Cwrdd â’r staff: Metron Mary Pratt – Metron gyntaf Ysbyty a Fferyllfa newydd Bro Morgannwg a Sir Fynwy

Dyma’r bumed mewn cyfres o erthyglau am adeilad ac agoriad Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy ym mis Medi 1883. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Er bod cleifion wedi’u symud i wardiau’r ysbyty newydd ym mis Medi 1883, ni agorodd yr ysbyty yn gyfan gwbl tan fis Mai 1884. Y darn olaf yn y jig-so oedd yr wyneb ar Glossop Road lle’r oedd adran y cleifion allanol, ystafelloedd ysgrifennydd yr ysbyty a llety ar gyfer staff nyrsio a meddygol. Bu symud o’r hen ysbyty, a feddiannwyd ers 1837, a chael siâp ar yr ysbyty newydd yn gyfnod caled i’r staff.

Y Metron

Roedd Elizabeth Griffiths yn 33 oed ym 1882 pan ymddiswyddodd o’i swydd fel Metron. Roedd hi’n gyn-Fetron Gynorthwyol yn Ysbyty Brenhinol Bryste a hi oedd y seithfed Metron i wasanaethu yn yr hen ysbyty ers ei agor ym 1837 a bu yn y swydd am ddeng mlynedd. Fodd bynnag, roedd yn bwriadu priodi ac roedd rheolau ysbytai yn mynnu bod y metronau a’r nyrsys naill ai’n ddibriod neu’n weddwon heb ddibynyddion. Gadawodd ym mis Tachwedd gyda rhodd o £10 a daeth Mary Pratt yn ei lle, wedi ei dewis o blith 21 ymgeisydd.

Dywedai manyleb y swydd yn syml bod yn rhaid i ymgeiswyr gael … profiad o waith mewn ysbyty, yn enwedig yn goruchwylio nyrsys a nyrsio, a châi’r ymgeisydd llwyddiannus gyflog o £40 y flwyddyn yn ogystal â bwyd, cyfleusterau golchi a llety am ddim. Roedd Mary Pratt yn un o genhedlaeth newydd o fetronau. Cwblhaodd ei hyfforddiant yn ysgol Nightingale i nyrsys yn Ysbyty Sant Thomas yn Llundain ac, fel pob un a oedd ar brawf, byddai hi wedi cwrdd â Florence Nightingale. O’i phrofiad yn Ysbyty Sant Thomas, cyrhaeddodd yng Nghaerdydd gyda syniadau clir iawn ar nyrsio.

Nurses

Nyrsys Ysbyty Brenhinol Caerdydd, tua 1910

Ym 1882 roedd 8 nyrs, cogydd a morwyn tŷ yn yr hen ysbyty. Er y cafodd y nyts gyntaf a hyfforddwyd yn Llundain ei phenodi ym 1863, doedd dim llawer o hyfforddiant ffurfiol. Eto o fewn blwyddyn ar ôl i’r ysbyty newydd agor, roedd Metron Pratt wedi sefydlu system ffurfiol o hyfforddi nyrsys newydd ar brawf. Darperid tair darlith yr wythnos a ddarparwyd gan y staff meddygol a dosbarthiadau â chyfarwyddyd ymarferol dan arweiniad y Metron ar gyfer pob un a oedd ar brawf.

Goruchwyliodd y Metron newydd hefyd y cynnydd yn nifer y nyrsys i 21 er mwyn cwrdd ag anghenion ysbyty gyda dros 100 o welyau. Yr un mor arwyddocaol bu recriwtio ceidwad tŷ, 10 ward tŷ a morynion golchi dillad yn ogystal â 2 borthor, gan ryddhau nyrsys rhag nifer o’r tasgau glanhau, sgwrio a chario a fu’n rhan o’r rôl honno yn draddodiadol.

Roedd Mary Pratt yn dipyn o rym. Mae cofnodion Pwyllgor Rheoli’r Ysbyty yn cyfeirio’n aml at yr achosion a gyflwynodd o blaid newid a gwella. Ymladdodd frwydr gyson yn erbyn y pwyllgor i wella hyfforddiant a llety i nyrsys, newid yr oriau ymweld a chau’r rhodfa agored o’r bloc gweinyddol i’r wardiau amgaeedig. Bu’n llwyddiannus ar destun y materion uchod ond methodd yn rhai o’i hymdrechion eraill. Gwrthododd y pwyllgor ei chais am ddillad gwely newydd a phenderfynu derbyn blancedi a gobenyddion o long a oedd wedi’i angori yng Nghaerdydd. Er bod y llong wedi adrodd sawl achos o teiffoid, derbyniwyd y dillad gwely ar y ddealltwriaeth y byddai’n cael ei olchi cyn ei ddefnyddio.

Mae’r ffaith bod Mary Pratt wedi llwyddo i godi ei chyflog o £40 i £85 y flwyddyn yn ystod ei chyfnod 6 blynedd fel Metron yn dweud llawer wrthym am ei gwerth i’r ysbyty.  Yn Sant Thomas roedd wedi gweld sut y gallai cnewyllyn o nyrsys hyfforddedig a oedd ar gael ar gyfer nyrsio preifat gynyddu incwm. Cyflwynodd yr un cynllun yng Nghaerdydd ac, o fewn pedair blynedd, roedd yn dod â rhwng £250 a £350 y flwyddyn i’r ysbyty. Ar adeg pan oedd incwm blynyddol yr ysbyty yn llai na £4000 roedd hwn yn swm sylweddol. Fel arwydd o’i phŵer bargeinio, cytunodd y Pwyllgor y byddai 10% yn mynd yn chwarterol i’r Metron yn ogystal â’i chyflog blynyddol.

Roedd galw mawr am ddoniau Mary Pratt. Ar ôl cael cynnig swydd Metron yn ysbytai Blackburn a Swydd Derby, gadawodd Gaerdydd ym 1888 i fynd i Derby. Roedd Ysbyty Cyffredinol Swydd Derby mewn cyflwr gwael ac ar fin cael ei ddisodi gan adeilad newydd. Roedd Mary yn rhan o’r tîm rheoli, a gyflwynwyd i’r Frenhines Fictoria ym mis Mai 1891, wrth osod y garreg sylfaen. Yn anffodus aeth yn sâl yn fuan wedyn a bu farw’n ifanc ym mis Gorffennaf yn 49 oed.

Nid oes amheuaeth bod Mary Pratt wedi gwneud ei marc yn ystod ei chwe blynedd yn Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy. Erbyn iddi adael nid Metron fyddai ei holynydd mwyach, ond yn hytrach y Ledi Uwch-arolygydd, yn goruchwylio’r holl faterion yn ymwneud â’r staff nyrsio. Bu Annie Maria Francis yn fetron yn Ysbyty Caer. Daeth i’r swydd yng Nghaerdydd yn haf 1888 gyda chyflog blynyddol o £80. Byddai Metron Francis yn goruchwylio’r ysbyty a’r nyrsio preifat. Ni chlywid mwy, fodd bynnag, am y premiwm 10% ar gyfer nyrsio preifat a negododd Mary Pratt.

Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar Adroddiadau Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy, y gellir dod o hyd iddynt yn Archifau Morgannwg, dan rif cyfeirnod DHC/48-50.  Gellir dod o hyd i gofnodion y Pwyllgor Rheoli ar gyfer y cyfnod hwn yn DHC/5-6.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s