Dyddiadur Joan Mark o Gaerdydd, Nyrs, 1939

Derbyniodd Archifau Morgannwg ddyddiadur yn ddiweddar, wedi ei ysgrifennu gan Joan Mark o Gaerdydd ym 1939, y flwyddyn y sefydlwyd Archifdy Morgannwg – Archifau Morgannwg erbyn heddiw.

Joan as nurse

Joan Mark yn ei gwisg nyrs

Cafodd Joan ei geni ym 1921 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Howell’s. Dechreuodd ysgrifennu ei dyddiadur pan oedd hi’n 17 oed, yn cofnodi ei gwaith fel nyrs dan hyfforddiant yn Ysbyty Orthopedig Tywysog Cymru yng Nghaerdydd. Roedd talebau ar gyfer rhoddion am ddim megis crisialau barlys lemwn, moddion diffyg traul a phowdwr talc fioledau Dyfnaint yn cael eu rhoi gyda’r ‘Boots Scribbling Diary’.

Mae cofnodion Joan am ei bywyd gwaith yn hynod ddiddorol, gyda’r Rhyfel ar dorri yn gefndir iddynt, rhyfel a gychwynnodd ym mis Medi y flwyddyn honno.  Mae’n dweud sut y bu ar ei thraed drwy’r dydd, …bron â chysgu ar fy nhraed, yn un o’i chofnodion.  Roedd yn rhaid iddi fyw mewn ystafelloedd yn yr ysbyty pan oedd hi ar ddyletswydd, ac roedd yn sôn yn aml am gleifion yn canu eu clychau; clychau, clychau, clychau ysgrifenna.

Bells

Roedd Joan yn mwynhau gweithio ar ward y plant.

Prince of Wales Hospital

Staff a chleifion Ysbyty Tywysog Cymru, 1930au – mae Joan yn sefyll, y 3ydd o’r chwith

Mae’n sôn am glefydau fel y dwymyn goch, brech yr ieir a diptheria.  Pan oedd hi’n helpu yng nghlinig y babanod, ysgrifennodd:

All sorts of babies came. We had to scrape the dirt off some before we could see their little faces.

Babies clinic

Roedd yn rhaid iddi hefyd chwilio am lau pen ac ar un achlysur, gwelodd fod sawl plentyn yn ‘fyw’ gyda llau a bu’n rhaid iddi drio cael gwared arnyn nhw gyda sebon Derbac a Dettol cyn i Brif Weinyddes y Ward ddychwelyd.

Roedd disgwyl i Joan hefyd olchi dillad a chynfasau, trwsio napcynnau a thorri milltiroedd ar filltiroedd o we a gwlân ar gyfer rhwymynnau.  Ar ei diwrnodau i ffwrdd o’r gwaith byddai’n mynd i ddarlithoedd ac yn sefyll profion.  Ar un adeg, fe gwympodd i gysgu tra’n ceisio paratoi at brawf.

Roedd yn poeni’n gyson am brinder staff yn yr ysbyty:

I hope we shall get some more staff soon …[the staff were] all shouting and bawling at me.  They seem to think I can produce mattresses, plaster knives and clean counterpaynes out of the air.

Roedd y Metron a’r Brif Weinyddes yn rheoli’n llym, a gallai nyrsys golli eu diwrnodau i ffwrdd am gamweddau megis methu â rhoi gwybod am olau oedd wedi torri neu gael ystafell wely anniben. Ym mis Mawrth, fe gawson nhw gapiau newydd i’w gwisgo:

New caps

We all had new caps given us this morning. They are all terrible and show all our hair at the back.  Matron told me to put mine in curlers, but I shan’t even if I’m the only one left with straight hair.

Nid gwaith oedd holl fywyd Joan. Mae’n cofnodi ymweliadau â’i theulu a’i bywyd cymdeithasol: tripiau i Ynys y Barri, siopa yn Woolworths, gwrando ar y radio, tripiau rheolaidd i’r sinema, cerdded ym Mharc y Rhath ac ymweld â Chapel Star Street a Chapel Methodistaidd y Rhath ar ddyddiau Sul. Ym mis Ionawr 1939, cynhaliwyd dawns flynyddol morynion yr ysbyty, pan oedd rhaid i’r nyrsys weini arnyn nhw a chymhennu ar ôl y ddawns:

…we were allowed to dance with each other as well at the end, but were told not to take the maids’ men.

Methodd Joan y cinio a’r ddawns oedd wedi eu trefnu ar gyfer y nyrsys:

…so we held a dance on our own in the bedroom with the wireless and gas-fire in full blast and lemonade and biscuits as refreshments.

Staff dance

Roedd hi ar ddyletswydd ar Ddydd Nadolig ac fe gafodd anrhegion oddi wrth y Metron a nyrsys eraill. Daeth band i’r ysbyty am 7.30am ac fe ddawnsiodd y rhan fwyaf o’r nyrsys. Bu Joan yn chwarae gyda phlant y ward, a daeth côr i ganu carolau, cyn i’r cinio Nadolig gael ei weini am 7 y nos.

O fis Awst ymlaen, mae cymylau Rhyfel yn llenwi ei dyddiadur. Ar 24 Awst, ysgrifennodd Joan:

Everyone seems to think there is going to be a war.

War 24 Aug

Deuddydd yn ddiweddarach, dywed:

They are making our Out Patients Department into a Decontamination Centre and pasting black paper over the windows of the Hospital. The International Situation seems pretty serious but I don’t think there will be a war.

Roedd Joan i fod i gymryd gwyliau:

Sister Blake says I may have my holidays but must come back if War is Declared.

Ar 1 Medi, mae’n cofnodi bod yr Almaen wedi dechrau bomio Gwlad Pwyl a’i bod wedi mynd ar drip i’r traeth lle cyfarfu â …dau blentyn annwyl ar ffo o’r Almaen.  Roedd Joan ar ei gwyliau pan gyhoeddwyd Rhyfel ar 3 Medi, ac ysgrifenna ar y diwrnod hwnnw bod yr Almaenwyr wedi gollwng torpido ar long Brydeinig (yr SS Athena oedd hi). Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, mae Joan yn teithio i Nottingham ac yn helpu ei hewythr i dywyllu’r ffenestri.  Cafodd anhawster yn dychwelyd i Gaerdydd gan fod y trenau i gyd wedi eu hatal, am eu bod yn cael eu defnyddio i gludo milwyr.

Roedd paratoadau yn eu hanterth pan ddychwelodd i’r gwaith yr wythnos ganlynol.  Dim ond wyth o gleifion oedd yn yr ysbyty, ac o hynny ymlaen byddent yn cadw hanner yr ysbyty’n wag er mwyn gallu derbyn milwyr oedd wedi eu hanafu os byddai angen.  Bu’n rhaid i Joan baratoi 48 o welyau ar eu cyfer mewn un diwrnod. Rhoddodd Gweinyddes y ward gyngor i’r nyrsys:

Bomb

If a bomb falls on the Hospital – don’t rush into the flames or make martyrs of yourselves. Get under the beds and the quicker the better.

Roedd y Metron yn poeni:

…because the Russians have entered Poland

Dywedodd Gweinyddes y Ward:

What does it matter as long as they don’t enter the Prince of Wales’ Hospital

Russians

Wrth i’r dyddiadur gyrraedd ei ddiwedd, mae’n adlewyrchu rhai o’r newidiadau roedd y Rhyfel wedi eu hachosi i fywyd bob dydd: cael rhybudd am ddangos gormod o olau mewn ffenestr, dosbarthu cardiau Cofrestru Cenedlaethol, mynd i gysgodfeydd cyrchoedd awyr, cydweithwraig yn dysgu sut i wau sanau ar gyfer milwyr, ac aelod o’r teulu’n mynd i ffwrdd fel faciwî.

Joan

Joan Mark o Gaerdydd

Aeth Joan yn ei blaen i gymhwyso’n nyrs ym 1943, ond yn hynod drist bu farw mewn damwain car ym 1951. Roedd hi’n 29 oed.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s