‘Bu farw’r dynion hyn dros eu gwlad’: Cofeb Ryfel Penarth, Tachwedd 1924

Ymhlith y cofnodion yn Archifau Morgannwg mae rhaglen a argraffwyd ar gyfer seremoni a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 1924 i ddadorchuddio’r Gofeb Ryfel yng Ngerddi Alexandra, Penarth.

20181207_082427_resized

Gellir gweld y gofeb ar dudalen flaen y rhaglen gyda’r arysgrif ‘Er cof am wŷr Penarth a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel Mawr 1914-18’. Roedd y dyddiad a ddewiswyd ar gyfer y seremoni yn symbolaidd am ei fod yn nodi chwe blynedd ers arwyddo’r Cadoediad a roes ddiwedd ar yr ymladd yn y Rhyfel Mawr – y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar gyfer cenedlaethau diweddar, mae Diwrnod y Cofio, ar 11 Tachwedd, wedi bod yn nodwedd ar fywyd ym mhob pentref a thref ar hyd a lled y wlad bron a bod. Mae’n nodi arwyddo’r Cadoediad a roes ddiwedd ar y Rhyfel Mawr ym 1918 a’r rheiny a fu farw mewn dau Ryfel Byd a chyrchoedd diweddarach. Fodd bynnag, ym 1924, i ryw raddau, roedd yn ddatblygiad newydd a nodwyd am y chweched tro yn unig. Collodd dros 700,000 o ddynion a merched y lluoedd Prydeinig eu bywydau yn y Rhyfel Mawr a chladdwyd y mwyafrif ohonyn nhw dros y dŵr, o Fflandrys i Galipoli i Balesteina. O gymharu hyn a rhyfeloedd a fu cyn hynny, roedd y colledion yn anferthol ac arweiniodd hynny at alw i gael diwrnod coffa cenedlaethol. Cymaint oedd cryfder teimladau pobl fel bod papurau newydd ym 1924, chwe blynedd wedi diwedd yr ymladd, yn adrodd bod unigolion mewn sawl tref wedi eu harestio a’u dwyn i’r ddalfa am beidio â nodi’r ddwy funud o dawelwch ar 11 Tachwedd.

Er bod cyrchoedd blaenorol, gan gynnwys Rhyfel Crimea a Rhyfel De Affrica, wedi eu coffáu drwy godi nifer bychan o gofebion, roedd y Rhyfel Mawr yn wahanol am iddo gyffwrdd â bron pob cymuned drwy’r deyrnas. Roedd pob cymuned felly yn awyddus i ganfod modd priodol i nodi’r cyfraniadau a wnaed gan wŷr a gwragedd lleol. Os edrychwch ar y braslun ar ddalen flaen y rhaglen fe welwch, yn y cefndir, danc milwrol. Yn y blynyddoedd wedi’r Cadoediad roedd nifer o drefi a dinasoedd wedi llwyddo i gael gafael ar offer milwrol, yn aml tanciau neu ynnau maes. Cafodd rhain eu harddangos mewn mannau cyhoeddus i ddathlu’r fuddugoliaeth ac i atgoffa am y rhai a gollodd eu bywydau yn y gwrthdaro.  Fodd bynnag, roedd codi’r Senotaff yn Whitehall, Llundain yn symboleiddio ymgyrch i greu cofeb fwy parhaol ar gyfer y meirwon. Roedd y digwyddiadau ym Mhenarth ym mis Tachwedd 1924, felly, yn rhan o symudiad cyffredinol a ymledodd drwy’r wlad i gofio a choffáu’r meirwon. Yn ardal Caerdydd yn unig y diwrnod hwnnw, roedd dwy gofeb arall yn cael eu dadorchuddio, ym Marics Caerdydd ac yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Byddai wedi bod yn ddiwrnod emosiynol iawn. Derbyniodd dau ddyn o Benarth, Richard Wain a Samuel Pearse, fedal Croes Fictoria. Ganed Wain ym Mhenarth a derbyn ei addysg yn Ysgol Gadeirlan Llandaf ac Ysgol Ramadeg Penarth. Roedd yn gapten dros dro 20 oed yn y Corfflu Tanciau pan fu farw ym 1917 ym Mrwydr Cambrai, un o’r brwydrau cyntaf lle defnyddiodd Byddin Prydain ei arf pwerus newydd. Roedd Samuel Pearse wedi gadael Penarth ac ymfudo i Awstralia yn 14 oed. Bu’n ymladd gyda lluoedd Awstralia yn Galipoli ac yn ddiweddarach yn yr Aifft a Ffrainc. Wedi arwyddo’r Cadoediad priododd yn Durham a bu’n oedi cyn dychwelyd adref am fod ei wraig yn feichiog. Dewisodd ymrestru gyda nifer o Awstraliaid yn lluoedd Byddin Prydain a oedd yn cael eu gyrru i gefnogi Byddinoedd y Gwynion yn Rhyfel Cartref Rwsia, ac fe’i lladdwyd yn yr ymladd, yng ngogledd Rwsia, ym mis Awst 1919.

Pwysleisiwyd maint y colledion gan nifer yr enwau a arysgrifwyd ar Gofeb Penarth, sef tua 307. Roedden nhw’n amlygu bod pob rhan o’r gymdeithas wedi ei chyffwrdd. Archer Windsor-Clive oedd trydydd mab Iarll Plymouth ac roedd wedi chwarae criced dros Forgannwg a Chaergrawnt. Fel swyddog yng  Ngwarchodlu Coldstream, roedd yn un o’r dynion cyntaf i gael ei yrru i Ffrainc a hefyd yn un o’r cyntaf i farw. Dim ond 23 oed ydoedd pan laddwyd ef yn ystod brwydr Mons ym mis Awst 1914, mis cyntaf y rhyfel.

Mae cofeb Penarth yn cynnwys enw gwraig, Emily Ada Pickford. Roedd Emily yn athrawes gerdd leol o Benarth ac yn arweinydd ar Gôr Merched Penarth. Roedd hi’n perthyn trwy briodas i deulu’r Pickford a oedd yn argraffwyr lleol ac a gynhyrchai y Penarth Times.  Ym mis Chwefror 1919 roedd hi yn Ffrainc gyda chriw cyngerdd yn rhoi adloniant i’r lluoedd. Bu farw wrth deithio yn ôl i Abbeville wedi cyngerdd gyda’r hwyr, pan lithrodd ei char oddi ar y ffordd i afon Somme. Erbyn 1924 roedd Cyngor Ardal Tref Penarth yn cael ei gadeirio gan Constance Maillard, y wraig gyntaf i’w hethol i’r Cyngor a chadeirydd benywaidd cyntaf y Cyngor. Fel ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Swffragetiaid Penarth, mae’n bosib iawn y bu Constance yn allweddol wrth sicrhau bod enw Emily wedi ei gynnwys ar y gofeb.

Mae’r rhaglen yn Archifau Morgannwg yn nodi manylion y seremoni ddadorchuddio ym 1924, ond mae cofnodion Cyngor Ardal Tref Penarth yn adrodd hanes y penderfyniad i gomisiynu a chodi’r gofeb. Bu’r cynllunio ar gyfer y gofeb ar waith am gryn amser, gyda sefydlu is-bwyllgor i’r Cyngor ym 1923. O ganlyniad, roedd y Cyngor wedi gwahodd Syr William Goscombe John i gyflwyno dyluniad ar gyfer cofeb addas. Yn wreiddiol o Dreganna yng Nghaerdydd, roedd William Goscombe John yn gerflunydd adnabyddus a oedd wedi cwblhau llawer o gofadeiliau cyhoeddus dros y wlad, gan gynnwys cerflun John Cory o flaen Neuadd y Ddinas. Roedd galw mawr am ei sgiliau i ddylunio Cofebau Rhyfel ac, yn yr un flwyddyn ag y dadorchuddiwyd Cofeb Penarth, fe ddyluniodd hefyd gofebau ar gyfer Llandaf, Caerfyrddin a’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam. Roedd yn arwydd o bwysigrwydd y gofeb i ffi o £2,000 gael ei chytuno gan y Cyngor a fyddai, yn ôl prisiau heddiw, dros £80,000. Byddai hyn yn dyblu’r gyllideb wreiddiol a neilltuwyd ar gyfer y gofeb. Y cynllun gwreiddiol oedd gosod y gofeb gyferbyn â Penarth House, ond cytunwyd yn y pen draw y byddai safle ym Mharc Alexandra, gyda’i olygfa dros y môr, yn fwy addas. Yr unig addasiadau i ddyluniad gwreiddiol Syr William oedd i ychwanegu, ar waelod y gofeb, y geiriau ‘Bu farw’r gwŷr hyn dros eu gwlad. Ydych chi’n byw drosti.’

Doedd y seremoni ddadorchuddio ddim yn un hawdd ei threfnu. Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Medi 1924 ond newidiwyd hynny’n ddiweddarach i 11 Tachwedd.  Rhaid cofio y bu seremonïau tebyg yn cael eu cynnal ar draws y wlad ond buan iawn y chwalwyd gobeithion y byddai ffigyrau blaenllaw fel y Llyngesydd Earl Beatty yn bresennol. Yn lle hynny, daeth milwyr o’r Gatrawd Gymreig, a leolwyd ym Marics Caerdydd, yno i fod yn osgordd er anrhydedd. Arweiniwyd y seremoni gan yr Aelod Seneddol lleol, y Capt Arthur Evans, a’r Parch. Hassal Hanmer, oedd ill dau wedi gwasanaethu yn y rhyfel, gyda chefnogaeth gan Gôr Cyn-Filwyr Penarth.

Rhoddwyd y dasg o ddadorchuddio’r gofeb i Mrs F Bartlett, Mrs P Fitzgerald a Mr G Hoult. Wrth sefyll ymhlith yr ASau a’r milwyr rheng roedd un ffactor a oedd yn uno’r tri ynghyd. Roedd pob un wedi colli tri mab yn y rhyfel. Roedd y gofeb wedi’i gwneud o wenithfaen wen gyda ffigwr efydd buddugoliaeth, â llawryf a chleddyf yn ei ddwylo, yn sefyll ymhen blaen cwch. Gellir gweld y rhaglen ar gyfer y seremoni ar 11 Tachwedd 1924 yn Archifau Morgannwg, cyf. DXOV3/11. Fe’i cadwyd gan Constance Maillard a’i throsglwyddo gyda’i phapurau i’r Archifau. Os ydych yn dyfalu beth ddigwyddodd i Constance, mi wnaeth hi oroesi i ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ac mae gwahoddiad i’w phen-blwydd hithau hefyd wedi ei gadw yn yr Archifau (cyf.: DXFX/8).  Gellir cyrchu cofnodion Cyngor Ardal Tref Penarth hefyd yn Archifau Morgannwg, cyf. UDPE/C/1/5, gan gynnwys papurau yr Is-Bwyllgor Coffa, cyf. UDPE/C/1/21. Mae’r Sefydliad Ffilm Prydeinig newydd ryddhau ffilm dawel du a gwyn o’r seremoni.

Fel ôl-nodyn, gwnaed gwaith adfer sylweddol ar Gofeb Ryfel Penarth fel rhan o ddigwyddiadau’r canmlwyddiant. Gellir ei weld yng Ngerddi Alexandra, Penarth.

Tony Peters, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s