwyd gan Edwin Wortley Montague Corbett, a chan redeg yn gyfochrog â Heol y Gogledd, fe’i hadeiladwyd fel ysgol, gydag ystafelloedd dosbarth ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf yn ogystal â rhagor o ystafelloedd cysgu ar yr ail lawr. Gan fod Ffermdy Blackweir (Y Gored Ddu) yn ymddangos yn y blaendir, roedd yr artist yn amlwg yn edrych draw o Barc Bute ar ochr arall Heol y Gogledd.
Gyda’r galw’n lleihau o’r 1950au ymlaen, lleihaodd Nazareth House ei darpariaeth i blant ond mae’n parhau i ddarparu gofal preswyl i’r henoed.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/2)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ‘House of Nazareth’, 1874 (cyf.: BC/S/1/90847)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ysgol diwydianol, Nazareth House, Heol y Gogledd, 1889 (cyf.: BC/S/1/7288)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer capel, Colum Road, 1897 (cyf.: BC/S/1/12231)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer ysgol newydd, Nazareth House, Heol y Gogledd, 1907 (cyf.: BC/S/1/16628)
- Papurau’r Barchedig Dad J M Cronin o Gaerdydd, The New Chapel at Nazareth House, 1898 (cyf.: DXHA/4/9)
- Cyfrifiad 1901
- http://www.sistersofnazareth.com/
- http://www.childrenshomes.org.uk
- https://en.wikipedia.org/wiki/Sisters_of_Nazareth
- http://www.cardiffians.co.uk/timeline.shtml