Y Blaidd Mawr Drwg yn perfformio ym Mharc yr Arfau Caerdydd, Ionawr 1890

Yn y dyddiau pan oedd Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn llwyr ddibynnol ar danysgrifiadau’r cyhoedd, roedd y Theatre Royal yn aml yn cynnal perfformiadau gyda thâl y tocynnau’n cael eu rhoi i’r ysbyty. Ym mis Ionawr 1890 fodd bynnag, rhagorodd rheolwr y theatr, Edward Fletcher, ei hun drwy drefnu gêm bêl-droed elusennol ym Mharc yr Arfau a rhoddwyd yr holl elw i’r ysbyty.

D452-4-22

Y cynnig oedd bod cast pantomeim yr Eneth Fach a’r Fantell Goch – ‘Pretty Little Red Riding Hood’ – a ddisgrifiwyd gan Fletcher fel …llwybr llaethog o sêr, yn gorymdeithio drwy’r strydoedd mewn cert agored a ddarparwyd gan westy’r Royal, i’r maes. Y cast fyddai’n chwarae’r gêm, mewn gwisgoedd llawn, gyda chyfeiliant cerddorol gan y Band Hwngaraidd.

Mae’r poster ar gyfer pantomeim y Theatre Royal y flwyddyn honno yn rhoi awgrym o’r rhai a ddewiswyd ar gyfer ‘tîm’ yr Eneth Fach a’r Fantell Goch ym Mharc yr Arfau ar 15 Ionawr 1890. Er enghraifft, gwyddom fod yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, y Bachgen Glas, y Blaidd, y Cadno Cyfrwys a’r ddeuawd gomedi, Turle a Volto, wedi cael sicrwydd o rannau yn y cast gwreiddiol.  Fodd bynnag, bu dyfalu mawr yn y wasg, a ysbrydolwyd gan Fletcher mae’n siŵr, am y cast cyfan.  Bu colofnwyr dan ffugenwau ‘Man about Town’ a ‘A Theatr Goer’ yn dadlau a ddylai Alice Leamar (Eneth Fach a’r Fantell Goch) neu Rosie St George (Y Bachgen Glas) gymryd y ciciau at y pyst.  Hefyd cwestiynwyd lawer y penderfyniad i hepgor y milwyr benywaidd trawiadol (y chwiorydd Ada ac Amy Graham).

Er gwaethaf trafferthion munud olaf, pan awgrymwyd nad oedd Clwb Caerdydd wedi rhoi ei ganiatâd i ddefnyddio Parc yr Arfau, aeth y gêm yn ei blaen. Ychydig iawn o adroddiadau sydd am y gêm, er bod y cyfeiriadau at ‘… ludicrous burlesque from beginning to end’ yn dweud y cyfan mae’n debyg. O gofio bod y llain yn drwm, mae’n rhaid bod Fletcher wedi wynebu bil glanhau gwisgoedd difrifol gan fod gan y pantomeim bedair wythnos arall i fynd.

Serch hynny, ar ôl i’r llwch setlo, cyflwynwyd £68 i George Coleman, Ysgrifennydd Ysbyty Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Fel ysbyty oedd yn ddibynnol ar roddion roedd pob tamaid bach yn gymorth a diolchwyd i Edward Fletcher, yr Eneth Fach a’r Fantell Goch, ei chwmni a hyd yn oed y Blaidd Mawr Drwg.

Mae’r poster ar gyfer Yr Eneth Fach a’r Fantell Goch yn cael ei gadw yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D452/4/22. Gellir ei weld ar-lein ar http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s