Lansiwyd Goleulong Trinity House 14 (LV14) ar 22 Medi 1953. Gan bwyso 550 tunnell a chyda hyd cyffredinol o 137 troedfedd, roedd angen criw o 11 ar y llong gyda saith ar ei bwrdd ar unrhyw un adeg. Yn ystod y degawdau dilynol, bu’n gwasanaethu mewn nifer o orsafoedd gwahanol ar hyd dyfroedd arfordirol y DG, y tro diwethaf ar fanc tywod Helwick Bank, tua chwe milltir i’r de-orllewin o Rosili ar Benrhyn Gŵyr.
Wedi’i datgomisiynu yn 1991, prynwyd yr oleulong wedyn gan elusen a, gyda chymorth Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd, cafodd ei hadfer i greu Canolfan Gristnogol arnofiol yn hen fasn Doc y Rhath. Fe’i bedyddiwyd yn ‘Goleulong (neu Lightship) 2000 ‘, a daeth yn ganolfan i gaplaniaid Bae Caerdydd, yn ogystal â gweithredu caffi gali a darparu ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd neu fyfyrdod tawel.
Yn 2013, tynnwyd cyllid gan eglwysi lleol yn ôl a chaeodd y ganolfan. Maes o law fe werthwyd y llong a’i thywys i Newnham, ar Aber Afon Hafren yn swydd Gaerloyw, yn y gobaith o’i sefydlu fel amgueddfa arnofiol.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
- Arolwg Ordnans: Map Un-Modfedd, Dalen 152 (Caerfyrddin a Dinbych y Pysgod)
- http://www.churchinwales.org.uk/news/2013/07/lightship-celebrates-20-years-as-bay-landmark/
- https://en.wikipedia.org/wiki/Lightship_2000
- https://en.wikipedia.org/wiki/Lightvessels_in_the_United_Kingdom
- http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/landmark-cardiff-lightship-leaves-cardiff-9262409
- https://penarthnews.wordpress.com/2015/05/18/