Agorodd Sinema Pen-y-lan ar 27 Awst 1914 yn 109 Heol Albany. Cyhoeddodd hysbyseb papur newydd ar y pryd y byddai’r holl elw am y tridiau cyntaf yn cael ei roi i’r Gronfa Rhyddhad Cenedlaethol, a sefydlwyd gan Edward, Tywysog Cymru, yn gynharach y mis hwnnw. Nid hwn oedd unig gyfraniad Sinema Pen-y-lan i leddfu effaith rhyfel gan eu bod hefyd yn cynnig hyfforddiant i gyn-filwyr anabl; yn 1918, adroddwyd bod nifer o’u hyfforddeion wedi cael eu rhoi mewn cyflogaeth ar gyflogau da.
Yn sefyll ar safle cornel mawr, roedd yr adeilad yn cwmpasu siopau yn ei wedd flaen ar Heol Wellfield. Erbyn 1930, roedd wedi ei ail-enwi yn Globe ac, ym mis Mawrth y flwyddyn honno, cyhoeddodd y byddai ‘talkies’ yn cael eu sgrinio yno’n fuan iawn. Wedi’i chau a’i dymchwel yn y 1980au, ymgorfforwyd y safle yn rhan o ganolfan siopa newydd, a gadwodd ei enw fel Canolfan y Globe. Fe gynhwyswyd sinema fechan yn rhan o’r ailddatblygiad, y Monroe, ond mae’n ymddangos mai am gyfnod cymharol fyr y bu’n weithredol cyn cau.
David Webb, Glamorgan Archives Volunteer
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/3)
- The Times, 7 Awst 1914
- South Wales Echo, 27 Awst 1914
- The Haverfordwest and Milford Haven Telegraph, 24 Ebrill 1918
- South Wales Echo, 16 Ionawr 1930
- South Wales Echo, 4 Mawrth 1930
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- http://cinematreasures.org/theaters/19759