Tafarn ar gornel Heol y Dug a Heol Sant Ioan, Caerdydd oedd y ‘New Green Dragon’. Mae rhai ffynonellau’n awgrymu ei fod yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 18fed ganrif; fe’i rhestrwyd yn sicr mewn cyfeirlyfr o 1813, pan nodwyd mai’r perchennog oedd David Harris. Roedd ei enw yn ei wahaniaethu oddi wrth yr ‘Old Green Dragon’, oedd hefyd yn Heol y Dug.
Ym 1859, caffaelwyd y New Green Dragon gan Fulton Dunlop & Company, a oedd yn werthwyr gwin a gwirodydd cyfanwerthu a manwerthu wrth barhau i gadw bar cyhoeddus. Ym mis Chwefror 1906, rhoddwyd cymeradwyaeth adeiladu i gynigion y cwmni – a luniwyd gan y pensaer Edward Bruton – ar gyfer newidiadau mawr i’r safle. Yn allanol, ymddengys nad yw adeilad Bruton wedi newid rhyw lawer, ac erbyn hyn mae’n cael ei feddiannu gan gangen o Burger King.
Y tu mewn, roedd y llawr gwaelod yn cynnwys adran gyfanwerthu ar un pen gyda’i mynedfa yn Heol y Dug; roedd mynedfa’r bar manwerthu yn Heol Sant Ioan. Rhwng y ddau, a hefyd yn Heol Sant Ioan, roedd mynedfa ar wahân oedd yn agor i risiau a arweiniai i’r llawr cyntaf. Ar y lefel hon, creodd Bruton un ystafell fwyta grand ag uchder dwbl. Mae adroddiadau’n awgrymu bod rhai o ddinasyddion amlycaf Caerdydd yn mynychu’r ystafell hon. Dywedir bod deliau busnes a hyd yn oed penderfyniadau’r Cyngor wedi’u gwneud yno.
Parhaodd Fulton Dunlop i fasnachu tan y 1960au, pan ddaeth y llawr gwaelod yn ystafell arddangos ar gyfer Bwrdd Nwy Cymru. Yn ddiweddarach, bu’n gartref i arddangosfa gwyddoniaeth ymarferol Techniquest, cyn dod yn siop bwyd cyflym. Trwy’r holl newidiadau hyn, mae’r ystafell fahogani – y mae un gornel ohoni’n ymddangos yn fraslun Mary Traynor –wedi goroesi. A hithau’n 28 troedfedd o hyd a 17 troedfedd o led, mae’r ystafell fwyta wedi’i leinio â phaneli mahogani, wedi’u haddurno’n helaeth yn y dull canoloesol, ac mae’n cynnwys gwydr lliw yn ei ffenestri. Yn rhestredig gradd II, mae bellach yn rhan o swyddfeydd Burger King.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor Collection (cyf.: D1093/1/4)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer addasu’r Green Dragon, Heol Sant Ioan & Heol y Dug, 1906 (cyf.: BC/S/1/16146)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- http://www.mirror.co.uk/news/uk-news/burger-king-secret-dining-room-4828524
- https://dicmortimer.com/2012/10/07/absent-friends/
- http://newsbucket.tumblr.com/post/139970599409/18-february-16-secret-room-above-st-john