Eglwys Fethodistaidd Trelái, Heol Orllewinol y Bont-faen, Caerdydd

Yn 1858, agorodd Methodistiaid Cymreig Trelái gapel â 160 o seddi yn Mill Road yn lle eu hen addoldy, sef ysgubor wedi’i haddasu.  Cynhelid gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg ond, dros y ddau ddegawd nesaf, roedd cymaint o ddirywiad yn yr aelodaeth oedd yn siarad Cymraeg fel y prynwyd yr adeilad, ym 1879, gan y Methodistiaid Wesleaidd Seisnig – am £200 – gan eu brodyr Cymreig.

Erbyn troad yr 20fed ganrif, ysgogwyd y gynulleidfa gan yr aelodaeth gynyddol i chwilio am safle mwy o faint.  Cyd-drafododd yr ymddiriedolwyr brydles o 88 mlynedd ar gyfer tir ar gornel Heol Orllewinol y Bont-faen a Paget Road (Colin Way erbyn hyn), a gosodwyd cerrig sylfaen y capel presennol ar 16 Tachwedd 1910.

D1093-1-5-25

Braslun o Eglwys Fethodistaidd Trelai gan Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5 t25)

Dyluniwyd y cynllun gan bensaer o Gaerdydd, H P Sanders, ac mae ganddo nodweddion cyffredin o’r cyfnod Gothig Diweddar (Gothig Sythlin).  Cafodd y contract adeiladu ei osod i George Beames am y swm o £2894-10-0, ac agorwyd y noddfa orffenedig ym mis Mai 1911.  Yn 1947, prynodd yr ymddiriedolwyr rydd-ddaliad y safle, gan sicrhau dyfodol yr eglwys.

Fel yr adeiladwyd ef yn wreiddiol, roedd gan y capel seddi ar gyfer tua 800 o addolwyr.  Ond yn y blynyddoedd mwy diweddar, mae’r tu mewn wedi cael ei isrannu i greu ardal addoli lai gyda gweddill yr adeilad wedi’i addasu at ddefnydd y gymuned.

David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Ffynonellau a ddefnyddiwyd:

  • Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/5)
  • Cofnodion Cylchdaith Fethodistaidd Caerdydd, Eglwys Fethodistaidd Trelái, cofnodion cyfreithiol yn ymwneud ag eiddo ag ymddiriedolaeth (cyf.: D889/12/1)
  • A Golden Milestone: Ely Methodist Church, 1911 to 1961 (ref.: Lib/C/116)
  • Harrison, Arthur W: Ely Methodist, A History of the Church and its Environment, 1806 – 1974
  • Rose, Jean: Cardiff Churches through Time
  • http://www.britishlistedbuildings.co.uk/

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s