Y cwbl mae angen i ni wneud yw ‘Dal i wenu’: Stori Bert Turnbull

Efallai bod rhai’n meddwl y gallai milwyr a merched trwy’r byd edrych ymlaen at fynd adref yn fuan ar ôl arwyddo’r Cadoediad ym mis Tachwedd 2018. Fodd bynnag, y realiti i nifer o ddynion o Gymru oedd y gallai bod misoedd, weithiau flwyddyn, cyn dychwelyd i Brydain. Ymchwiliodd The Roath Road Roamer, cylchgrawn plwyf Eglwys Methodistiaid Roath Road hanes 460 milwr o’r plwyf trwy’r rhyfel a dweud eu hanes trwy gyfres o lythyrau, ffotograffau ac adroddiadau.

Mae’n bosibl mai un o’r cymeriadau mwyaf enwog yn y Roamer oedd Bert Turnbull.

DAWES 6-37-p3

Amcangyfrifodd The Roamer fod Ben wedi gwasanaethau ar fwy o ffryntiau a theithio mwy o filltiroedd yn ystod y rhyfel na’r ‘Roamers’ eraill.  Fe’i ganwyd ym Middlesbrough a bu’n byw rhan fwyaf ei fywyd yng Nghaerdydd gyda’i fam, a oedd yn hanu o Dredegar. Pan gychwynnodd y rhyfel, roedd e’n 19 oed ac yn gweithio fel gwas ffitiwr nwy. Fel aelod o’r Fyddin Diriogaethol, galwyd ar Bert yn y dyddiau cyn i’r ymladd ddechrau. O’r braidd roedd ganddo syniad beth oedd o’i flaen yn y pum mlynedd nesaf pan ymunodd â Chorff Meddygol y Fyddin Frenhinol fel Preifat ym mis Gorffennaf 1914, 12 diwrnod cyn cychwyn y rhyfel.

Roedd y Roamer yn ceisio rhoi llun o bob un o’r milwyr a’r merched a oedd yn y cylchgrawn. Mae Bert Turnbull yn rhifyn 1917, gyda llun a dynnwyd yn Cairo. Mewn tair blynedd yn unig, cododd trwy’r rhengoedd a daeth yn Sarsiant Staff Bert Turnbull RAMC, yn gwasanaethu yn y 45ain Ysbyty Sefydlog, Llu Alldeithiol yr Aifft.  Er y cafodd Bert ei anfon i sawl ffrynt, ni fu’n gwasanaethu yn Ffrainc nac yng Ngwlad Belg. Yn hytrach, hwyliodd â’i Uned Ambiwlans Maes dros Fôr y Canoldir i’r Aifft, lle ymunodd â’r lluoedd a oedd yn cael eu cynnull ar gyfer yr ymosodiad yn y Dardanelles. Gweithredodd yr Unedau Ambiwlans Maes y tu cefn i’r rheng flaen ac yn aml, dim ond ambell ganllath oddi wrth y brwydro. Eu tasg oedd creu rhwydwaith o Orsafoedd Gwisgo i drin y cleifion cyn eu symud i Orsafoedd Glanhau Cleifion mwy. Roedd gweithio a thrin dynion wedi’u hanafu’n wael dan dân gynnau a sielau a heb arfau yn waith peryglus ac anodd. Byddai Bert Turnbull, felly, wedi bod yn ei chanol hi yn Gallipoli. Bu honno’n ymgyrch fer a gwaedlyd ac anafwyd 50,000 o fyddinoedd y Cynghreiriaid gyda Bert yn un o’r cleifion a anfonwyd yn ôl i’r Aifft i adfer.

Yn y blynyddoedd canlynol, gwasanaethodd Bert Turnbull â’r RAMC yn yr Aifft a Phalesteina cyn cael ei drosglwyddo i Salonica yn hydref 1918. Er mai rhai misoedd yn unig cyn arwyddo’r Cadoediad oedd hyn, bu’r fyddin mewn cyfres o frwydrau gorffwyll a marwol wrth iddynt geisio atal lluoedd yr Almaen a Bwlgaria rhag trosglwyddo i’r ffrynt orllewinol.  Mewn egwyl fer o’r llinell flaen, roedd Bert gartref yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1918, rai wythnosau cyn diwedd y rhyfel. Wedi tair blynedd i ffwrdd o Gaerdydd, gellid gobeithio bod ffawd Bert yn newid ac yn dod â’i ddyddiau o wasanaethu i ben. Ond nid felly y bu hi.

Ar 11 Tachwedd 1918, wrth i dorfeydd ddathlu’r Cadoediad yng Nghaerdydd ac ar draws y byd, roedd Bert ar long milwyr ym Môr y Canoldir yn mynd tua Thwrci. Glaniodd ar 13 Tachwedd a chyhoeddodd Roath Road Roamer lythyr gan Bert o Gaer Gystennin ar 16 Rhagfyr 1918:

DAWES 6-51-p4DAWES 6-51-p4 (1)

I received your letter at the above address. Just fancy it arriving in such a place! I wonder if the Roamer has reached Berlin yet? Rather strange that you should have written your letter on 13th November as that was the very day on which we landed at Constantinople. My word what a reception we had. I think that the only people who were not pleased to see us were the Germans who were there in occupation but have all run home to Germany since. The people of England are grumbling about the price of things at home. But they would not believe the high price of things her. When I first arrived I was speaking to an Englishman who was interned here at the outbreak of war. He was liberated on our arrival and went to fit himself out with clothes. He paid £11/10/- for a pair of shoes!! A loaf of bread weighing 12 oz costs 1/8. Sugar is 12/6 a Ib. The electric cars are unable to run owing to a shortage of coal. The water supply is turned on from 2pm to 4 pm daily at present but the first fortnight we were here it was only turned on every third day. It is a pitiful sight to see the very poor people begging in the streets [DAWES6, edition 51, page 4].

Ychwanegodd hefyd, yn enigmatig:

The next time I write it will be from another country, sorry I cannot tell you as the Censor is still employed here.

Yn wir, roedd rhyfel Bert ymhell o’i ddiwedd. Ym mis Ebrill 1919, adroddodd y Roamer am dderbyniad i ddathlu yn yr eglwys ar gyfer y milwyr, lle’r oedd lluniaeth lawer ac roedd y milwyr yn ddiolchgar am y smôcs. Roedd golau trydan wedi ei osod yn nosbarthiadau’r ysgol Sul, yn arbennig ar gyfer yr achlysur.  Gofynnwyd i’r rhai a aeth yno i arwyddo cofrestr fel cofnod o’r ‘Roamers’ yn dychwelyd i Gaerdydd. Fel jôc, dywedodd rhai eu bod nhw’n gyndyn o arwyddo, rhag ofn eu bod yn cydsynio â rhagor o wasanaeth yn y fyddin, a oedd bryd hynny yn cychwyn ymgyrch i gefnogi’r Lluoedd Gwyn yn Rwsia.

Fodd bynnag, nid jôc fu’r ymgyrch yn Rwsia i Bert Turnbull. Yn yr un rhifyn, roedd y Roamer yn cynnwys llythyr arall gan Bert a’r tro hwn, roedd e hyd yn oed yn bellach ymaith:

DAWES 6-54-p4

Many thanks for the January Roamer which I received a few days ago. I noticed my letter which I wrote from Constantinople was in it. Well, here is letter from a few hundred miles up the Black Sea. So you have had some of the boys back once more. Good luck to them! I hope my turn will come soon. Don’t you think it is about time that I stopped ‘Roaming’? In khaki 12 days before war was declared. Served in Gallipoli, Egypt, Palestine, Egypt (second time) Salonika, Turkey (Constantinople) and Russia. I was a time expired man in 1916 but still have to ‘carry on’. Never mind the day will soon come now. All we need to do is ‘keep smiling’ [DAWES6, edition 54, page 4].

Roedd Byddin Prydain yn Salonica wedi ei hanfon i ardal y Cawcasws. Cychwynnwyd yr ymgyrch, yn rhannol i feddiannu tir yr oedd Twrci yn ei reoli o’r blaen, ond hefyd i gynorthwyo Byddinoedd Gwyn Rwsia. Felly, roedd Bert yn seiliedig yn Batoum yn Georgia. Yn ffodus, ymgyrch fer fu hi a’r tro nesaf y clywyd gan Bert, roedd ganddo newyddion da, o’r diwedd.  Ym mis Mehefin 1919, adroddodd y Roamer:

I am sure you will be glad to hear that one of your Roamers will soon be home. I am leaving this place for Blighty. What a journey! I dread it! [DAWES6, edition 55, page 6].

Erbyn mis Awst 1918, rhyw 9 mis wedi arwyddo’r Cadoediad, roedd Bert Turnbull yn ôl yng Nghaerdydd ac ar ‘Civvy Street’, yn gwisgo Ruban Medel Gwasanaeth Hir y Fyddin Diriogaethol.

Ddeufis yn ddiweddarach, roedd diwedd hapus i stori Bert, pan adroddodd y Roamer ym mis Hydref 1919:

Our ‘Roamers’ are still getting married and we offer out hearty good wishes. Staff Sergeant Bert Turnbull, who holds the ‘Roamer’ record for seeing active service in the greatest number of countries, was married to Miss Irene C James on 7 September [DAWES6, edition 57, page 3].

Hwn oedd rhifyn olaf y Roath Road Roamer. O’r 460 milwr a gafodd eu holrhain yn Roath Roamer, bu farw 42 yn y rhyfel. Ar ddiwedd mis Hydref 1919, roedd 30 yn dal i aros i gael eu rhyddhau. I Bert a llawer o rai eraill, roedd diwedd y rhyfel yn hir yn dod, er y cafodd ei ddathlu’n wyllt ym mis Tachwedd.

Tony Peters, Gwirfodolydd Archifau Morgannwg

 

Mae copi o’r Roath Road Roamer yn Archifau Morgannwg. Roedd Eglwys Methodistiaid Roath Road ar gornel Heol y Plwca a Heol Casnewydd (sef Roath Road tan 1874). Cafodd ei hadeiladu tua 1860 a’i haddasu ym 1871. Roedd yn adeilad mawr y mae sôn iddi ddal 1000 o bobl. Cafodd ei difrodi’n ofnadwy yn ystod cyrch awyr ar Gaerdydd ar 3 Mawrth 1941 a’i dymchwel ym 1953.

Gadael sylw