Mae Tŷ Baltig yn dyddio o tua 1915, pan gymerodd le 17, 18 a 19 Sgwâr Mount Stuart mewn safle amlwg gyferbyn â phrif fynedfa’r Gyfnewidfa Lo. Y penseiri oedd Teacher & Wilson a’r cleient oedd Claude P Hailey, cyfrifydd lleol a roddodd dir ar gyfer Parc Hailey yn Ystum Taf yn ddiweddarach.
Mae’r adeilad, sydd â phum llawr ac islawr, yn anarferol o anghymesur, gyda bae mwy addurniadol yn y pen dwyreiniol. Mae’r cynllun adeiladu a gymeradwywyd yn dangos y dylai fod estyniad gorllewinol cyfatebol, ond ni chafodd ei adeiladu, yn amlwg.
Roedd y meddianwyr cynharaf yn cynnwys partneriaeth gyfrifyddiaeth Mr Hailey gyda Syr Joseph Davies, a Mount Stuart Square Office Co Ltd, sef cwmni rheoli’r adeilad yn ôl y tebyg. Roedd Business Statistics Publishing Co Ltd a’r Incorporated South Wales and Monmouthshire Coal Freighters Association – yr oedd y ddau yn gysylltiedig â Davies a Hailey – hefyd wedi’u lleoli yma. Roedd y tenantiaid eraill yn dueddol o fod yn allforwyr glo neu’n gwmnïau cludo. O’r cychwyn cyntaf tan o leiaf ganol y 1950au, roedd caffi ar y llawr daear. Tra bod patrymau busnes wedi arwain at newid mewn meddiannaeth dros y blynyddoedd, parhaodd Tŷ Baltig i gartrefu nifer o gwmnïau môr-gludo a theithio ymhell i mewn i’r 1960au.
Yn ystod y 1990au, Tŷ Baltig oedd prif swyddfa Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd a feistrolodd adfywiad dociau a glannau digalon y ddinas. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn gartref i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ynghyd â nifer o sefydliadau trydydd sector.
David Webb, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
Ffynonellau a ddefnyddiwyd:
- Casgliad Mary Traynor (cyf.: D1093/1/6)
- Cofnodion Bwrdeistref Caerdydd, cynlluniau ar gyfer swyddfeydd, Sgwâr Mount Stuart, 1913 (cyf.: BC/S/1/18776)
- Cofnodion Evan Thomas, Radcliffe and Company, Caerdydd, prydles am 21 o flynyddoedd, 1916 (cyf.: DETR/92/1-3)
- Cyfeirlyfrau amrywiol ar gyfer Caerdydd
- Cardiff Year Book 1921
- Wales Yearbook 2000
- http://www.friendsofhaileypark.org.uk/claude-hailey.html
- http://www.wcva.org.uk/
Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd - Archifau Morgannwg