Corinthiaid Caerdydd

I’r rhai ohonoch sy’n gweld eisiau eich pêl-droed, dyma lun o’r casgliad yn Archifau Morgannwg o dîm lleol enwog.

Picture1

Rydym ni’n credu mai dyma’r ffotograff cyntaf oll o’r ‘Cardiff Corinthians’, sydd efallai’n fwy adnabyddus mewn cyfnodau mwy diweddar fel Corries Caerdydd. Mae cofnodion cynnar y Corinthiaid hefyd yn yr Archifau.

Ni allwn egluro pam fod dyddiad 1897-98 ar y ffotograff. Mae ein cofnodion yn dangos bod y clwb wedi’i sefydlu mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhŷ Coffi’r Criterion ar ddydd Gwener 22 Gorffennaf 1898. Felly mae’n debyg mai dyma’r tîm a chwaraeodd yn yr hyn a gredwn oedd tymor cyntaf y clwb, sef 1898-99. Fodd bynnag, os gallwch ein helpu i egluro hyn, cysylltwch â ni.

Fel y gwelwch o’r enwau ar y ffotograff, deilliai craidd y tîm o dri theulu i gyd yn byw yn ardal Treganna – sef teulu’r Gibson, y teulu Price a’r teulu Hill. Roedd pawb yn y cyfarfod yn chwarae i Glwb Criced Alpha ac fe sefydlwyd y Corinthiaid, yn y lle cyntaf, i gynnig camp i chwaraewyr yr Alpha yn ystod misoedd y gaeaf.

Y chwaraewr sy’n eistedd ynghanol y rhes flaen yw Fred Price, capten y tîm yn ei dymor cyntaf, a wasanaethodd yn ddiweddarach fel Ysgrifennydd y Clwb a’r Trysorydd. Disgrifiwyd Fred gan ei gyd-chwaraewyr fel ‘chwaraewr egnïol, gwrol, glân’ ac ‘un o’r cymrodyr gorau a fu’n byw erioed’. Roedd hefyd yn gricedwr talentog â’r bat a’r bêl ac, yn arbennig, â’i fat gan y byddai’n gwasgaru maeswyr y gwrthwynebwyr i’r ffin pan ddeuai i’r wiced.  Roedd ei farwolaeth gynnar yn 29 oed cynnar ym 1905 yn golled fawr.

Yn y blynyddoedd cynnar bu’r Corinthiaid yn chwarae eu gemau, yn bennaf, ar Gaeau Llandaf. Bydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â’r Corries yn sylwi nad ydynt yn gwisgo eu crysau chwarterog enwog. Yn y flwyddyn gyntaf fe ddewison nhw grysau aur a siorts gwyrdd ond gan newid y flwyddyn ganlynol i ‘grysau chwarterog ysgarlad ac aur’.   Roedd yn dymor cyntaf anodd gyda’r tîm yn ennill ond 4 o’u 22 gêm. Fodd bynnag, megis dechrau yr oedd hi i’r Corinthiaid o Gaerdydd, gyda’r clwb yn mynd ymlaen i ennill rhes o gwpanau, gan gynnwys Cwpan Amatur Cymru, ar sawl achlysur. Nhw hefyd oedd un o’r timau tramor cyntaf i gael eu gwahodd i Sbaen i chwaraeyn erbyn clwb mawr Barcelona.

Mae Corries Caerdydd yn dal yn fyw ac yn iach heddiw, gyda’u cartref yng Nghae Glan-yr-afon, Radur.  Gellir gweld rhestr o’r cofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg ar gyfer y Cardiff Corinthians (cyfeirnod D751) drwy’r catalog yn http://calmview.cardiff.gov.uk/.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s