Ar 10 Mawrth bydd yn 75 o flynyddoedd ers y ‘Great Escape’. Mae esgyrn sychion y stori yn hysbys iawn. Y lleoliad yw gwersyll sydd wedi’i sefydlu yn yr Ail Ryfel Byd i ddal carcharorion rhyfel mewn cyfres o gytiau wedi’u hamgylchynu gan ffens weiren bigog, a’i warchod yn y nos gan chwiloleuadau a’u patrolio gan gardiau gyda chŵn. O fewn y gwersyll mae grŵp o garcharorion, sy’n benderfynol o ddianc, yn dechrau cloddio twnnel. Mae meinciau yn cael eu torri a choesau gwelyau yn cael eu cwtogi o ran maint er mwyn darparu pren i gynnal y twnnel. Mae hen ganiau o laeth tew yn cael eu rhoi at ei gilydd i wneud pibell aer i ddarparu awyr iach. Mae carcharorion yn cael gwared ar y pridd trwy ei wasgaru dros ardd lysiau’r gwersyll, pit naid hir chwaraeon ac o fewn wal ffug a adeiladwyd y tu mewn i un o’r cytiau. Ar ôl pedwar mis mae’r twnnel wedi’i gwblhau. Mae goleuadau trydan ganddo hyd yn oed. Er bod eu cydweithwyr yn tynnu sylw’r gwarchodwyr gyda chanu a bod powdwr cyri yn cael ei daflu ar hyd y ffens derfyn i ddrysu’r cŵn, mae grŵp mawr o garcharorion yn brigo’r wyneb y tu hwnt i’r ffens derfyn. Mae un yn cael ei saethu gan y gwarchodwyr ond mae eraill, dan gêl cotiau hir a mapiau cartref, cwmpawd a phapurau adnabod, yn dianc i’r tywyllwch.
Mae’r stori’n adleisio’r modd y llwyddodd 77 o filwyr i ddianc o Stalag Luft III yng Ngwlad Pwyl, a roes sail i’r ffilm The Great Escape gyda Steve McQueen yn y brif ran. Mewn gwirionedd, roedd y ddihangfa ar noson 10 Mawrth 1945 yn llawer nes at adref, gyda swyddogion byddin yr Almaen yn mynd drwy’r twnnel ac yn ffoi i’r nos o wersyll carcharorion rhyfel Island Farm ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Adeiladwyd gwersyll Island Farm ym 1939 i’w ddefnyddio gan hyd at 2000 o fenywod a oedd yn gweithio yn ffatri arfau Pen-y-bont ar Ogwr. Er ei fod wedi’i adeiladu’n bwrpasol, gyda mynediad hawdd i’r ffatri, nid oedd yn llwyddiant, gyda’r rhan fwyaf o weithwyr yn ffafrio lletya’n lleol neu deithio bob dydd i’r ffatri. Yn hytrach na chefnu ar y cyfleusterau, defnyddiwyd Island Farm yn ddiweddarach gan yr 28ain Adran Troedfilwyr yr Americanwyr yn y paratoadau ar gyfer glaniadau D-Day. Yn ystod eu harhosiad, cafodd y gwersyll nifer o ymwelwyr adnabyddus, yn cynnwys Goruchaf-gapten Cyrch Overlord, y Cadfridog Eisenhower, a anerchodd y dynion ym mis Ebrill 1944.
Gydag agor yr ail ffrynt yn Ffrainc, roedd angen dybryd am lety i garcharorion rhyfel. Roedd y gwersyll a fu’n dyst i araith rymus Eisenhower ychydig fisoedd ynghynt i gael ei ddefnyddio eto ar gyfer carcharorion rhyfel o’r Almaen a’r Eidal. Y dasg gyntaf i lawer oedd cwblhau’r ffensys allanol tra bod eraill yn gweithio ar ffyrdd ac ar ffermydd lleol. Penderfynwyd yn fuan, fodd bynnag, mai swyddogion o’r Almaen yn unig fyddai’n ei ddefnyddio. O ganlyniad cyrhaeddodd 1600 o swyddogion byddin yr Almaen ym mis Tachwedd 1944. Y grŵp hwn a ddaeth ag Island Farm, a ailenwyd yn Wersyll 198, i benawdau’r newyddion. Ar ôl y ddihangfa ar noson 10 Mawrth cafodd llawer eu dal drachefn o fewn oriau ac yn yr wythnos ganlynol cafwyd hyd i lawer mwy mewn caeau, ysguboriau a gerddi ar draws de Cymru. Fodd bynnag, fe wnaeth un grŵp ddwyn car meddyg a theithio mewn car a thrên cyn belled â Castle Bromwich ger Birmingham. Cafodd ail grŵp, gan ddefnyddio trenau nwyddau, ei ddal yn y pen draw yn Southampton. Esgorodd y ddihangfa ar nifer o hanesion, gan gynnwys yr awgrym eu bod yn bwriadu cwrdd â bad U oddi ar arfordir Cymru. Roedd y rhan fwyaf o’r straeon am sut y cawsant eu dal yn ddoniol ac, bron yn sicr yn cynnwys llawer o or-ddweud.
