Caerdydd: Prifddinas Cymru, 1955

Derbyniodd Caerdydd ei Siarter Ddinesig ym 1905. Hanner canrif yn ddiweddarach, ym 1955, daeth yn Brifddinas Cymru.

Cyflwynodd Caerdydd ddeiseb i fod yn brifddinas, ond roedd cystadleuaeth ddigon ffyrnig iddi.  Daeth y gystadleuaeth bennaf o du Caernarfon, lle’r arwisgwyd y Tywysog Edward, y Brenin Edward VIII maes o law, yn Dywysog Cymru ym 1911.

Image 1

Deiseb Caerdydd (Lib/c/371)

Roedd Tyddewi, dinas gadeirlan hynaf Cymru, a’r sedd eglwysig, hefyd yn y ras.  Mynegodd Machynlleth, cartref senedd Owain Glyndŵr ym 1404 hefyd ddiddordeb, a chafwyd cais gan Aberystwyth yn pwysleisio ei safle canolog a’r ffaith bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru eisoes yno.

Roedd atodiad hir at gais Caerdydd, yn manylu ar dystiolaeth ddiwylliannol, eglwysig, diwydiannol a barnwrol yn gefn i’r hawliad mai Caerdydd ddylai fod yn brifddinas Cymru, ac yn rhestru amryw rinweddau Caerdydd fel dinas.  Mae hefyd yn crybwyll y buddion a fyddai’n dod i dde Cymru yn sgil newidiadau oedd ar y gweill, megis Pont Hafren newydd a’r Maes Awyr Rhyngwladol oedd wedi ei gynnig ar gyfer Llandŵ.

Roedd yr atodiadau hefyd yn cynnwys manylion ynghylch data 1947, oedd yn dangos bod dros hanner poblogaeth Cymru yn byw yn Sir Forgannwg.

Image 3

Atodiadau Deiseb Caerdydd – data poblogaeth 1947 (Lib/c/371)

Tair tref oedd ar y rhestr fer yn y pendraw: Aberystwyth, Caernarfon a Chaerdydd.  Cafodd awdurdodau lleol Cymru bleidlais, a Chaerdydd aeth â hi o gryn dipyn.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s