Cafodd cynlluniau ar gyfer y rhan o Arcêd y Castell o Stryd y Castell – gan gynnwys y fynedfa a ddarluniwyd gan Mary Traynor – eu cymeradwyo ar 10 Chwefror 1887.
Daeth rhan y Stryd Fawr ychydig yn hwyrach ond cwblhawyd y ddwy erbyn mis Hydref 1889, pan agorwyd yr arcêd gan Faer Caerdydd.
Wedi’i hadeiladu ar dir oedd yn eiddo Ardalydd Bute, dyluniwyd y gangen sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de gan bensaer yr Ardalydd, Edwin Wortley Montague Corbett, a greodd 23 o unedau siop ar lefel y llawr gwaelod. Er eu bod yn cydweddu’n dda â’i gilydd, lluniodd pensaer lleol gwahanol, Samuel Rooney, gynlluniau ar gyfer cangen y Stryd Fawr gyda’i 25 o siopau yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin.
Roedd cynllun Rooney yn cynnwys unedau busnes ychwanegol ar lefel oriel. Er bod gan y siopau ar y llawr gwaelod storfeydd mewn isloriau a grisiau amgaeedig i’r ystafelloedd ar yr ail lawr, roedd y llawr cyntaf yn cynnwys swyddfeydd hunangynhwysol y gellid eu cyrchu o falconi, sy’n dal i fod yn nodwedd atyniadol o’r arcêd hon.
Mae cyfeirlyfrau o’r 1890au yn rhestru amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau eraill a oedd yn meddiannu’r siopau a’r swyddfeydd. Roedd y rhain yn cynnwys cyflenwyr dillad, nwyddau cartref a bwydydd, yn ogystal ag optegwyr, ffotograffwyr, elusennau ac undebau llafur. Bellach wedi’i hadnewyddu fel rhan o Ardal yr Arcedau, mae Arcêd y Castell yn parhau i gynnwys amrywiaeth eang o fusnesau bach lleol.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer arcêd newydd – y Stryd Fawr at Stryd y Castell, 1887 (cyf.: BC/S/1/6177)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Cyfrifiad 1891
- The Weekly Mail, 6 Tachwedd 1886
- The Weekly Mail, 10 Medi 1887
- Western Mail, 28 Hydref 1889
- http://castlequarterarcades.co.uk/castle-quarter-arcades-history/