Dyma’r pedwerydd o gyfres o erthyglau ar yr adeilad ac agoriad, ym mis Medi 1883, Ysbyty a Fferyllfa Bro Morgannwg a Sir Fynwy, a adwaenir bellach fel Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Mae’n seiliedig ar gofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg.
Bu Noswyl y Nadolig yn ddiwrnod arbennig iawn erioed yn Ysbyty Morgannwg a Sir Fynwy ond roedd 24 Rhagfyr 1883 yn anarferol iawn. Hwn oedd Nadolig cyntaf un yr ysbyty newydd yn Heol Casnewydd, Caerdydd, sef Ysbyty Brenhinol Caerdydd heddiw.
Roedd nifer y cleifion Noswyl Nadolig yn eithaf isel, sef 46. Er y gwelwyd cynnydd mewn niferoedd ers symud o’r hen ysbyty ym mis Medi, cafodd sawl un caniatâd i fwynhau’r Ŵyl gyda’u teuluoedd. Yn ogystal, nid oedd yr ysbyty yn hollol lawn gan fod staff nyrsio a feddygol yn byw ar rhai o’r wardiau, yn aros tan gwblhau adeiladu’r prif bloc ar Heol Glossop. Byddai pum mis eto erbyn y câi’r adeilad ei gwblhau ym mis Mai 1884, gyda’i wyneb blaen crand ar Glossop Road a thiroedd ar gynllun prif arddwr Arglwydd Bute, Andrew Pettigrew.
Ar Noswyl y Nadolig, daeth y cleifion a’r staff at ei gilydd yn Ward Tredegar i gael croeso gan Faer Caerdydd, Mr R Bird, ac aelodau pwyllgor rheoli’r ysbyty. Canolbwynt yr addurniadau oedd coeden Nadolig mawr wedi ei addurno’n hael a’u hamgylchu ag anrhegion. Yn ogystal, roedd y staff nyrsio wedi rhoi addurniadau ar hyd waliau’r wardiau. Gorchuddiwyd barrau’r grisiau a chelyn a goleuwyd a chynteddau a llusernau papur. Y cyffyrddiad olaf oedd sgrin wedi ei frodio a’r geiriau The Compliments of the Season.
Cafwyd adloniant gan Miss Anita Strina, merch siopwr o Gaerdydd, a ganodd a chanu’r delyn. Cafwyd rhagor o ganeuon gan Philip Rhys Griffiths, llawfeddyg yr ysbyty a George Coleman, ysgrifennydd yr ysbyty. Yna, dan oruchwyliaeth y Matron, Miss Pratt, gwahoddwyd y cleifion i dynnu raffl ar gyfer yr anrhegion o amgylch y goeden.
Daeth y noson i ben gyda gair o ddiolch gan y Matron i bawb a roddodd anrhegion a chyfraniadau tuag at y goeden. Yn ei dro, diolchodd Mr Griffiths yntau i Miss Pratt a’r nyrsys am eu gwaith yn cynnal noson a fu’n achlysur mor arbennig. Drannoeth, ddiwrnod y Nadolig, wedi gwasanaeth boreol gan glerigwr lleol, cafwyd cinio o gig eidion rhost a phwdin eirion, ac eithrio i’r rhai a fu’n ddigon anffodus i orfod cadw at ‘ymborth arbennig’ oherwydd eu triniaeth!
Yn Adroddiad Blynyddol yr Ysbyty ar gyfer 1883 ceir rhestr o‘r anrhegion derbyniwyd gan y cleifion y Nadolig cyntaf yna.
Mae’n cynnwys teganau, tri crêt o orennau, cracers, ffrwythau, cnau, bisgedi, nwyddau ffansi, dillad cynnes, llyfrau lloffion, papurau darlunedig, pâr o esgidiau, parsel o lyfrau’r Nadolig, hancesi poced, llythyrau Nadolig a basged o ffrwythau. Cyflwynwyd un crêt o orennau gan Robert Bird ac, mewn pob achos, mae’r adroddiad yn nodi enw’r person neu’r teulu a rhoddodd yr anrhegion. Yn ogystal, enwyd y rheini a gyfrannodd at gost y goeden Nadolig.
Mae hyn yn cyfleu llawer am yr Ysbyty yn y cyfnod yma. Roedd yr adeilad a’r gwasanaethau yn hollol ddibynnol ar gyfraniadau gwirfoddol. Roedd hi’n bwysig, felly, i gydnabod y sawl cyfrannodd.
Mae cyfrifon yr Ysbyty ar gyfer 1883 yn dangos cyfanswm elw o £3,479. Daeth £1,303 o’r cyfanswm o danysgrifiadau – unigolion, teuluoedd a chwmnïau a chyfrannodd yn wirfoddol at gostau cynnal yr Ysbyty. Yn ogystal, codwyd £1,067 ar ‘Ddydd Sadwrn yr Ysbyty’ a ‘Dydd Sul yr Ysbyty’ – dyddiau pan gafwyd casgliad arbennig at yr Ysbyty o fewn eglwysi a busnesau ar hyd a lled de Cymru. Daeth y gweddyll o gymynroddion, buddsoddiadau a man-gyfraniadau gan gynnwys bocsys casglu yn theatrau a thafarndai.
Mae’n glir fod pob un geiniog o bwys. Ym 1883 roedd y cyfraniadau yn cynnwys £5 5s a gasglwyd yn Syrcas Tayleure’s ar Heol y Porth, 6s 6d o focs casglu yn y Market Tavern a 5s 2d a gofnodwyd fel “arian a ddarganfuwyd ar glaf”. Yn ogystal, defnyddiwyd elw o gyngerdd gan fand y ‘73rd Highlanders’ yn sied Rheilffordd Bro Taf yn y Waun Ddyfal, i osod ‘cyfathrebiadau teleffonig’ rhwng y wardiau a’r bloc gweinyddol.
Efallai roedd Philip Rhys Griffiths wedi ymgolli ychydig yn ystod dathliadau Noswyl Nadolig. Naw diwrnod ynghynt fe geisiodd, heb lwyddiant, i achub bywyd dyn wedi ei drywanu. Arestiwyd dau dan amheuaeth o’r drosedd ac roedd disgwyl i Griffiths ymddangos o flaen Llys Heddlu Caerdydd ar 28 Rhagfyr i gyflwyno’i thystiolaeth. Daeth dathliadau’r Nadolig i ben, a dychweliad at y drefn arferol, yn llawer rhy gynnar i staff yr Ysbyty.
Mae Adroddiad Blynyddol Ysbyty a Fferyllfa Morgannwg a Sir Fynwy ar gyfer 1883 ar gael yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod DHC50.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg