Cwrdd â’r Staff: Llawfeddyg Tŷ, Philip Rhys Griffiths – y Llawfeddyg Tŷ cyntaf yn ysbyty a fferyllfa newydd Sir Forgannwg a Sir Fynwy

Dyma’r chweched mewn  cyfres o erthyglau am adeiladu ac agor Ysbyty a Fferyllfa Sir Forgannwg a Sir Fynwy, ym mis Medi 1883.  Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Y Llawfeddyg Tŷ

Philip Rhys Griffiths 1

Philip Rhys Griffiths (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)

Roedd Philip Rhys Griffiths yn 27 pan gafodd ei benodi’n Llawfeddyg Tŷ yn yr ysbyty ym mis Mehefin 1882. Yn fab i syrfëwr o Aberafan, roedd yn Faglor mewn Meddygaeth, wedi iddo gael ei hyfforddi yn Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain. Llawfeddyg y Tŷ oedd yr unig feddyg cyflogedig llawn amser yn yr ysbyty ac roedd yn rôl anodd a llafurus. Byddai Philip wedi bod yn goruchwylio pob claf mewnol, fel arfer o leiaf 60 ar unrhyw adeg. Bu’n ymdrin â derbyniadau, yn cynnal rowndiau ward dyddiol ac roedd ar alw bob awr. Roedd hefyd ar alw’r 4 llawfeddyg a meddyg er anrhydedd, ac roedd yn ofynnol eu hysbysu o gynnydd eu cleifion a sicrhau bod unrhyw gyfleusterau ac offer yr oedd arnynt eu hangen ar gael ar y dyddiau yr oeddent yn ymweld â’r ysbyty.

Roedd y llawfeddyg tŷ yn mynychu pob achos brys a ddeuai i’r ysbyty. Bu llawer o achosion o anafiadau yn sgil y twf diwydiannol yng Nghaerdydd. Ymysg llawer o gleifion eraill, byddai Philip wedi trin William Bryant oedd yn 6 oed ac a gafodd ei redeg drosodd gan dram a dynnwyd gan geffyl, damwain a welwyd gan David Morgan, y dilledydd, o’r Aes. Bu hefyd yn trin John Cody oedd wedi cwympo o nenbont yn y Doc Sych Masnachol, gan anafu ei gefn a’i goesau’n ddifrifol.

I ychwanegu at ei lwyth roedd hefyd yn ymweld â chleifion allanol nad oedd yn gallu mynd i’r ysbyty. Roedd hyn yn ganlyniad i’r dyddiau pan mai dim ond gwasanaeth fferyllfa oedd ar gael. Roedd cynlluniau ar y gweill i annog teuluoedd i dalu’n wythnosol i gynllun yswiriant a fyddai’n darparu gofal cartref. Fodd bynnag, mae’r cofnodion yn dangos bod y llawfeddyg tŷ yn dal i ymweld â’r cartref yn ystod y cyfnod hwn.

Yn olaf, ganddo fe hefyd roedd yr allwedd i ‘dŷ’r meirw’ ac roedd yn gyfrifol am sicrhau bod cyrff y meirw yn cael eu casglu gan eu perthnasau. O ystyried gofynion y swydd, nid yw’n syndod bod gofyn i’r llawfeddyg tŷ fyw ar y safle a pheidio â chymryd gwaith preifat. Roedd yn rhaid i Bwyllgor Rheoli’r Ysbyty gytuno ar unrhyw absenoldebau, a dim ond ar ôl dod o hyd i locwm. Am hyn i gyd roedd Philip yn derbyn cyflog o £100 y flwyddyn a … bwyd, golch, a fflatiau wedi eu dodrefnu.

Roedd bron yn anochel, felly, bod y llawfeddyg tŷ yn ganolog i fywyd yn yr ysbyty. Yn sicr, ymrwymodd Philip Rhys Griffiths ei hun i bob agwedd ar y rôl. Yn ogystal â’i ddyletswyddau dyddiol roedd yn canu i’r cleifion fel rhan o’r adloniant a ddarparwyd ar noswyl Nadolig, ac fel ysgrifennydd trefnodd y ddawns elusennol flynyddol a oedd mor bwysig wrth godi arian i’r ysbyty. Bu hefyd yn agos iawn at y Fatron arswydus Pratt, yn cefnogi ei hymgyrch i wella’r hyfforddiant a’r llety a ddarparwyd i nyrsys. Mae’n rhaid ei bod yn siomedig, felly, pan gafodd ei achos dros benodi llawfeddyg Tŷ cynorthwyol ei ateb gyda’r awgrym y gellid darparu ar gyfer hyn pe bai’n diswyddo unig fferyllydd yr ysbyty, a oedd yn rheoli cyflenwi a darparu meddyginiaethau i’r cleifion.

Roedd llawfeddyg tŷ yn rôl a wnaed fel arfer gan feddygon ifanc newydd gymhwyso ac yn aml fel eu hapwyntiad cyntaf. Yn unol â’r patrwm hwn, ymddiswyddodd Philip Rhys Griffiths ym mis Mai 1884 a gadawodd yr ysbyty ym mis Awst ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Meddyg ifanc arall gymerodd ei le, Donald Paterson, Albanwr a oedd wedi cwblhau ei hyfforddiant yng Nghaeredin y flwyddyn flaenorol.

Donald Paterson

Donald Paterson (ch) (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)

Nid dyma ddiwedd ymwneud Philip â’r ysbyty fodd bynnag.  Bu’n byw am y rhan fwyaf o’i oes yng Nghaerdydd a dychwelodd i’r ysbyty bedair mlynedd yn ddiweddarach, yn 1886, fel Swyddog Meddygol Cleifion Allanol. Yn y rôl hon, byddai wedi bod yn un o’r tri swyddog meddygol oedd yn trin y miloedd o gleifion allanol oedd yn cael eu gweld yn yr ysbyty bob blwyddyn. Wedi hynny fe’i penodwyd yn llawfeddyg, swydd a fu ganddo am flynyddoedd lawer.

Philip Rhys Griffiths 2

Philip Rhys Griffiths (ch) (trwy garedigrwydd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd)

Roedd Philip Rhys Griffiths yn ffigwr adnabyddus yng Nghaerdydd gyda’i lythyrau yn aml yn cael eu cyhoeddi yn y papurau lleol. Teithiodd yn helaeth a darlithiodd ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys hanes meddygaeth yng Nghymru. Bu hefyd yn rhoi cyngor ar ddiet ac roedd yn eiriolwr dros yfed dŵr gyda bwyd i osgoi … effeithiau gwael gwirodydd, hyd yn oed os cânt eu cymryd yn gymedrol, ar y system dreulio. Yn siaradwr Cymraeg ac yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, mewn blynyddoedd diweddarach bu’n Llywydd Cymdeithas Feddygol Caerdydd a Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd.

Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar Adroddiadau Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, y gellir dod o hyd iddynt yn Archifau Morgannwg, dan rif cyfeirnod DHC50.  Gellir dod o hyd i gofnodion y Pwyllgor Rheoli ar gyfer y cyfnod hwn yn DHC5-6.

Mae lluniau Philip Rhys Griffiths wedi eu darparu gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd. Maent yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Roedd yn un o sylfaenwyr Adran Ffotograffiaeth y Gymdeithas a gwasanaethodd fel ei Llywydd yn 1904-05. Gellir dod o hyd i fanylion ei gyfraniad i’r Gymdeithas yn http://www.cardiffnaturalists.org.uk/htmfiles/150th-35.htm

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s