Glamorgan’s Blood: health and welfare records in the coal industry collections – Adroddiadau Blynyddol Arolygwyr Mwyngloddiau Ei Mawrhydi

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Adroddiadau Blynyddol Arolygwyr Mwyngloddiau Ei Mawrhydi

Mae adroddiadau Arolygwyr pyllau yn adnodd y gellir ei ddefnyddio i ddod o hyd i wybodaeth am yr amodau gweithio yn y diwydiant glo a bwydo i’r gwaith ymchwil ar sut yr oedd amodau gweithio yn effeithio iechyd gweithwyr mewn glofa.

Image 1

Report of HM Inspector of Mines for the South-Western District (No.12) for the year 1888 (Llundain: H.M.S.O.) (DNCB/6/1/3/1)

Mae adroddiad yr Arolygwyr pyllau yn mynd i’r afael â phethau fel damweiniau, gweithdrefnau gwaith ac agweddau eraill yn ymwneud â diogelwch mewn pob math o bwll neu chwarel. Maent yn rhoi gwybodaeth ar fwyngloddiau penodol, damweiniau a phobl ond gallant hefyd ddangos tueddiadau a datblygiadau o ran gweithio diogel.

Mae gan Archifau Morgannwg 47 o gyfrolau o Adroddiadau Blynyddol Arolygwyr Mwyngloddiau EM yn dyddio rhwng 1889-1939 (cyf.: DNCB/6/1/3).

Ffynhonnell gwybodaeth gan: North of England Institute of Mining and Mechanical Engineers, Nicholas Wood Memorial Library, Mines Inspectors Reports: Canllaw 2016.  Gweler y ddogfen hon i gael trosolwg o gynnwys adroddiadau Arolygwyr Mwyngloddiau. Gwyriwyd yn https://mininginstitute.org.uk/resource-guides/

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s