Cafodd Sefydliad y Merched ei sefydlu gyntaf ym 1897 yn Ontario, Canada, yn gangen o Sefydliad y Ffermwyr. Pan agorwyd cangen gyntaf y DU, yn Llanfairpwll, Ynys Môn, ym Medi 1915, ei hamcanion craidd oedd helpu i wella bywydau’r sawl oedd yn byw mewn cymunedau gwledig, ac annog menywod i chware rhan amlycach yn yr ymdrech i gynhyrchu bwyd, oedd yn arbennig o bwysig ar y pryd oherwydd y rhyfel.
Ym 1965 dathlodd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched ei Jiwbilî Aur. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau’n genedlaethol ac yn lleol i ddathlu’r achlysur. Anogwyd canghennau i greu llyfrau lloffion yn adlewyrchu cefn gwlad: ‘Ein Pentref ym 1965’, i’w cyflwyno i gystadleuaeth oedd yn rhan o ddathliadau’r jiwbilî. Gwnaeth 29 o ganghennau WI Morgannwg gystadlu yn y gystadleuaeth hon, oedd ar agor i bob cangen yn y sir. Aeth y tri gorau, Penmaen a Nicholston (y llyfr nawr ym meddiant Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg), Pentyrch (cyf. DXNO12/1) a Southerndown (cyf: DXNO27/1), yn eu blaen i’r rownd derfynol Brydeinig, gydag arddangosfa’n cael ei chynnal yn Llundain.
Gyda’r nod o fod yn gofnod parhaol o fywyd pentrefi cefn gwlad ym 1965, mae’r llyfrau lloffion yn adlewyrchu nifer o bynciau, megis daearyddiaeth, natur, adeiladau, ffasiwn, personoliaethau a bywyd pentrefol yn gyffredinol. Ym 1967, gwnaeth Miss Madeline Elsas, Archifydd y Sir, gais i bob cangen oedd wedi creu llyfr lloffion i’w drosglwyddo er diogelwch i Swyddfa Gofnodion y Sir. Yn fuan wedi iddynt gael eu cyflwyno, cafwyd arddangosfa ohonynt.
Mae 20 o’r llyfrau lloffion hyn ym meddiant Archifau Morgannwg, ynghyd â chofnodion eraill gan ganghennau lleol. Mae’r llyfrau’n cynnwys mapiau a ffotograffau o bentrefi, manylion ynghylch clybiau, cymdeithasau, siopau a chyfleusterau amrywiol eraill, ac erthyglau o bapurau newydd yn ymwneud â phynciau mawr y dydd. Mae llawer ohonyn nhw’n ceisio creu darlun o fywyd fel yr oedd ar y pryd, yn debyg iawn i gapsiwl amser, yn cynnwys manylion am ffasiwn, addurno tai a theganau poblogaidd.
Fel y gallwch ddychmygu, rhoddwyd y llyfrau at ei gilydd mewn nifer o ddulliau creadigol, gan gynnwys map wedi ei frodio ar glawr llyfr lloffion WI Cynffig (cyf.: DXNO4/1).
Roedd llyfr Sain Ffagan (cyf.: DXNO23/1) yn cynnwys llenni bychain wedi eu creu o ffabrig llenni, a samplau o’r carped a’r papur wal oedd wedi eu defnyddio yng nghartrefi’r aelodau yn 1965, i adlewyrchu ffasiynau’r cyfnod.
Mae llyfr lloffion WI Southerndown (cyf.: DXNO27/1) yn dod i ben gyda cherdd i ddarllenwyr y dyfodol, ’50 mlynedd o nawr’. Efallai y byddai darllenwyr 2015 wedi ystyried hyn yn broffwydol iawn!