Gwaed Morgannwg: Cofnodion Iechyd a Llesiant yng Nghasgliadau’r Diwydiant Glo – Cofrestrau Niwmoconiosis

Mae Grant Adnoddau Ymchwil Ymddiriedaeth Wellcome wedi caniatáu i ni gatalogio a chadw cofnodion cwmni pwll glo cyn-freinio a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Mae’r Ymddiriedaeth Wellcome yn sefydliad elusennol rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd ac, yn hyn o beth, un o brif nodau’r project yw gwella mynediad at gofnodion ynghylch materion meddygol a llesiant. Yn y gyfres hon o flogiadau, bydd archifydd y project, Louise Clarke, yn amlygu rhai o’r deunyddiau y gallwch chi ddod o hyd iddynt ar y pwnc hwn yn y casgliad pwll glo.

Cofrestrau Niwmoconiosis

Darganfuwyd niwmoconiosis ymysg gweithwyr glo ar ddiwedd yr 1930au, ac erbyn yr 1940au cymoedd Cymreig oedd â’r broblem lwch fwyaf difrifol yn y DU.

DNCB-14-1-42

‘Niwmoconiosis, Y Llwch Marwol’, Dawns y Glowyr, Gerddi Sophia, Caerdydd (DNCB/14/1/42)

Mae tair cofrestr niwmoconiosis yn y casgliad, rhwng 1945-1953, yn cynnwys gwybodaeth ar iawndal a dderbyniodd unigolion oedd yn dioddef o’r cyflwr ar yr ysgyfaint. Mae’r cofrestrau hyn yn dangos y cynlluniau iawndal oedd ar waith gan y cwmnïau pyllau glo unigol, ac yna’r BGC, ar gyfer gweithwyr oedd yn dioddef gan gyflyrau ar yr ysgyfaint yn ymwneud â llwch.

DNCB-3-5-3

Cofrestr Niwmoconiosis (DNCB/3/5/3)

DNCB-3-5-1 cropped - no names

Tudalen o Gofrestr Niwmoconiosis (DNCB/3/5/1)

Mae ffeiliau o gofnodion Adran Gyfreithiol y BGC (cyf.: DNCB/4/2) yn dangos ymchwil gwyddonol a gynhaliwyd gan Brif Wyddonydd y BGC er mwyn paratoi at brosesau cyfreithiol yn ymwneud â hawliadau niwmoconiosis yn yr 1970au.

Mae Cofnodion Cymdeithas Perchnogion Glo Sir Fynwy a De Cymru (cyf.: DNCB/15/1) yn cynnwys 20 o adroddiadau’r Pwyllgor Ymchwil Cyffredinol a’r Pwyllgor Ymchwil Llwch Glo rhwng 1941-1946.

Sylwch gall mynediad at ddeunyddiau llai na 100 mlwydd oed fod yn gyfyngedig.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s