Mae papurau J J Neale, cyd-berchennog masnachwyr pysgod Caerdydd, Neale and West, yn cynnwys casgliad helaeth o ddelweddau morwrol sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Ynghyd â ffotograffau o fflyd bysgota Neale and West mae hefyd nifer o ffotograffau o gychod a oedd heb rhyw lawer o gysylltiad â Neale and West neu Gaerdydd. Ymddengys y cawsant eu dethol a’u hychwanegu i’r casgliad oherwydd, ym mhob achos, yr oeddent yn cael eu hystyried yn ‘rhywbeth arbennig’.

Llong bysgota LO77 ar lawn hwyl (DX194/8/17)
Ar yr olwg gyntaf efallai byddwch yn gofyn pam cafodd y ffotograff o gwch pysgota ei gynnwys yn y casgliad, o ystyried, ar ddechrau’r 19eg ganrif, bod miloedd o gychod pysgota bach mewn porthladdoedd o amgylch arfordir Prydain. O’r rhif cofrestru ar yr hwyl, fodd bynnag mae bron yn sicr bod y ffotograff o’r Ann Hewett. Wedi’i adeiladu yn Gravesend ar gyfer teulu Hewett, perchnogion y fflyd Short Blue, ar gost o £1,200, roedd gan yr Ann Hewett y marc cofrestru LO77 am dros 50 o flynyddoedd.

Llwytho’r ddalfa o fwrdd y llong bysgota i gwch rhwyfo (DX194/8/14)
Wedi’i lansio ym mis Tachwedd 1836, ymunodd yr Ann Hewett â fflyd a oedd, erbyn canol y 19eg ganrif yn fflyd pysgota fwyaf y byd. Lleolwyd y fflyd Short Blue yn Barking, porthladd cartref dros gant o gychod pysgota yn y 1830au. Mae’n anodd credu nawr ond, bryd hynny, hwyliodd cychod pysgota i fyny afon Tafwys, bron i ganol Llundain, a dadlwytho’r hyn a ddalwyd ganddynt yn Barking i’w werthu ym marchnad pysgod Billingsgate.

Gwagio’r rhwyd (DX194/8/73)
Y broblem fwyaf a wynebodd fflyd Short Blue a’i chystadleuwyr oedd, oni bai bod y pysgod yn cael eu halltu, bod rhaid i gychod ddychwelyd i Barking bob ychydig o ddyddiau er mwyn i’r hyn a ddalwyd ganddynt gael ei gludo’n ffres i Billingsgate. Adeiladwyd yr Ann Hewett yn ôl dyluniad, fwy na thebyg a ddatblygwyd gan yr Iseldirwyr yn yr 18fed ganrif, i fynd i’r afael â’r broblem hon. Mewn sawl ffordd roedd yn debyg i lawer o gychod hwylio eraill, yn 60 troedfedd o hyd, yn pwyso tua 50 tunnell a chyda chriw o 8. Fodd bynnag, roedd yn wahanol mewn un ffordd bwysig, sef y cafodd ei adeiladu gyda chafn mawr yn rhan ganol y cwch lle y gellid cadw pysgod yn fyw nes iddo ddychwelyd i’r porthladd. Rhwng y 2 hwylbren ac wedi’i selio oddi wrth weddill y cwch gan adrannau dwrglos, cafodd y cafn ei lenwi gyda dŵr y môr a aeth i mewn trwy dyllau bach wedi’u drilio i mewn i gorff y cwch o dan linell y dŵr.
Roedd yn ddyluniad a oedd, ar y pryd, wedi chwyldroi pysgota dwfn yn y môr ledled y byd. Adwaenwyd y cychod newydd fel ‘cychod cafn’; roeddent yn ddrud eu hadeiladu ac yn anodd eu symud wrth eu hwylio. Fodd bynnag, roedd y gost yn talu ar ei ganfed, gan fod y cafn yn galluogi cychod i deithio ymhellach allan i’r môr a physgota am nifer o wythnosau cyn dychwelyd gyda physgod ffres wedi’i cadw yn y cafn. Ond yn eironig, bu’n rhaid i’r Ann Hewett drosglwyddo ei bysgod i gychod hatsh yn Gravesend i’w cludo i Billingsgate. Hyd yn oed yn hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd y Tafwys yn llygredig a byddai caniatáu i ddŵr yr afon ddod i mewn i’r cafn wedi difetha’r pysgod.

Dangos cath fôr mawr (DX194/8/77)
Ond eto, hyd yn oed cyn dyfodiad y treill-longau stêm, yn ail hanner y 19eg ganrif, roedd mantais gystadleuol y cwch cafn yn cael ei herydu. Roedd datblygu ‘pysgota fflyd’ gyda niferoedd mawr o gychod pysgota yn cael eu gwasanaethu gan wennol gyson o gychod llai yn mynd â’r pysgod i’r lan yn golygu bod y cafn o lai o werth. Yn ogystal, darparodd defnyddio iâ, a arloeswyd gan fflyd Short Blue yn Lloegr ffyrdd eraill o gadw’r pysgod yn ffres allan yn y môr.
Ar y dechrau cafodd iâ ei fewnforio, a oedd yn weddol gostus, o Norwy, a’i storio am hyd at flwyddyn mewn tai iâ dwfn â waliau trwchus a adeiladwyd yn y porthladdoedd. Yn fuan, fodd bynnag, cafwyd cyflenwadau gan ffermwyr lleol ar hyd arfordir dwyreiniol Prydain a sylweddolodd bod modd gwneud arian trwy greu llifogydd ar eu tir ym misoedd y gaeaf a gwerthu’r iâ i’r masnachwyr pysgod.
Gwerthwyd yr Ann Hewett ar ôl tuag ugain mlynedd o wasanaeth ond parhaodd i weithio fel cwch pysgota tan ddiwedd yr 1880au. Mae’n debygol y cafodd ein ffotograff ei dynnu pan oedd mewn perchnogaeth newydd oherwydd nad oes unrhyw arwydd o’r faner fach sgwâr – y ‘short blue’ – a oedd yn arfer hedfan ar frig yr hwylbren gan y fflyd Short Blue.
Nid oes unrhyw gofnodion o’r Ann Hewett yn ymweld â de Cymru, ond roedd un cysylltiad. Ym mis Mawrth 1872 roedd yn rhan o wrthdrawiad ym Môr y Gogledd gyda’r llong fawr o Norwy, y Septentrio. Collwyd un o’i chriw dros ochr y llong ond cafodd ei godi gan y Septentrio. Mewn moroedd trwm roedd yn amhosibl dychwelyd i’r Ann Hewett, felly nid oedd llawer o ddewis ond iddo aros ar y llong. Digwyddodd bod y Septentrio yn cludo coed o Norwy i Gaerdydd. Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad rhyfedd i bysgotwr o arfordir dwyreiniol Lloegr, yn treulio pythefnos gyda chriw o Norwy ac wedyn cael ei ddadlwytho yn Noc Dwyrain Bute pan gyrhaeddodd y Septentrio yng Nghaerdydd ar 2 Ebrill 1872. Gadewch i ni obeithio bod Caerdydd wedi rhoi croeso cynnes iddo cyn iddo gychwyn ar y daith hir yn ôl i arfordir y dwyrain ac i’r Ann Hewett.
Mae’r ffotograff o’r Ann Hewett yn un o gasgliad a ddelir gyda phapurau J J Neale yn Archifau Morgannwg dan gyfeirnod DX194. Gellir ei weld ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg