Cafodd cynlluniau yr adeilad eu cymeradwyo ym mis Mai 1884 ar gyfer codi Capel Fethodistaidd Galfinaidd ar May Street, Cathays. Mae’r adeilad hwnnw, a ddyluniwyd gan J P Jones, bellach yn cael ei ddefnyddio gan Fyddin yr Iachawdwriaeth.
Wedi tyfu’n rhy fawr i’w lleoliad ar May Street, derbyniodd yr eglwys gymeradwyaeth ym mis Mai 1899 i godi capel newydd ar Heol y Crwys. Wedi ei ddylunio gan bensaer lleol, John H Phillips, roedd i’r adeilad fan addoli mawr ar lefel y stryd, gydag oriel uwchlaw ac ysgoldy a festri ar y llawr gwaelod is. Roedd y driniaeth i’r wedd flaen yn eithaf addurnedig gyda llinellau to bwaog a grisiau tyredog. Y tu mewn i’r capel sydd i’w weld ym mraslun Mary Traynor.
Yn ystod y 1930au, daeth y Methodistiaid Calfinaidd yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ym 1975, chwyddwyd cynulleidfa Heol y Crwys yn dilyn cau’r ‘fam eglwys’ wreiddiol ar ffordd Churchill, ac rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe symudon nhw i gyn-eglwys o eiddo’r Gwyddonwyr Cristnogol ar Heol Richmond, a gaiff ei adnabod bellach fel Eglwys y Crwys. Yn dilyn hynny, troswyd adeilad Heol y Crwys i wasanaethu fel Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Shah Jalal.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/1)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynllun ar gyfer capel Fethodistaidd newydd, May Street, 1884 (cyf.: BC/S/1/4307)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynllun ar gyfer capel Fethodistaidd Calfinaidd Cymraeg, Heol y Crwys, 1899 (cyf.: BC/S/1/13732)
- Bowen, Parch Thomas: Dinas Caerdydd a’i Methodistiaeth Galfinaidd
- Rose, Jean: Cardiff Churches through time
Capel Heol y Crwys (Mosg a Chanolfan Ddiwylliannol Islamaidd Shah Jalal), Heol y Crwys, Caerdydd - Archifau Morgannwg