Mae casgliad yr ‘Ocean and National Magazine’ yn adnodd anhygoel ar gyfer darganfod sut fath o fywyd oedd gan bobl a oedd yn byw ym maes glo De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Wedi ei gyhoeddi gan yr ‘Ocean Coal Company Ltd’ a’r ‘United National Collieries Ltd’, gyda chyfraniadau gan ac ar ran y gweithlu, mae’r gyfres gylchgrawn hon yn cynnwys amrywiaeth eang o erthyglau ar y diwydiant glo a’i hanes, gan gynnwys cysylltiadau diwydiannol, gweithwyr, technoleg, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon. Mae Andrew Booth, un o’n gwirfoddolwyr, yn ddiweddar wedi cwblhau mynegeio’r casgliad gwych hwn. Dyma’r ail mewn cyfres o erthyglau blog lle mae Andrew yn tynnu sylw at storïau o gylchgronau’r ‘Ocean and National Magazine’.
**********
Mae darpariaeth lles, cymdeithas a diwylliant yn themâu allweddol yn y cylchgronau. Trwy holl rifynnau 1929, tanlinellwyd y thema hon trwy gyfrwng y drafodaeth ar y Clybiau Bechgyn a oedd yn gysylltiedig â’r Ocean Area Recreation Union. Holodd y Cyrnol R.B. Campbell beth oedd yn digwydd i fechgyn 14 i 18 oed unwaith iddynt orffen eu shifft yn y gwaith (roedd yn adeg pan allai plant adael yr ysgol yn iau na heddiw), os oedden nhw’n gweithio o gwbl …gan fod diweithdra yn rhemp. Nododd Campbell mai dim ond 1 o bob 5 a berthynai i sefydliad bechgyn, e.e. Clwb Bechgyn, Sgowtiaid neu’r Brigadau Bechgyn. Arweiniodd yr erthygl yma at gyfres o ddarnau yn trafod swyddogaeth a llwyddiant clybiau bechgyn yn y cymunedau glofaol.
Ym mis Mawrth, cododd awdur anhysbys drywydd y pwnc hwn, gan edrych ar ddiddordebau, a sut y gallai Clybiau Bechgyn eu defnyddio er budd eu haelodau. Roedd enghreifftiau o ddiddordebau yn cynnwys gwaith coed, gwaith metel, cerfio, paentio, modelu, ffotograffiaeth, garddio, astudiaethau natur, creu rhwydi a chasglu stampiau.
Ym mis Mai, tynnodd T. Jacob Jones sylw at sefydlu nifer o glybiau bechgyn mewn cyfnod byr o amser yn ardal yr Ocean. Tra’n gweld agweddau cadarnhaol ei glwb lleol, yn enwedig fod nifer o weithgareddau a’r llyfrgell wedi eu cynnal yn llwyddiannus, roedd yn awyddus i wybod a oedd meysydd eraill a redwyd gan yr Ocean yn profi llwyddiant tebyg. Un o’i brif bryderon am y clwb oedd diffyg gweithgareddau nad oedd yn ymwneud â chwaraeon, megis drama, cerddoriaeth, trafod, hobïau, darllen a cherdded. Roedd hefyd yn teimlo fod y clybiau:
…in danger of being isolated from the village life – the Church, the School, and the Social Unit.
Ym mis Mehefin, gofynnwyd i Ap Nathan gyhoeddi ei feirniadaeth ‘ddi-flewyn-ar-dafod’ ar y Clybiau Bechgyn. Gan ategu beirniadaeth T. Jacob Jones, ysgrifennodd fod mwy o bwyslais yn cael ei osod ar gemau a chwaraeon a dim digon ar ddiwylliant. Fodd bynnag, yn wahanol i Jones, roedd Ap Nathan yn gweld rhan crefydd mewn sefydliadau o’r fath yn ddadleuol. O fewn ei erthygl, pwysleisiodd Ap Nathan fod y math o arweinydd ar y grwpiau hyn yn allweddol, gan ddatgan:
…what is really needed is not an able administrator or organiser, but a great lover of boys.
Gwelwyd arian hefyd fel mater wrth ystyried llwyddiant y clybiau bechgyn, gyda’r Parchedig D.L. Rees yn trafod y pwnc yn rhifyn mis Gorffennaf. Unwaith eto cyfeirir at weithgareddau diwylliannol, fodd bynnag mae Rees yn cyfeirio at Glwb a oedd wedi ceisio trefnu garddio a theithiau crwydro. Ond doedden nhw ddim yn boblogaidd ac fe gawsant eu gollwng. Fodd bynnag, rhaid bod peth llwyddiant wedi’i gael wrth drefnu digwyddiadau diwylliannol, achos ym mis Medi cyhoeddodd y cylchgrawn ganlyniadau cystadleuaeth ddrama, gyda chystadleuwyr o Dreorci, Wattstown, Treharris a Nant-y-moel.
Ym mis Hydref cynlluniodd y cylchgrawn gyfres o gystadlaethau ar gyfer gaeaf 1929-30, wedi ei rhannu yn gategorïau Diddordebau, a oedd yn cynnwys Gwaith Llaw, Arlunio, Darllen, Traethodau, Adrodd Straeon a Llefaru, a Drama, a oedd yn cynnwys cynhyrchu drama.
Andrew Booth, Gwirfoddolwr Archifau Morgannwg
The Ocean and National Magazine, 1929: Clybiau Bechgyn - Archifau Morgannwg