Capel Annibynnol y Cymer a Ffordd Liniaru’r Rhondda

Agorodd Ffordd Liniaru’r Rhondda, sy’n mynd o Drehafod i Bont-y-gwaith drwy’r Porth, i drafnidiaeth yn 2006, a chafodd ei hagor yn swyddogol y flwyddyn wedyn – ar ôl i waith tirlunio gael ei gwblhau – gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, y diweddar Rhodri Morgan.  Er bod yr angen i ddargyfeirio traffig i ffwrdd o gartrefi yn ardal y Porth wedi cael ei gydnabod ers tro, roedd y cynllun yn dal yn ddadleuol. Ar gost o £98 miliwn roedd yn un o’r ffyrdd mwyaf costus i gael ei hadeiladu yn y DU, gan olygu ei bod yn £18 y filltir. Fodd bynnag, roedd yn ddadleuol ar y cyfan oherwydd llwybr y ffordd, a’r ffaith ei bod yn rhedeg drwy fynwent hanesyddol Capel Annibynnol y Cymer. Byddai hyn yn golygu datgladdu dros wyth cant o gyrff.

Cafodd Capel Annibynnol presennol y Cymer ei godi ym 1834 i ddisodli, ehangu a gwella ar y capel blaenorol a godwyd ym 1743. Fe’i sefydlwyd gan y Parchedig Henry Davies, a oedd yn enwog am ei frwdfrydedd efengylaidd, ac mae’n cael ei gydnabod fel y capel anghydffurfiol cyntaf i gael ei godi yn y Rhondda. Aeth can mlynedd arall heibio cyn i ail gapel Annibynnol gael ei godi yn y cwm, sef Carmel, Treherbert ym 1857.

Tyfodd aelodaeth y capel a llewyrchodd wrth i boblogaeth y Rhondda dyfu. Fodd bynnag, pan gynhaliodd hen gyngor Morgannwg Ganol arolwg o gapeli ym 1978 – y mae eu cofnodion hefyd yn Archifau Morgannwg (cyf.: MGCC/CS/54/10) – cofnodwyd bod y gynulleidfa yn edwino ac nad oedd felly yn gallu cynnal gweinidog llawn amser. Caeodd y capel ei ddrysau ym 1987.

Yn 2005 rhoddwyd cofnodion y capel yn Archifau Morgannwg (cyf: D342). Mae’r casgliad yn cynnwys cofnodion ariannol y capel, cyfrifon y fynwent a nifer o ffotograffau. Yn rhan o’r cyfrifon mae cynllun wedi’i ddarlunio â llaw o’r fynwent o 1877.

D342-3web

Mae’r cynllun yn ceisio ail-greu’r fynwent, gyda phob bedd unigol wedi’i ddarlunio yn fanwl iawn â llaw.

D342-3 detail web

Mae rhif ar bob bedd a nesaf at y darlun mae allwedd yn rhestru prynwr pob plot. Ymhlith y beddau gafodd eu hail-greu’n ofalus mae man gorwedd y gweinidog sefydlodd y capel, y Parch. Henry Davies, sydd wedi’i gladdu mewn bedd syml yng nghysgod y capel yr helpodd i’w adeiladu.

Yn ddiweddarach yn 2005 cafodd y cyrff a gladdwyd ym mynwent y Capel eu datgladdu a’u claddu unwaith eto mewn rhan o’r tir nas effeithiwyd gan y ffordd. Cafodd rhai eu symud i fynwentydd gwahanol ar gais perthnasau. Y cynllun wedi’i lunio â llaw o 1877 yw’n darlun gorau o fynwent y capel fel yr oedd, wedi’i cholli bellach o dan darmac yr A4233.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s