Darostyngiad a Distryw: Dwy Fordaith o Borthladd Caerdydd

Mae gan Archifau Morgannwg drefniadau criw a llyfrau log ar gyfer llongau a gofrestrwyd ym Mhorthladd Caerdydd rhwng 1863-1913 (cyf. DCA). Mae’r digwyddiadau isod yn adlewyrchu dau achlysur hynod a gofnodwyd yn y logiau hyn.

Mae’n rhaid bod Charles Woollacott, meistr y Talca (rhif swyddogol 50438), dyn o Ddyfnaint oedd yn 41 oed, wedi synnu at yr hyn a ddigwyddodd yn ei long yn ystod mordaith yn cario glo o Gaerdydd i Awstralia, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 1869 ac a ddaeth i lan ym mis Rhagfyr 1870. Y cogydd oedd prif achos yr helynt, fel y cofnododd Woollacott ym mis Ionawr 1870:

Image 1

…we find that the man Thom[as] Roelph engaged as cook and steward at £5 per month, does not know anything about Cooking. He cannot Boil a Potatoe…It is intended to reduce his Wages in proportion to his Incompetency.

Ar fordaith hir roedd bwyd yn bwysig iawn, ac roedd anallu cogydd i ddarparu bwyd da yn bygwth iechyd y criw, a thrwy hynny eu gallu i weithio. Roedd y broblem hyd yn oed yn fwy difrifol oherwydd mai llong hwylio oedd y Talca ac felly roedd y gwaith hyd yn oed yn galetach. Parhaodd y problemau ar y Talca, ac ym mis Chwefror nodwyd yn y log:

All hands came aft to say they could not do their work if they could not get their victules better cooked.

Drwy drugaredd, bum niwrnod yn ddiweddarach yn Freemantle, Awstralia, nododd Charles Woollacott:

This day Thomas Raulph [sic] deserted the ship.

Ni ddaeth yr hanes i ben yn y fanno. Yn Freemantle, penodwyd dyn arall, sef Richard Evans, yn gogydd. Fel mae’r ddogfen ym mhapurau’r llong yn profi, roedd Evans yn droseddwr a’i hanfonwyd i Awstralia, ac, ar ôl cwblhau ei ddedfryd roedd yn gweithio er mwyn talu am ei daith adref (er iddo adael yn Dunkirk). Mae rhestr y criw yn nodi ei fod yn 32, ac mai Lerpwl oedd ei fan geni. Mae’n debygol y byddai’n well gan Gapten Woollacott pe byddai Richard Evans wedi aros yn Awstralia. Roedd y cogydd newydd yn haerllug, yn anufudd ac yn anghymwys, yn gwrthod dilyn cyfarwyddiadau, nes i’r meistr orfod nodi yn y log:

I did not know when I shipped him that he had been a convict. Upon the next occasion I intend to put him in confinement for the sake of Subordination of the Ship, called him aft and read this entry to him. Received a insullent reply and a threat of-what he-would do when he got home.

Mae’n debyg nad yw cael ei anfon i Awstralia wedi newid Richard Evans.

Yn wahanol i hyn, mae sylwadau meistr yr S.S. Afonwen (rhif swyddogol 105191) ar gyfer mis Rhagfyr 1908 yn cofnodi digwyddiad tra gwahanol. Tra roedd y llong wedi docio ym Messina, Sisili, ar fordaith yn cario glo, bu daeargryn difrifol yn yr ardal. Bu’r criw’n ddewr iawn; cafodd dau ohonynt fedal Albert a chafodd un arall ei ganmol gan Frenin yr Eidal, oll am eu hymdrechion i achub pobl leol rhag y trychineb gan roi eu bywydau eu hunain yn y fantol. Defnyddiwyd y cwch i ddod â phobl oedd wedi’u hanafu i ddiogelwch yn Napoli. Mae’r meistr, William Owen, yn arddangos ataliaeth broffesiynol yn ei sylwadau yn y log swyddogol ar gyfer 28 Rhagfyr 1908 gan drafod effeithiau corfforol y daeargryn yn unig ar ei long:

Image 2

Image 3

At 5.15 all hands disturbed by heavy earthquake shock causing great confusion on board, rushing on deck but being pitched dark and the air full of dust was unable to see anything; same time tidal wave came over quay which raised the ship bodily tearing adrift all moorings… unknown steamer which was adrift collided with our starboard bow damaging same… the water now receded and ship grounded… At 7 a.m. sky cleared when we found out the quay had collapsed and town destroyed…

Nodwyd bod un aelod o’r criw, Ali Hassan, ar y lan ar yr adeg ac mae’r cofnod wrth ei enw yn rhestr y criw yn nodi …credir y bu farw yn y daeargryn.

Image 4

Mae erthygl yn y Western Mail ar 15 Rhagfyr 1965, yn defnyddio llythyron ac atgofion y criw, yn adrodd hanes llawer mwy cyffrous. Dywedodd Capten Owen, oedd wedi ymddeol a mynd yn ôl i Amlwch, Sir Fôn:

a great wall of water sprang up with appalling violence; it was a miracle we came through it. The wind howled around us and waves continually swamped us as though a squall had come on. Vast eddying clouds of dust settled on the ship like a fog.

Ceisiodd llawer o bobl a oedd yn dianc rhag y daeargryn nofio tuag at longau’r harbwr.  Credir bod 19 o bobl wedi cyrraedd yr Afonwen gan gynnwys dyn o Gaerdydd, cyd-ddigwyddiad od iawn! Fore drannoeth, aeth Capten Owen â thri dyn at y lan i geisio cyfarwyddiadau gan Gonsyliaeth Prydain, ond roedd wedi’i dinistrio. Ysgrifennodd gofnod ar gyfer 29 Rhagfyr 1908:

At 8 a.m. this day-I went on shore but unable to find any means of communication and no one to give instructions I returned on board and decided to proceed to Naples, sailing from Messina 10 a.m.

Un o’r dynion a aeth i’r lan gydag ef oedd Eric Possart, prentis 18 oed o Gaerdydd. Trafododd y digwyddiad mewn llythyr at ei dad:

The people were all cut and bleeding… As fast as we could we were taking them aboard ships. We could only find one doctor alive. Little girls and boys saw their own hair turning white as snow

Credir bod dros 100,000 o bobl wedi’u lladd.

Roedd rhan fwyaf y mordeithiau a drafodwyd yn nhrefniadau criw Caerdydd yn llai cyffrous, ond mae’r cofnodion yn ddiddorol serch hynny, gan eu bod yn rhoi golwg i ni ar fasnach o borthladdoedd Morgannwg, bywyd ar long, ynghyd â gwybodaeth am y criw ac am y cyflyrau yr oeddent yn gweithio ynddynt.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s