Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.
Cylchgronau Ocean and National
Mae cyfres yr Ocean and National Magazine yn gylchgronau a ysgrifennwyd ar gyfer a chan weithwyr y maes glo. Maen nhw’n cynnwys erthyglau, cartwnau a newyddion o’r glofeydd, gan gynnig cipolwg ar fywyd yn y maes glo yn y 1920au a’r 1930au. Mae pob cylchgrawn hefyd yn cynnwys deunydd Cymraeg.
Gydag erthyglau ar faddonau pen pwll, ysbytai, lles a hamdden gellir defnyddio’r cylchgrawn i weld pa ddarpariaethau a wnaed ar gyfer gweithwyr y glofeydd yn y 1920au a’r 1930au. Mae llawer o’r pynciau hyn wedi eu cynrychioli hefyd mewn cartwnau yn y cylchgronau.

Cynllun o Faddonau Pen Pwll Glofa’r Parc, rhifyn Chwefror 1929 (D1400-9-2-2)

Ffotograffau o Ysbyty Bach Pentwyn yn Nhreorci, rhifyn Chwefror 1929 (D1400-9-2-2)

Cartŵn – Baddonau Pen Pwll y Parc, rhifyn Mai 1929 (D1400-9-2-5)

Cartwnau – ‘Scenes That Are Brightest’ – baddonai’r pwll, rhifyn Rhagfyr 1933 (D1400-9-6-12)
Gyda rhychwant mor amrywiol o bynciau, mae’r cylchgronau hyn yn adnodd gwych ac mae Andre Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi llunio mynegai i’r cylchgronau, gan olygu bod modd eu chwilio drwy ein catalog (cyf.: D1400/9).
Mae Andrew hefyd wedi ysgrifennu cyfres o erthyglau blog yn tynnu sylw at rai o’r pynciau sydd i’w cael yn y cylchgronau.