Cipluniau o Erddi Dyffryn: Reginald Cory, Thomas Mawson a chreu gardd Edwardaidd glasurol

Yn ystod y flwyddyn y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed, rydym yn edrych, trwy luniau a chofnodion a gedwir yn Archifau Morgannwg, ar ei heiddo mwyaf a mwyaf adnabyddus efallai yn ardal Caerdydd, Gerddi Dyffryn. Mae’r cyntaf o gyfres o luniau o Gerddi Dyffryn yn edrych ar y gerddi gwreiddiol a phoblogaidd a sefydlwyd yn nau ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif gan Reginald Cory a Thomas Mawson.

Cafodd Gerddi Dyffryn eu trosglwyddo i reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymharol ddiweddar ym mis Ionawr 2013. Mae ystâd Dyffryn yn dyddio o’r 16eg ganrif ac o bosibl yn gynharach. Fodd bynnag, gwaith y teulu Cory yw’r tŷ a’r gerddi ar eu ffurf bresennol i raddau helaeth, yn dilyn caffaeliad John Cory o ystâd Dyffryn yn 1891. Gwnaeth y perchennog John Cory, ar y cyd â’i frawd Richard, ei arian drwy Cory Brothers and Co o lo a llongau. Prynwyd Gerddi Dyffryn fel cartref y teulu i John, ei wraig Anna Maria, eu mab Reginald a’u merch Florence. Ynghyd ag ailadeiladu llawer o’r Tŷ, dechreuodd John a Reginald Cory waith i weddnewid y gerddi. Roedd yr allwedd i’r gwaith hwn ym mhenodiad Thomas Mawson yn 1903 i gynllunio a goruchwylio ailddatblygiad y gerddi. Roedd Mawson yn ddyn ar frig ei broffesiwn. Yn ddylunydd gerddi a phensaer tirwedd ag enw da yn rhyngwladol a aeth ymlaen i ddylunio parciau a gerddi ledled Ewrop a Gogledd America, Mawson gyda Reginald Cory, garddwr talentog a chasglwr planhigion, a osododd y cynlluniau ar gyfer y gerddi newydd. Penododd teulu Cory nifer o Brif Arddwyr eithriadol hefyd a oedd yn goruchwylio ac yn cyfarwyddo llawer o’r gwaith. Mae llawer yn ddyledus i Arthur J Cobb yn benodol, y prif arddwr yn ystod rhan sylweddol o’r cyfnod datblygu. Chwaraeodd Cobb, oedd yn darlithio yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Reading ac a ysgrifennodd yn helaeth ar arddio, gan gynnwys ei 3 Chyfrol ‘Modern Garden Craft’, ran sylweddol yn natblygiad yr hyn a gydnabyddir fel un o’r enghreifftiau gorau o ardd Edwardaidd.

Mae’r gyfres o 20 o luniau a gedwir yn Archifau Morgannwg gan y ffotograffydd Neame Roff o Walmer, Caint, yn rhoi cipolwg unigryw ar ddyluniad gardd Mawson, gyda’i lawntiau mawreddog a chamlas lili yn rhedeg o’r rhodfa ddeheuol, wedi’i hategu gan gyfres gymhleth o ‘ystafelloedd garddio’ i’r gorllewin o’r tŷ ac arboretwm i’r dwyrain. Wedi’u comisiynu gan Reginald Cory, mae’r ffotograffau’n dangos sut y byddai’r gerddi wedi edrych ar eu gorau yn y cyfnod 1910-1926. Bydd y rhai sy’n gyfarwydd â’r gerddi heddiw yn gweld sut maen nhw wedi newid gyda thyfiant coed a llwyni dros y blynyddoedd. Mae’r ffotograffau hefyd yn darparu templed ar gyfer y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adfer rhannau o’r gerddi i’r ffordd y byddent wedi edrych pan gawsant eu gosod allan yn gyntaf gan Reginald Cory a Thomas Mawson. Rydym wedi cynnwys detholiad byr yn unig o’r portffolio cyffredinol:

D15-1

Y gerddi o ochr ddwyreiniol y Tŷ (D15/1)

D15-18

Y Gerddi Dahlia, sef safle’r treialon Dahlia rhyngwladol a gynhaliwyd yn Nyffryn yn 1913 a 1914 (D15/18)

D15-11

Yr ardd furiog gyda’i thŷ gwydr helaeth (D15/11)

D15-13

Gardd y Colofnau gyda’i choed bonsai (D15/13)

Efallai y bydd y rhai â llygaid craff yn eich plith hefyd wedi sylwi bod ffigur yn gallu cael ei weld yn y cefndir mewn tri o’r lluniau, yn archwilio’r planhigion neu’n edrych tuag at y camera. Ni allwn fod yn siŵr, ond ein theori ni yw mai’r prif arddwr ydyw. Wedi’i wisgo’n smart bob amser, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn yn ei yrfa, mae’n ymddangos bod Arthur J Cobb yn ddyn oedd yn benderfynol o wneud ei farc a chael ei sylwi. Caiff ffotograffau Neame Roff o gerddi Dyffryn eu cadw yn Archifau Morgannwg, cyfeirnod D15/1-20.

Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s