Saif Fairwater House ger pen gorllewinol Heol y Tyllgoed, Caerdydd, mwy neu lai’n gyferbyn â’r Ganolfan Sgïo ac Eirfyrddio bresennol.
Wedi’i gynllunio gan David Vaughan, fe’i codwyd ym 1844 ar gyfer Evan David, perchennog tiroedd sylweddol ym Morgannwg ac mewn mannau eraill. Fel yr adeiladwyd yn wreiddiol, roedd gan y tŷ deulawr ddwy brif ystafell fyw, sef ystafell fwyta a pharlwr, gyda’r ddwy ar ochr ddeheuol y llawr gwaelod. Lan lofft roedd naw ystafell wely o wahanol feintiau, ac ‘ystafell fach’. Nid oes unrhyw ystafell ymolchi yn ymddangos ar y cynllun. Roedd yr adeiladau allan yn cynnwys cerbyty a stabl gyda 4 côr.
Bu farw Evan David ym 1862 a’i wraig, Anne, ym 1867. Yna symudodd eu mab, Evan Williams David, i Fairwater House a dywedir ei fod wedi ehangu a gwella’r adeilad ar gost sylweddol, er mai dim ond am gyfnod cymharol fyr roedd yn gallu mwynhau’r tŷ cyn iddo ef farw ym 1872.
Roedd gan Evan Williams David dri o blant, gan gynnwys gefeilliaid Evan Edgar a Jessie Anne, a aned ym 1853. Priododd Jessie George Frederick Insole ym 1878 a buont yn byw yn Fairwater House am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, trosglwyddwyd yr eiddo yn ddiweddarach i fab Evan Edgar, Uwchgapten Evan John Carne David, a wasanaethodd fel Uchel Siryf Morgannwg ym 1930. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, symudodd yr Uwchgapten David allan a daeth Fairwood House yn hostel yr awdurdod lleol ar gyfer dynion oedrannus. Fe’i caewyd yn y 1980au a’i ddymchwel yn ddiweddarach. Mae datblygiad tai modern bellach ar y safle.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
- Papurau David Vaughan, Pensaer o Dresimwn, Llandaf Fairwater House: cynllun a gweddlun ar gyfer Mr. E. David, 1844 (cyf.: DV/31/1-3)
- Hanes y Teulu David o’r Tyllgoed (cyf.: DDAV/1)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Who’s Who in Wales 1933
- Williams, George: A List of the Names and Residences of the High Sheriffs of the County of Glamorgan from 1541 to 1966
- Cyfrifiad 1851 – 1891
- Calendrau Profeb Cenedlaethol Lloegr a Cymru 1863, 1868, 1872 & 1927
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt, 1261-1900