O fewn wythnosau caewyd y gwersyll, ond roedd i gael ailymgorfforiad pellach fel gwersyll carcharorion rhyfel. Ym mis Tachwedd 1945, fe’i ailagorwyd fel Gwersyll Arbennig 11 yn darparu ar gyfer uwch swyddogion yr Almaen, oll ar lefel Cadridogion neu’n uwch. Roedd y rhai a ddaliwyd yn gaeth yn y gwersyll yn cynnwys 4 Cadlywydd, sef von Rundstedt, Von Brauchitsch, Von Kleist a Von Manstein. Roedd llawer yn aros eu prawf ac arhosodd rhai yn Island Farm nes iddo gau ym 1948. Roedd Gwersyll Arbennig 11 yn drefn wahanol iawn. Gyda’r rhyfel wedi dod i ben rhoddwyd cryn dipyn o ryddid i’r swyddogion. Mae llythyrau’r teulu Verity a gedwir yn Archifau Morgannwg yn cynnwys dau gan swyddog Almaenig yn diolch i’r teulu am eu croeso ac am eu gwahodd i dreulio dydd Nadolig 1947 yng nghartref y teulu.
Roedd y ddihangfa o Island Farm yn embaras mawr i Lywodraeth Prydain. Ond profodd yr ofnau cychwynnol bod y ddihangfa yn rhan o gynllun ehangach i ymosod ac amharu ar ffatri arfau Pen-y-bont ar Ogwr a phorthladdoedd lleol i fod yn ddi-sail. Serch hynny, roedd y Llywodraeth yn awyddus i gadarnhau bod y cyrch a lansiwyd i ganfod y swyddogion ar ffo ledled Cymru a Lloegr wedi bod yn llwyddiannus o fewn 5 diwrnod. Mae’r rhan fwyaf o ffynonellau’n cytuno bod 70 o garcharorion wedi dianc er bod peth dadlau wedi bod ynglŷn â’r union nifer. Roedd rhaglen ddogfen gan y BBC a ddangoswyd yn 1976, Come Out, Come Out, Wherever You Are, wedi mynd gyda ffigwr o 67. Dadleuodd astudiaeth fwy diweddar y gallai’r nifer fod cyn uched ag 84 gan haeru y gallai sawl un fod wedi dianc drwy borthladdoedd Caint.
Am flynyddoedd lawer gadawyd y gwersyll i fynd â’i ben iddo. Mae’r ffotograffau a gedwir yn Archifau Morgannwg ac a dynnwyd cyn ei ddymchwel yn 1993 yn dangos, er bod llawer o’r darluniau a wnaed gan y POWs ar y waliau gwersylla wedi goroesi, bod y gwersyll ei hun mewn cyflwr gwael.
Gyda llaw nid oedd y darluniau yn gwbl ddiniwed o ystyried bod nifer wedi eu lleoli yn agos at fynedfa’r twnnel er mwyn tynnu sylw’r gwarchodwyr. Yn ffodus, achubwyd Cwt 9 ac yn 2003 cafwyd bod y twnnel yn gyfan hefyd. Mae’r hyn sy’n weddill o’r gwersyll a’r Cwt 9 bellach yng ngofal Grŵp Cadwraeth Cwt 9 ac mae’n agored i’r cyhoedd ar nifer o ddyddiau yn ystod y flwyddyn.
Gellir gweld llythyrau teulu’r Verity yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod DXCB/4/2/33. Mae lluniau Island Farm yn D1051/1/7/3/1-9. Ceir hefyd ffotograffau o’r Americanwyr yn Island Farm yn 1944 yn D1532/1-10.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg