Mae’r ffotograffau isod, a dynnwyd 110 mlynedd yn ôl, yn dangos aelodau teuluoedd Cymreig blaenllaw yn gwisgo gwisgoedd yr oesoedd canol ar gyfer Pasiant Cenedlaethol Cymru.

Ardalyddes Bute fel ‘Boneddiges Cymru’

Arglwydd Faer Caerdydd Lewis Morgan fel Hywel Dda

Mrs Maria Augusta Hester Crawshay

Mr Victor Wiltshire fel Brenin Harri V

Mr Ernest George Cove fel ‘The Scout’
A yntau’n cael ei gynnal dros bythefnos yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf ac Awst 1909, roedd y pasiant yn dathlu hanes Cymru drwy ail-greu digwyddiadau hanesyddol a chwedlonol. Gyda chast o 5,000 o bobl roedd y golygfeydd yn cychwyn gyda dyfodiad y Rhufeiniaid yng Nghymru ac yn dod i ben gyda choroni Harri’r Seithfed yn dilyn Brwydr Bosworth ym 1485. Yn ôl y Western Mail roedd y digwyddiad yn ‘……. ddigwyddiad yr oes a fydd yn sicr o gael ei ystyried yn un o brif ddigwyddiadau Cymreig yr ugeinfed ganrif’.

Golygfa o’r Pasiant

Y Diweddglo
Fodd bynnag, er bod y tri pherfformiad tair awr o hyd yn cynnwys yr Ardalyddes Bute yn ymddangos fel ‘Boneddiges Cymru’, arddangosfa tân gwyllt gan Brocks of Crystal Palace a llu o chwaraewyr rygbi rhyngwladol wedi’u gwisgo fel dynion Ifor Bach yn ymosod ar Gastell Caerdydd, ni lwyddodd y perfformiadau i argyhoeddi’r cyhoedd. Arweiniodd diffyg cynulleidfa at golled ariannol fawr. Yn angharedig efallai, barnwyd bod y pasiant yn ‘ffantasi Edwardaidd chwyddedig’ ac ni chafodd ei ailadrodd wedi hynny.
Mae gan Archifau Morgannwg nifer o ffotograffau o’r cast yn eu gwisgoedd a chopi o’r rhaglen a baratowyd ar gyfer y pasiant sy’n gosod yr olygfa ac yn rhestru’r rhai gymerodd ran yn y digwyddiad. Mae hefyd copi o’r Western Mail, a gyhoeddwyd ar 27 Gorffennaf 1909, ar gael sy’n cynnwys ffotograffau ac adroddiadau am y perfformiadau.
Tony Peters, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg