Mae’r ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cynnwys nifer o fflyd llongau pysgota Neale and West a oedd yn gweithredu o Gaerdydd ac Aberdaugleddau o 1888. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys lluniau o’r fflyd o dreill-longau ager a gyflwynwyd i Gaerdydd gan y cwmni newydd. Gyda’u cyrff dur a thanwydd glo lleol rhad, buan y disodlodd y treill-longau’r badau hwyl bychain a fyddai’n pysgota ar Fôr Hafren. Gyda phŵer ager a rhew i gadw’r pysgod yn ffres, daeth y cyfle i fflyd o Gaerdydd allu mynd i’r môr dwfn i bysgota. Yn ogystal, gyda diwydiant a masnach yn dod â niferoedd mawr o bobl i dde Cymru, roedd marchnad barod ar gyfer y pysgod a ddeuai treill-longau Neale and West i Ddoc Gorllewinol Bute.

Y Tamura wedi docio (DX194/8/76)
Mae’r ffotograff uchod o’r dreill-long Tamura. Gellid adnabod llawer o fflyd Neale and West drwy ddefnyddio enwau Siapaneg. Credir bod yr arfer hwn wedi datblygu o ganlyniad i gysylltiadau â chwmnïau pysgota o Siapan ac mewn ambell ffordd, mae hyn yn swnio’n wir. Ar droad y ganrif roedd y Japaneaid yn ceisio moderneiddio eu fflyd bysgota ac roedd parch mawr at ddyluniad a dulliau fflyd longau Prydain, a chânt eu hefelychu yn eang.
Gall adnabod treill-longau penodol fod yn anodd gan fod enwau’n cael eu hailddefnyddio’n aml, ac roedd dwy dreill-long yng Nghaerdydd o’r enw Tamura. Yn rhan o raglen adnewyddu fflyd bysgota Caerdydd gyda threill-longau ager diweddarach a mwy, adeiladwyd y Tamura gyntaf ar gyfer Neale and west ym 1917 yn yr iardiau llongau yn Selby yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Fodd bynnag, cafodd y dreill-long fwyaf newydd ei hawlio ar unwaith gan y Llynges Frenhinol a gwasanaethodd tan ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf fel llong glirio ffrwydrynnau.
Collwyd nifer o dreill-longau Neale and West a ddefnyddiodd y Llynges naill ai oherwydd ffrwydrynnau neu ymosodiadau gan gychod U. Nid dyma fu tynged y Tamura ond byr fu ei hamser gyda fflyd Caerdydd. Erbyn 1919 roedd yn ôl yng Nghaerdydd a chofnodwyd hi, yn ddadleuol, yn codi dalfa yn Pier Head, mewn dociau a oedd ar glo yn ystod streic. Bedair blynedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, drylliodd ar greigiau mewn niwl, yn agos i Benrhyn y Santes Ann yn Sir Benfro. Er i’r capten a’r criw lwyddo i gyrraedd y lan yn ddiogel, collwyd y dreill-long.

Treill-long anhysbys wedi taro creigiau (DX194/8/68)
O fewn blwyddyn roedd y Tamura wedi ei disodli gan dreill-long newydd o’r un enw a honno hefyd wedi’i hadeiladu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, ym Middlesbrough y tro hwn. Ymddengys, ar adegau, y bu’r busnes yn dda. Cofnododd un adroddiad fod y Tamura, gyda thair treill-long arall gan Neale and West, wedi dal 1600 o flychau o bysgod mewn un diwrnod yng Nghaerdydd. Deuai fflyd Caerdydd â chegddu adref yn bennaf, ond y diwrnod hwnnw roedd y ddalfa yn cynnwys penfreision, mecryll, lledod, cathod môr a draenogiaid y môr. Roedd yn amlwg, fodd bynnag, bod y fflyd eisoes yn gorfod mynd llawer ymhellach, a byddai’r Tamura yn aml yn gweithredu ym Môr yr Iwerydd, tua’r gorllewin o Iwerddon.

Treillwyr yn gollwng rhwydau (DX194/8/5)
Fel bob amser roedd y peryglon yn arwyddocaol i’w chriw o 12, a fyddai’n aml i ffwrdd am bythefnos neu fwy, yn agored i holl rymoedd yr Iwerydd. Ym mis Tachwedd 1927 taflwyd prif swyddog y Tamura i’r môr gan don anferth a boddodd yn y dymestl. Yn yr un storm collodd un o’r criw, hefyd o Gaerdydd, dri bys ar ôl i’w law gael ei dal mewn winsh.

Treillwyr yn glanio pysgod (DX194/8/6)
Er bod Neale and West yn parhau i weithredu o Gaerdydd tan 1956, bu’r Tamura yn un o nifer o dreill-longau a werthwyd i gwmni yn Aberdaugleddau ym 1931. Bu’n gweithio o Aberdaugleddau tan 1939 pan, fel ei rhagflaenydd, hawliwyd hi gan y Llynges Frenhinol. Fel yr HMT Comet, ar un adeg; cafodd y dasg anodd o weithredu fel magl i ddenu cychod U yr Almaen i’r wyneb er mwyn i’r Llynges Frenhinol allu ymosod arnynt. Yn anffodus, blwyddyn yn unig y bu hi yn y llu morol, oherwydd suddodd ar ôl taro ffrwydryn oddi ar arfordir Falmouth ym mis Medi 1940.
Mae dirgelwch o gylch ein ffotograff o’r Tamura. Mae’r cofnodion rydym wedi cael gafael arnynt yn dweud bod y treill-long wedi ei chofrestru yng Nghaerdydd dan CF47 ym 1917. Credwn fod yr ail dreill-long yn defnyddio CF12, tan ei throsglwyddo i Aberdaugleddau. Ac eto mae ein ffotograff yn dangos CF13 yn glir. A gafodd ei newid ar ryw bwynt oherwydd amharodrwydd i hwylio treill-long a gofrestrwyd dan rif 13? Os oes unrhyw un a all ein helpu i egluro’r dirgelwch hwn, yna cysylltwch â ni.
Mae’r ffotograff o’r Tamura yn un o gasgliad a ddelir gyda phapurau J J Neale yn Archifau Morgannwg dan gyfeirnod DX194. Gellir mynd atynt ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg