Ar 8 Mai 1878, cymeradwyodd Awdurdod Glanweithdra Gwledig Caerdydd gynlluniau a luniwyd gan John Pritchard, Pensaer Esgobaethol Llandaf, ar gyfer adeiladu tŷ ar ddarn mawr o dir ger Cwrt Insole. Cleient Pritchard oedd Evan Lewis, perchennog pyllau glo yn ardal Aberdâr. Erbyn cyfrifiad 1881, roedd Lewis, a oedd yn 58 oed ar y pryd, yn byw ym Mrynderwen gyda’i wraig a’u hwyth o blant. Roedd yr aelwyd hefyd yn cynnwys mam Mrs Lewis a saith gwas. Er nad oedd ganddo rôl flaenllaw mewn materion cyhoeddus, roedd Evan Lewis yn ynad lleol a gwasanaethodd am sawl blwyddyn fel warden eglwys yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Bu farw Evan Lewis ym 1901 ac aeth Brynderwen wedyn i feddiant John Llewellyn Morgan, unig blentyn David Morgan, sylfaenydd y siop adrannol a oedd yn masnachu yng nghanol Caerdydd tan 2005. Mae cyfrifiad 1911 yn ei restru ef ynghyd â’i wraig Edith, dau o’u meibion, a thri gwas. Bu farw John Llewellyn Morgan ym 1941 ond roedd Edith wedi’i rhestru ym Mrynderwen o hyd yn Nghyfeirlyfr Caerdydd 1949. Ond erbyn 1952, roedd y tŷ ym meddiant yr Uwch-gapten Evan John Carne David, aelod o’r teulu David a oedd yn berchen ar ystadau Plas Fairwater a Radyr Court gynt. Wedi’i eni ym 1888, roedd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch a Dirprwy Raglaw Morgannwg ac roedd yn Uchel Siryf y sir ym 1930. Ar ôl marwolaeth yr Uwch-gapten David ym 1982, cafodd y tai eu dymchwel ac adeiladwyd datblygiad o ryw 26 tŷ ar wahân yn eu lle, o’r enw Hardwicke Court.
David Webb, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/2)
- Cofnodion Cyngor Dosbarth Gwledig Caerdudd, cynlluniau ar gyfer ty yn Llandaf ar gyfer Mr Evan Lewis, Llandaf, 1878 (cyf.: RDC/S/2/1878/8)
- Hanes y Teulu David o’r Tyllgoed (cyf.: DDAV/1)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Morgan, Aubrey Niel: David Morgan 1833-1919 The Life and Times of a Master Draper in South Wales
- Cyfrifiad 1881 – 1911
- The Cardiff Times, 10 Chwefror 1883
- Weekly Mail, 14 Chwefror 1885
- Weekly Mail, 16 Ebrill 1887
- The Cardiff Times, 31 Mawrth 1894
- Evening Express, 17 Ebrill 1900
- Evening Express, 11 & 14 Tachwedd 1901
- The Times, 27 Mawrth 1982
Brynderwen, 49 Fairwater Road, Caerdydd - Archifau Morgannwg