The Ocean and National Magazine, 1930: Taith i Feysydd Glo Northumberland, Durham a Swydd Efrog

Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r drydydd mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.

d1400-9-3-1 cover

Clawr rhifyn Ionawr 1930, D1400/9/3/1

Roedd llawer o gyfraniadau’r cylchgrawn yn cynnwys erthyglau technegol a gwyddonol yn ymwneud â phrosesau cloddio am lo. Un erthygl o’r fath a ymddangosodd ym 1930, oedd cyfres o erthyglau gan griw a oedd ar y pryd yn aelodau neu gyn-aelodau o byllau glo yr Ocean yn ne Cymru, a oedd yn ymwneud â’r daith a wnaed ganddynt i feysydd glo gogledd-ddwyrain Lloegr.

d1400-9-3-1 page 13

Llun grŵp a gymerwyd yng Nglofa Seghill yn ystod taith o byllau glo gogledd-ddwyrain Lloegr, D1400/9/3/1, t.13

Caiff peiriannau a thechnegau cloddio am lo eu trafod yn yr erthyglau, gydag L. Phillips, Rheolwr Glofa Nine Mile Point, yn trafod ym mis Ionawr 1930, y modd y defnyddid peiriannau yng ngogledd Lloegr i gynorthwyo glowyr. Mae’n dweud nad yw defnyddio peiriannau mewn pwll glo mor syml â defnyddio peiriannau mewn gwaith dur neu felinau tunplat neu ffatrïoedd ceir, ond mae’n nodi fod dros 225 o’r glo a gynhyrchwyd bryd hynny wedi ei dorri gan beiriannau. Mae’n trafod y mathau o gludwyr a ddefnyddid gyda meintiau mawr o lo a dorrwyd gan y torwyr glo a pham fod angen cydweithrediad perffaith rhwng swyddogion a dynion er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y system hon.

d1400-9-3-1 page 9

Braslun o gludwr tryc wyneb a gwregys, D1400/9/3/1, t.9

Caiff methodoleg cloddio am lo ei drafod hefyd yn rhifyn Chwefror gan Ben Phillips o Lofa’r Parc. Yn ei erthygl mae’n cymharu dulliau gweithio’r gwythiennau glo yn ne Cymru â’r rhai yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae’n trafod y dulliau board and pillar a’r dull longwall. Mae’n nodi fod y dull ‘longwall’ wedi ei gyflwyno …o ganlyniad i ddisbyddu’r gwythiennau glo mwyaf trwchus ym maes glo Gogledd Lloegr… ac mae’n crybwyll yr amrywiadau rhwng y ddau ddull.

d1400-9-3-2 page 45

Dulliau gweithio o’u cymharu â De Cymru, D1400/9/3/2, t.45

Yng Nglofa Ashinton, mae Daniel J.Thomas, Newcastle-upon-Tyne (gynt wedi ei gyflogi yn adran y Peirianwyr, Treorci) yn nodi yng Nglofa Ashington i’w grŵp gael y pleser o danio sigarét ar y ffas lo, o fewn 10 troedfedd i lafn torri glo trydanol. Er bod y defnydd o drydan wedi creu argraff arno yng nglofa Seghill, siom gafodd wrth ymweld â’r lofa, oherwydd:

…although electricity was solely used they did not generate any.

Roedd glofeydd eraill o fewn maes glo gogledd ddwyrain Lloegr hefyd yn cael budd o ddefnyddio trydan. Pan aeth tîm Thomas ar ymweliad â Glofa Haworth, roedden nhw’n gallu gweld pâr o weindars trydanol, a oedd yn gallu codi 7½ tunnell o lo bob tro, a hynny o ddyfnder o 1000 o lathenni.

Crybwyllwyd gwahaniaethau o aran arferion gwaith hefyd. Mewn un erthygl benodol o rifyn mis Ionawr, mae Daniel J. Thomas, cyn-beiriannydd o Dreorci a weithiai yn Newcastle-upon-Tyne, yn sôn am amseroedd shifft rhyfedd y glowyr yn Usworth:

…some men went in at 5am and others at 11am.

Trwy gyfrwng yr erthyglau hyn byddai darllenwyr wedi gallu cael dealltwriaeth o ochr dechnegol cloddio am lo a’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau o ran arferion gwaith rhwng meysydd glo de Cymru a gogledd Lloegr.

Andrew Booth, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

One thought on “The Ocean and National Magazine, 1930: Taith i Feysydd Glo Northumberland, Durham a Swydd Efrog

  1. The Ocean and National Magazine, 1930: Taith i Feysydd Glo Northumberland, Durham a Swydd Efrog - Glamorgan Archives

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s