Roedd cwch tollau ym Mhenarth mor gynnar â 1686, pan benodwyd John Jones yn weinydd ac yn gychwr yno. Ym 1750, nododd Syrfëwr Tollau Caerdydd y byddai Tafarn Penarth Head yn dod yn wag cyn bo hir ac awgrymodd y gellid ei rhentu i ddefnyddio’r refeniw. Er mai ei brif gymhelliad oedd darparu lle ar gyfer busnes y tollau, nododd y byddai hyn hefyd yn atal smyglwr rhag byw yno – rhywbeth a oedd yn amlwg wedi digwydd o’r blaen.
Ymddengys na weithredodd y Comisiynwyr Tollau ar y cynnig hwn. Fodd bynnag, gan fod agor Doc Penarth yn golygu bod angen codi tolldy, y safle a ddewiswyd oedd yr hen dafarn. Cafodd yr adeilad yn null rhyfeddol o fawreddog y Dadeni ei godi ym 1865 a chredir iddo gael ei gynllunio gan Beiriannydd y Doc, Samuel Dobson.
Roedd swyddogion tollau yn gweithio yma tan ymhell yn yr 20fed ganrif ond, gyda’r gostyngiad mewn masnach trwy Benarth, roedd yr angen am Dolldy ar wahân yno yn lleihau, ac mae cyfeirlyfrau lleol yn awgrymu ei fod wedi peidio â gweithredu erbyn dechrau’r 1950au. Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio am gyfnod gan y Clwb Hwylio lleol, cyn cael ei fordio a’i adael yn segur am sawl blwyddyn. Ar ddechrau’r 2000au cafodd ei adnewyddu ac mae bellach yn fwyty poblogaidd.
David Webb, Glamorgan Archives Volunteer
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/2)
- Matthews, John Hobson (gol): Records of the County Borough of Cardiff, Cyf II, t 368 & Cyf V, t 309
- Hilling, John B: Cardiff and the Valleys
- Thomas, Barry A: Penarth the Garden by the Sea
- Cyfeirlyfrau lleol amrywiol
- https://www.britishlistedbuildings.co.uk/300013350-customs-house-penarth#.WZU7EeQ1jy0